1st May 2004
Daeth trigolion Ceinws yn llu i gyfarfod cyhoeddus diweddar, i ddweud beth hoffen nhw ei weld yn digwydd yn safle'r Comisiwn Coedwigaeth yn y pentref.
Roedd tai fforddiadwy i bobl leol a lle chwarae diogel ar frig y rhestr.
Diweddglo oedd y cyfarfod ar ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Rural Resources o'r Trallwng ar gais ecodyfi a Chymunedau'n Gyntaf, gyda chefnogaeth gan Awdurdod Datblygu Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth a Chyngor Cymuned Glantwymyn.
Dyma'r tro cyntaf am rai blynyddoedd i gyn swyddfa'r Comisiwn gael ei defnyddio a bu'r rhai oedd yn bresennol yn hel atgofion am y neuadd gymunedol a'r lle chwarae oedd yn arfer bod yn y safle.
Roedd Rural Resources hefyd wedi cynnal cyfweliadau ac wedi dosbarthu holiaduron i bob cartref a busnes lleol.
Barnai'r ymgynghorydd Phil Newcombe y gwelwyd yn glir beth oedd y blaenoriaethau lleol - sef darpariaeth tai fforddiadwy, lle chwarae ac adloniant a rhyw fath o gyfleustra i gynnal cyfarfodydd.
"Unwaith y byddwn wedi cwblhau ymchwilio'r rhain yn iawn, gellid darparu ar gyfer defnyddiau eraill eilradd", meddai.
Gallai rhai o'r defnyddiau eraill yma gyfrannu at ddichonoldeb ariannol y prif elfennau.
Er enghraifft gellid darparu lle swyddfa neu stiwdio ar gyfer cwmnïau, boed rheini ym maes crefftau, defnydd fideo neu rai o'r "cyfryngau newydd" eraill.
Cafwyd trafodaeth hefyd ar bosibilrwydd denu beicwyr i ddefnyddio cyfleusterau yn y safle wedi iddynt fod yn defnyddio rhai o'r llwybrau newydd a fwriadwyd ar gyfer Coedwig Dyfi gerllaw.
Hwyrach y byddai bwyty cymunedol fyddai'n agored ar y penwythnos yn ymarferol pe gellid apelio i amrywiaeth o ddefnyddwyr.
Mae'r trefnwyr nawr yn edrych ymlaen at yr ail gyfarfod, pan fyddent yn adrodd yn ôl canlyniadau yr ymgynghoriad yn fwy manwl ac yn helpu'r pentrefwyr penderfynu sut i symud pethau ymlaen.
![]() |
![]() |
![]() |
Mae cwmni lleol sef "Cyberium" wedi cael ei apwyntio i ddatblygu a dylunio wefan ar gyfer rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Powys.
Mi fydd tudalennau gwybodaeth ar gael ar y rhaglen ym Mhowys ar y cyfan, a hefyd ar y tair ardal Cymunedau yn Gyntaf ym Mhowys, sef Oldford, Ystradgynlais a Bro Ddyfi.
Dywedodd yr hwylusydd Cyril Evans, "mi fydd yr hyfforddiant yma yn rhoi cyfle i tua wyth o fobol yr ardal i ddysgu ychydig mwy am y gwahanol agweddau o weithio ar safleoedd we, ac er mae dim ond bedair awr yw'r gweithdy, mi fydd y tiwtor David Thorpe o gwmni "Cyberium" yn edrych ar wahanol agweddau o'r gwaith".
Esboniodd David "mae'r we wedi newid y ffordd mae pobl yn gweithio ac yn chwarae, a hefyd y ffordd i dderbyn gwybodaeth.
Mi fydd y 'gweithdy' yma, gyda sesiynau ymarferol a darluniadol gyda esiamplau safleoedd y we, yn edrych ar y pynciau canlynol:
Beth yw safon we?
Beth yw'r gost i gymharu a phrintio â hysbysu?
Beth allwch roi ar eich safon we?
Ffordd i ysgrifennu ar y we
Defnyddio Cymraeg ar y we
Pa feddalwedd a chaledwedd sydd ei angen?
Sut i wneud newidiadau syml
Sut i baratoi ag ychwanegu lluniau
Beth ddylem wybod am y gyfraith?
Aeth David ymlaen i ddweud "rydwyf yn eiddgar iawn y dylai'r we gael ei ddefnyddio yn gywir ac felly yn hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol".
Y gobaith yw, y budd aelodau o'r gymuned yn gallu helpu i gynal ac ychwanegu safle'r we Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi yn y dyfodol, ac os oes gennych ddiddordeb yn hyn ac yn y gweithdy, cysylltwch a Cyril neu Beverly yn
Llongyfarchiadau i Partneriaeth Cynllun Band Llydan Machynlleth ar eu hymgyrch llwyddiannus i gael cyfnewidfa Machynlleth ei galluogi ar gyfer Band Llydan.
Mae'r gwaith caled mae'r Grwp wedi rhoi mewn i gyflawni'r trothwy yn golygi bydd bobl sy'n byw o fewn 5-6 kilometr o gyfnewidfa Machynlleth yn gallu edrych ymlaen gyda disgwyliad pan fydd mynediad i'r we yn gyflymach.
Bydd hwn yn dod yn ddirwedd ar Medi 1af 2004.
'Does dim dwywaith amdani, bydd hun yn helpu i wneud ein hardal hardd yn lle gwell i weithio, gorffwys a chwarae, ac yn hwb enfawr i ardal Bro Ddyfi ar y cyfan, ac yn enwedig i'r sector busnes.
Yn canlyn y cyhoeddiad diweddar gan BT, disgwylir bydd cyfnewidfeydd eraill yn yr ardal yn cael ei galluogi erbyn haf 2005.
Mae Cymunedau yn Gyntaf mewn cydweithrediad a CAMAD, Ecodyfi, Cyngor Sir Powys a Chyngor Cymuned Glantwymyn a gyda chefnogaeth Cynghorau Cymunedol Llanbrynmair a Cadfarch a Cyngor Tref Machynlleth wedi cario allan dadansoddiad anghenion tai fforddiadwy a dadansoddiad cludiant yn ddiweddar.
Mi fyddwn wedi derbyn yr holiaduron a gafodd eu cwblhau erbyn hyn a bydd y canlyniadau yn cael ei dadansoddi er mwyn cynhyrchu adroddiadau.
Mwy ar hwn yn ein cylchlythyr nesaf, ynghyd â manylion enillwyr y gwobrwyon ariannol am ddychwelyd yr holiaduron.
Mae'r Ymarfer Gwerthuso Cyfranogol a gafodd ei gario allan gan 'Insight Social Research' bron wedi ei chwblhau, a'r gobaith yw y bydd yr adroddiad terfynol yn ein darparu gyda chryn dipyn o wybodaeth am anghenion bobl dydyn ni ddim wedi cyrraedd at eto a hefyd cymuned Bro Ddyfi ar y cyfan.
Fel rhan o Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, rydym yn bwriadu crynhoi cyfeiriadur o bob Grwp cymunedol, mudiad a chymdeithas leol, i ddarparu llun cynhwysfawr o beth sy'n digwydd yn ac o gwmpas ardal Cymunedau Yn Gyntaf Bro Ddyfi.
Hoffem gynnwys grwpiau, mudiadau a chymdeithasau sy'n cyfrannu at fywyd cymdeithasol, yn cael i redeg gan neu ar gyfer drigolion o'r gymuned yna.
Os hoffech chi gael eich Grwp, mudiad neu gymdeithas ei gynnwys yn rhad ac am ddim yn y cyfeiriadur yma, cysylltwch a Swyddfa Cymunedau yn Gyntaf ar 01654 700315, e-bost beverlyt@powys.gov.uk mor fuan ag sy'n bosib.
Mae clybiau lleol a mudiadau cymunedol yn cael eu hannog i rhoi gais i mewn am grantiau fyny at £750.
Mae'r 'Cist Gymunedol' yn gynllun grantiau sy'n cael ei ariannu gan Cyngor Chwaraeon Cymru mewn partneriaeth a Cyngor Sir Powys.
Bwriad y grantiau yw gwneud gwahaniaeth i chwaraeon lleol, gan cynnwys grantiau sy'n gwella, ychwanegu at neu greu cyfleodd newydd i wneud a chwaraeon.
Mae grantiau i fyny at £750 ar gael i unrhyw Grwp mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
Dyddiadau cau i wneud cais yn 2004, yw Ebrill 6ed, Mehefin 17eg, Awst 24ain, Hydref 5ed a Thachwedd 25ain.
Am wybodaeth ychwanegol cysylltwch a Tricia Jones Swyddog Datblygu Chwaraeon ar 01686 627971.
Mae gwybodaeth ychwanegol ar grantiau ar gael ar wefan PAVO www.pavo.org.uk.
Mae'r Cynulliad yn parhau gyda Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf .
Mae hwn yn gynllun o grantiau bychain a anelir at fudiadau cymunedol sy'n cynnwys bobl leol, ac mae'r gronfa am 2004/05 nawr ar gael am geisiadau.
Am fwy o wybodaeth, canllawiau neu ffurflen gais,
Ffoniwch lein gymorth Cymunedau yn Gyntaf ar 0800 5878898 neu gwelwch wefan Cymunedau yn Gyntaf ar www.cymunedauyngyntaf.info.
Ddydd Mercher Mai 26 yn Neuadd Bentref Cwmllinau am 1 o'r gloch,
Nos Lun Mehefin 21ain yn Canolfan Gofal Machynlleth am 6 o'r gloch
Ddydd Mercher Gorffennaf 14eg yn Canolfan Cymunedol Glantwymyn am 1 o'r gloch.
**Mae croeso i unrhyw un ddod i arsylwi'r cyfarfodydd Partneriaeth**
31st Jan 2012
1st Dec 2011
7th Oct 2011
7th Oct 2011
21st Sep 2011
12th Aug 2011
14th Jul 2011
23rd Jun 2011
17th Jun 2011
16th May 2011
16th May 2011
5th Apr 2011
5th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys