Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Ariannu

Ariannu

Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf

Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi galluogi grwpiau cymunedol i gael gafael ar dros £260,000 o arian drwy Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf ers 2002.  Defnyddiwyd yr arian hwn ar gyfer pethau fel mân welliannau ac arolygon mewn Neuaddau Pentref, llyfrau hanes, offer cerddorol & chyfarpar llwyfan, gwyliau & digwyddiadau, gwisgoedd côr, cyfrifiaduron & offer swyddfa, hyfforddiant, camerâu digidol & fideo, a phrynu pabell i alluogi pentref Penegoes gynnal digwyddiadau cymunedol.

Cliciwch yma i weld rhestr gyflawn o Grwpiau sydd wedi elwa, y swm a dderbyniwyd, a chrynodeb byr o beth gafodd ei ariannu (saesneg yn unig)

Gallwch dderbyn y pecyn ymgeisio diweddaraf  drwy gysylltu â llinell gymorth Cymunedau yn Gyntaf ar 0800 587 8898 neu e-bostiwch help@wcva.org.uk

neu

Ymwelwch â gwefan Canolfan Gwybodaeth Cymunedau yn Gyntaf i lwytho i lawr copi o’r Ffurflen Gais a’r Canllawiau.

* NODWCH: Mae nifer o newidiadau i’r meini prawf cymhwyso a’r canllawiau ar gyfer Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf eleni ac felly mae’n bwysig eich bod yn darllen y canllawiau cyn llenwi eich cais.

 

Ariannu eraill

Mae bod yn un o ddim ond tair ardal Cymunedau yn Gyntaf ym Mhowys yn ffactor sy'n cyfrannu, heb unrhyw amheuaeth, at ddenu adnoddau a chyllid ychwanegol i'r ardal, yn cynnwys y Ganolfan Plant Integredig, rhaglen  Mentro Allan (£220,000), cynllun Braenaru Daearyddol ELWa, Cymunedau@Ei Gilydd (Cais llwyddiannus gan MCCP Cyf. am £20,000), offer cae chwarae, cysgodfannau bysiau, camerâu CCTV, a pheiriannau dŵr i ysgolion.