1st Jun 2004
![]() |
![]() |
|
Cyril Evans CF Bro Ddyfi, Sally Fawcett PAVO, Tom Addey CG Ystradgynlais, a David Thorpe Cyberium. |
Mick Bates AM yn lansio Wefan Cymunedau yn Gyntaf gyda aelodau a staff PAVO. |
Ar Ddydd Mawrth Gorffennaf 20fed 2004, fe lansiwyd Wefan Cymunedau yn Gyntaf ym Mhowys yn swyddogol gan Mick Bates AS yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Darpari'r arian i ddatblygu'r wefan gan PAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys) a roedd cwmni lleol sef Cyberium wedi cael ei apwyntio i ddatblygu a dylunio wefan ar gyfer rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Powys.
Mae tudalennau gwybodaeth ar gael ar raglen yn Mhowys ar y cyfan, yn ogystal â'r tair ardal Cymunedau yn Gyntaf yn Mhowys, sef Oldford, Ystradgynlais a Bro Ddyfi.
Am fwy o wybodaeth yn cynnwys cylchlythyron, dolennau defnyddiol, holiadur ar lein a newyddion o brosiectau sy'n mynd ymlaen, cliciwch ar www.commfirstpowys.org.uk. Top
Mae gwaith Cymunedau'n Gyntaf ym Mro Ddyfi wedi cyrraedd cyfnod newydd. Mae'r holl syniadau ac awgrymiadau yngly^n â dyfodol yr ardal wedi eu casglu ynghyd â syniadau ac awgrymiadau o'r cyfarfodydd y Fforwm Cymuned Leol, a didolwyd nhw i gyd yn ôl nifer o themâu a nawr mae angen eu trawsnewid i Gynllun Gweithredu i'r ardal a fydd yn cael i ysgrifennu erbyn Medi/Hydref.
Cynhaliwyd y pedwar cyd-cyfarfodydd cynllun gweithredu ar Addysg a Hyfforddiant, Yr Economi a Chyflogaeth, Cefn Gwlad a'r Amgylchedd a Cludiant a Chyfathrebu ym mis Gorffennaf, gyda aelodau o'r gymuned yn blaenoriaethu pa awgrymiadau oedd eisiau edrych ar yn y tymor byr, canolig a hir a gan pwy y dylent gael ei gyfeirio.
Mae croeso i chi fynychu a chyfranogi yn unrhyw un o'r cyfarfodydd canlynol:
Dydd Llun Medi 6ed 7.30yh - Canolfan Llanbrynmair - 'GWEITHGAREDDAU CYMUNEDOL'
Dydd Llun Medi 13eg 7.30yh - Canolfan Gofal Machynlleth - 'IECHYD A LLES CYMUNEDOL' (yn cynnwys Iaith a Diwylliant a Diogelwch Cymunedol)
Dydd Llun Medi 20ain 7.30yh - Neuadd Bentref Cwmllinau - 'TAI' gyda siaradwyr gwadd
Am fwy o fanylion cysylltwch a: Cyril Evans 01654 700315 e-bost cyril@powys.gov.uk neu Andy Rowland 01654 703965 e-bost andy.rowland@ecodyfi.org.uk Top
Mae 'Diwrnod Dathlu' cymunedol yn cael ei drefnu ar y cyd gan Cymunedau yn Gyntaf a Rhaglen Anghydraddoldebau ym maes Iechyd (Hybu Iechyd Powys) ar 16 Hydref 2004.
Pwrpas y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth o'r ddwy raglen a chodi'u proffil yn ardal Dyffryn Dyfi, edrych ymlaen i'r dyfodol ac annog cyfranogiad cymunedol ynghyd â darparu gwybodaeth am wasanaethau eraill yn yr ardal.
Cynhelir y digwyddiadau yng Nghaeau'r Plas, Celtica o 12-4pm a bydd yn ddiwrnod o hwyl, gyda gweithgareddau megis Peintio Wynebau, Sgiliau Syrcas, Crefftau, Arddangosfa o sglefr fyrddio, Castell Neidio a Barbeciw (i'w gadarnhau). Top
Mae'r holiaduron a gafodd eu cwblhau o'r Dadansoddiad Anghenion Cludiant a gafodd ei gario allan gan Cymunedau yn Gyntaf mewn cydweithrediad a Ecodyfi, CAMAD, Cyngor Sir Powys a Chyngor Cymuned Glantwymyn a gyda chefnogaeth Cynghorau Cymunedol Llanbrynmair a Cadfarch a Chyngor Tref Machynlleth, erbyn hyn wedi cael ei ddychwelyd a dadansoddi gan Transport for Quality of Life.
Mae nhw wedi cynhyrchu adroddiad manwl ar yr wybodaeth dderbyniodd, ac mae cop•au o'r adroddiad ar gael yn swyddfeydd Cymunedau yn Gyntaf, CAMAD ag Ecodyfi neu ar e-bost. Os hoffech chi weld copi, cysylltwch a swyddfa Cymunedau yn Gyntaf 01654 700315 neu e-bost cyril@powys.gov.uk
Mae canlyniadau y dadansoddiad Anghenion Tai dal yn y proses o gael i dadansoddi a'r gobaith yw y bydd ar gael yn y dyfodol agos. Top
Mae defnydd Offer Cyfieithu Cymunedau Yn Gyntaf Bro Ddyfi nawr ar gael.
Bydd Grwpiau Cymunedol yn gallu defnyddio'r offer yma yn rhad ac am ddim i cyfarfodydd, digwyddiadau ac yn y blaen, os ydych yn cytuno gyda thelerau ac amodau, yn cynnwys defnyddio cyfieithwr wedi ei gymeradwyo (rhestr ar gael yn Swyddfa Cymunedau yn Gyntaf).
Hefyd, bydd cwrs Hyfforddiant ar gael, yn rhad ac am ddim ar Cyfieithu ar y Pryd yn ardal Bro Ddyfi yn yr Gaeaf a fydd yn cynnwys defnyddio a gofalu am yr offer cyfieithu.
Bydd unrhyw un a fydd yn llwyddiannus yn cwblhau'r cwrs yma yn gallu cofrestru diddordeb gyda ni am gynhwysiad ar ein rhestr o gyfieithwyr wedi ei gymeradwyo.
Os hoffech chi dderbyn yr hyfforddiant neu eisiau defnyddio'r offer cyfieithu ar unrhyw bryd (os bydd ar gael) cysylltwch a swyddfa Cymunedau yn Gyntaf. Top
Rydym yn chwilio am unigolion yn ardal Dyffryn Dyfi i hyfforddi fel gweithwyr gofal plant cymwysedig neu gynorthwywyr meithrinfa, sy'n gallu gweithio ar sail ad hoc, i helpu i edrych ar ôl plant mewn meithrinfa swyddogol pryd bynnag y cynhelir cwrs neu ddigwyddiad yn yr ardal.
Mae hyfforddiant cynorthwywyr meithrinfa yn golygu un sesiwn dwy-awr yr wythnos dros gyfnod o chwe wythnos (gyda meithrinfa a bwffe am ddim) yng nghanolfan Celtica.
Bydd y cwrs yn cynnwys hyfforddiant Take 5 for Play, Cymorth Cyntaf Sylfaenol a Chymraeg ar gyfer y teulu (os yn berthnasol). Rhaid i unigolion hefyd fod yn fodlon derbyn Archwiliad Manwl gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.
Fodd bynnag, gallwch ymgymryd â'r hyfforddiant hyd yn oed os nad ydych yn dymuno gweithio ar sail ad hoc, ond eich bod eisiau ennill mwy o gymwysterau.
Mae'r holl hyfforddiant am ddim ac fe'i hariennir gan y Rhaglen Anghydraddoldebau mewn Iechyd ac os ydych am fwy o wybodaeth a'r hyfforddiant a dyddiadau'r cyrsiau, ffoniwch Cerys Humphreys, Swyddog Hybu Iechyd ar 07815 736912 neu Helen Jones, Cychwyn Cadarn ar 01654 703077.
Nod y gronfa yw cynorthwyo adferiad cefn gwlad trwy cefnogi sioeau a gweithgareddau eraill a wnaiff ddarparu cyfleoedd marchnata a masnachu lleol.
Gellir ystyried ceisiadau gan sefydliadau cyhoeddus, preifat neu wirfoddol a'r gweithgareddau y gellir eu cefnogi gan y gronfa yw, sioeau a digwyddiadau newydd, sioeau a digwyddiadau sydd eisoes yn bodoli all ddangos ychwanegoldeb/gweithgaredd newydd neu weithgareddau marchnata ar y cyd a fydd yn golygu gwell cyfleoedd masnachu neu werth ychwanegol.
Yr uchafswm o noddiant sydd ar gael yw £5,000, gyda disgwylir i ymgeiswyr gyfrannu isafswm o 20% tuag at y gost o ffynonellau eraill neu o'u coffrau eu hunain.
Bydd y gronfa ar gael rhwng Gorffennaf 1af 2004 a Mawrth 2005. Am ragor o wybodaeth, cysyllter a Catrin Roberts, Awdurdod Datblygu Cymru ar 01970 613210 e-bost catrin.roberts@wda.co.uk
Yn olaf y chwarter yma, hoffai'r Partneriaeth a'r Hwylusydd diolch o galon i'r weinyddes Beverly Thorndyke am yr holl waith caled mae hi wedi gwneud dros yr unarddeg mis diwethaf dros Cymunedau yn Gyntaf, ac er bod yn ddrwg iawn gennym dderbyn ei ymddiswyddiad, hoffem ddymuno'n dda iddi hi yn ei swydd newydd gyda Banc National Westminster.
Hoffwn hefyd ddiolch i'r Cadeirydd Arfon Hughes Menter Maldwyn am ei gyfraniad gwerthfawr i broses Cymunedau yn Gyntaf, yn enwedig gyda materion yr Iaith a Diwylliant Cymraeg.
Mae Arfon wedi derbyn swydd newydd gyda Tai Eryri ac felly ym methu parhau fel aelod statudol o'r Partneriaeth oherwydd bod ei swydd newydd tu allan i'r ardal.
Unwaith eto, hoffai'r Partneriaeth a'r Hwylusydd dymuno'n dda i Arfon yn ei swydd newydd.
Bydd mwy yn y wasg lleol a'r cylchlythyr nesaf am ddilyniant Partneriaeth i Bartneriaeth ffurfiol Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, a hefyd newyddion am aelodau newydd.
**Mae croeso i unrhyw un ddod i arsylwi'r cyfarfodydd Partneriaeth**
31st Jan 2012
1st Dec 2011
7th Oct 2011
7th Oct 2011
21st Sep 2011
12th Aug 2011
14th Jul 2011
23rd Jun 2011
17th Jun 2011
16th May 2011
16th May 2011
5th Apr 2011
5th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys