Rydych yma : Hafan > Amdan Cymunedau'n Gyntaf

Beth yw Cymunedau yn Gyntaf?

Beth yw Cymunedau yn Gyntaf?

Cymunedau yn Gyntaf yw rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cynulliad Cymru i ymdrin â materion allgau cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n rhaglen tymor hir a sefydlwyd i barhau am o leiaf 10 mlynedd a bydd yn caniatáu pobl leol benderfynu eu hunain beth sydd ei angen, a'u helpu i wneud iddo ddigwydd.

Mae Cymunedau yn Gyntaf yn ceisio cael pobl leol i gyfrannu at wella eu hardaloedd, denu arian a chefnogaeth arall o ffynonellau gwahanol, i annog dulliau newydd o ddelio â phroblemau ac i gynnwys pawb i weithio gyda'i gilydd i wneud eu cymunedau yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt.

Lluniwyd Cymunedau yn Gyntaf i alluogi cymunedau i ddilyn datblygiad cynaliadwy a thaclo anfantais gymdeithasol eu hunain, drwy bartneriaethau lleol. Mae ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn cynnwys y 100 ward fwyaf difreintiedig yng Nghymru (fel y nodir ym Mynegai Aml-Amddifadedd Cymru 2000), 32 o ardaloedd llai (Pocedi o Amddifadedd), a 10 menter sector (Cynigion Dychmygus).

Sut mae'n gweithio?

Llunnir Partneriaeth ym mhob ardal Cymunedau yn Gyntaf ac mae'n cymryd y prif gyfrifoldeb am redeg y rhaglen. Mae'r Bartneriaeth yn cynnwys cynrychiolaeth o aelodau'r gymuned, y sector statudol a'r sectorau gwirfoddol a busnes.

Cyflogir Cydlynydd un ai gan y Bartneriaeth ei hunan, neu'r Corff sy'n Derbyn Grant sy'n gweithredu ar ran y Bartneriaeth, a chyda'i gilydd maent yn ymgynghori gyda'r gymuned am y pynciau, problemau a chyfleoedd sy'n bodoli.

O ganlyniad i'r broses ymgynghori hon, datblygir Cynllun Gweithredu Cymunedol i drafod pynciau a phroblemau a manteisio ar gyfleoedd. Defnyddir y cynllun hwn i wneud cais am arian a chyfuno gwasanaethau lleol.

Ble mae Cymunedau yn Gyntaf yn gweithredu ym Mhowys?

Ym Mhowys mae tair ardal Cymunedau yn Gyntaf:

Ystradgynlais

- sydd yn un o'r 100 ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru

Stad Oldford  yn Y Trallwng

 - sydd yn Boced o Amddifadedd

Bro Ddyfi (wardiau Llanbrynmair, Glantwymyn, Cadfarch a Machynlleth)

 - sydd wedi'u cynnwys fel Cynnig Dychmygus, ac sy'n cael ei ddisgrifio fel "Cadwyn o Gymunedau Gwledig". Pentrefi a phentrefannau ym mhedair ward Cyfrifiad Llanbrynmair, Glantwymyn, Cadfarch a Machynlleth yw'r gadwyn.