Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Amdanom ni > Partneriaeth

Y Bartneriaeth

Arweinir y broses gan Bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, sydd hefyd yn gweithredu fel grŵp craidd y Fforwm Cymunedol Lleol ac mae'n defnyddio  Cyngor Sir Powys fel y corff cyfrifol i ddal cyllid a chyflogi staff ar ei rhan. Yn y mwyafrif o achosion, ni fydd y Bartneriaeth yn gweithredu prosiectau ei hunan, gan ddewis gweithio gyda phartneriaid lleol a rhanbarthol i ddatblygu a sicrhau arian ar gyfer mentrau a flaenoriaethwyd. Mae'r Bartneriaeth a'i gweithgorau yn cael eu ffurfio o gynrychiolwyr sefydliadau perthnasol yn ogystal ag unigolion o'r pedair ward. Y bwriad yw cael pobl leol i weithio gyda'i gilydd i wneud Bro Ddyfi yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo.

Drwy ei grwpiau thematig, mae'r Bartneriaeth yn archwilio pa gamau y gall cymunedau fwrw ymlaen gyda hwy (ar adegau drwy grwpiau gwirfoddol sy'n bodoli'n barod) a pha rai all ddisgwyl y byddant yn cael eu hariannu neu eu cyflwyno gan gyrff allanol.  Bydd y canolbwyntio ar y camau hynny a fyddant yn gallu elwa'r bobl mwyaf difreintiedig ac sy'n adeiladu sgiliau a hyder.

Mae Cynllun Gweithredu presennol Bro Ddyfi yn tynnu sylw at bynciau o dan y saith themau canlynol:  Tai  -  Cludiant a Chyfathrebu - Addysg a Hyfforddiant  -  Cefn Gwlad a'r Amgylchedd  -  Economi a Gwaith  - Gweithgareddau Cymunedol  -  Iechyd a Lles y Gymuned.

AELODAU Y BARTNERIAETH

(Yn cynnwys y sectorau a’r ardaloedd y maent yn cynrychioli)

 

Name Sector Area
William N Owen                                     Cymuned Glantwymyn
Nia Llywelyn                  Cymuned Glantwymyn
Ceris Rees Cymuned Llanbrynmair
Alison Coleman Cymuned Cadfarch
John Edwards Cymuned Machynlleth
Christopher Foster Cymuned Machynlleth
Andy Rowland Gwirfoddol Bro Ddyfi
Brenda Hughes Gwirfoddol Bro Ddyfi
Nicola Ruck Gwirfoddol Bro Ddyfi
Phil Roe Gwirfoddol/Busnes  Out of Area
Cyng Sir Gwilym Fychan Statudol Glantwymyn
PCSO Caron Monk (Tim Plismona Bro Machynlleth) Statudol Machynlleth
Kate Heneghan (Tim Iechyd Cyhoeddus Powys - NHPS)
Statudol Out of Area
Heledd Evans (Bwrdd yr Iaith Gymraeg) Statudol Bro Ddyfi
Sioned Jones Pritchard (Datblygu Gwasanaethau Bro/PPPI ) Statudol Bro Ddyfi
     
     

 

Ymunwch a Ni Nawr!!

A oes gennych ddwy neu dair awr y mis yn rhydd?
Os oes, dyma gyfle i chi allu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn yr ardal.  Mae lle i fobl sydd yn byw neu yn gweithio yn ardal Powys o Fro Ddyfi i ymuno â phartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi.

Pam Ymuno?

Dywedodd Cyril Evans, Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi:


" Mae'n swr bod na thipyn o fobl yn yr ardal a theimladau cryf iawn am rywbeth sydd yn digwydd, neu ddim yn digwydd ym Mro Ddyfi ar hyn o bryd, ond hwyrach heb fod a'r awydd neu yr hyder, neu yn wir heb gael y cyfle i leisio eich barn o'r blaen. Wel dyma gyfle gwych i chi drio gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i'r ardal brydferth yma".

Cysylltwch a ni am fwy o wybodaeth.