1st Aug 2004
Beth am helpu i greu ein cynllun gweithredu lleol!
Mae gwaith Cymunedau'n Gyntaf ym Machynlleth, Cadfarch, Glantwymyn a Llanbrynmair wedi cyrraedd cyfnod newydd. Casglwyd llawer o awgrymiadau ynglyn â dyfodol Dyffryn Dyfi yn ystod yr ymgynghori fu â chymunedau. Diolch yn fawr i chi!
Yn yr un modd, mae llawer o bobl yr un ardal wedi cyfrannu eu syniadau yn ystod digwyddiadau a drefnwyd gan Fforwm y Gymuned Leol (sy'n rhan o waith y strategaeth gymunedol ym Mhowys).
Didolwyd yr holl syniadau yma yn ôl nifer o themâu, a rydym yn eu trawsnewid yn gynllun gweithredu drafft ar gyfer yr ardal. Golyga hyn benderfynu pa rai wnaiff wneud gwahaniaeth gwirioneddol, pwy fydd yn eu sylweddoli a pha mor fuan, yn ogystal â chanfod sut fath o weledigaeth a gynigir ganddynt oll.
Estynnir gwahoddiad i chi helpu i wneud hyn. Cychwynodd y gwaith yn ystod mis Gorffennaf a mae manylion cyfarfodydd mis Medi drosodd. Rhoir gwybod hefyd yn y cyfarfodydd beth sydd yn nrafft Strategaeth Gymunedol Powys, er mwyn deall sut y bydd yn cyd-fynd â'n dyheadau (neu ddim!).
Croeso i bawb!
Gwybodaeth bellach:
Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi 01654 703965
Cyril Evans, Hwylusydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi 01654 700315
31st Jan 2012
1st Dec 2011
7th Oct 2011
7th Oct 2011
21st Sep 2011
12th Aug 2011
14th Jul 2011
23rd Jun 2011
17th Jun 2011
16th May 2011
16th May 2011
5th Apr 2011
5th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys