Mae Cymunedau yn Gyntaf yn un o brif raglenni Llywodraeth Cynulliad Cymru, sydd yn bodoli er mwyn rhoi cyfleoedd i bobl lleol i chwarae rhan brwdfrydig i ddylanwadu dyfodol eu cymunedau. Mae mwyafrif o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn ardaloedd trefol bychain, a ddewiswyd yn unol ag ystadegau amddifadiad. Nid yw Bro Ddyfi ymhlith yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, ond mae gennym bocedi o amddifadiad gyda phroblemau sy’n nodweddiadol o ardal wledig sef tlodi cudd, cymunedau pell ac unig, mynediad gwael at wasanaethau a chyflwr tai sy'n dirywio.
Mae ardal Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi yn cynnwys y rhan honno o Bowys sydd yn Nyffryn Dyfi, sef wardiau Machynlleth, Cadfarch, Llanbrynmair a Glantwymyn. Mae'n un o'r ardaloedd mwyaf sydd wedi'u cynnwys yn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ac yn un o'r rhai mwyaf gwledig a mwyaf Cymraeg ei hiaith. Mae'n unigryw yng Nghymru am ei bod yr unig ardal Cymunedau yn Gyntaf sy'n gofalu am yr un ardal yn union â Fforwm Lleol y Strategaeth Gymunedol Leol.
31st Jan 2012
Cylchlythyr Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi: Cyfres 2, Rhifyn 3…
1st Dec 2011
Cliciwch ar y ddolen yma i ddarganfod mwy am y…
7th Oct 2011
A oes gennych chi hen luniau, dogfennau neu atgofion o Machynlleth…
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys