30th Oct 2004
Fe gynhaliwyd diwrnod dathlu cymunedol ar dir y Plas, ac yn Canolfan Hamdden Bro Dyfi ar y 16ed o Hydref, i roi gwybodaeth am y gwaith sy'n cael ei wneud yn y gymuned gan gwahanol fudiadau, ac i ddod ar Gymuned at ei gilydd drwy ddiwrnod o hwyl a dathlu.
Pwrpas y diwrnod oedd codi ymwybyddiaeth a phroffil Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, a rhaglen Anghydraddoldeb mewn Iechyd (Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru) ac eraill sydd yn weithgar yn y gymuned ym Mro Dyfi,ac i edrych ymlaen at y dyfodol.
Fe gafodd y diwrnod ei drefnu a'i ariannu gan y ddwy rhaglen bwysig yma yn cydweithio mewn partneriaeth.
Fe ddywedodd Cyril Evans, Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi: "Fe ddaeth llawer o fudiadau lleol at ei gilydd i dd angos y gwaith maent yn gwneud yn y gymuned, ac mi roedd y rhain yn cynnwys: Anghydraddoldeb mewn Iechyd, Cymunedau yn Gyntaf, 'Royal British Legion' (Ardal Machynlleth), Croesffyrdd Trefaldwyn, 'Cambrian arts society', Cynulliad Cenedlaethol Cymru,'PAVO', Bwrdd yr Iaith, a TWF, Ecodyfi, CAMAD, Llyfrgell Teganau, Chwarae Maldwyn, Masnach Deg, a Gwerin y Coed.
"Yn ogystal ar uchod, roedd hefyd sioe bypedau gan Vagabondi, ac adloniant Cymraeg gan Alun Tanlan ac eraill, a oedd wedi ei drefni gan Llinos Jones Williams, Swyddog Datblygu, Bwrdd yr Iaith".
Aeth y Swyddog Hybu Iechyd, Cerys Humphreys, ymlaen i ddweud: "Yn ychwanegiad ir arddangosfeydd oedd i weld ar dir y Plas, roedd hefyd weithgareddau rhad ac am ddim i blant yn y Ganolfan Hamdden yn cynnwys: paentio wynebau, castell neidio, gweithdy bypedau, sgiliau syrcas, celf a chrefft, gweithio gyda fideo, peiriant (beic) gwneud 'smoothies' a hefyd sesiynau yoga a bocsio cic"
Roedd Cerys a Cyril yn cytuno mai uchel bwynt y diwrnod oedd gweld y plant yn mwynhau ei hunain mor gymaint, ac yn mynd gartref gyda wynebau lliwgar a gwen llydan.
Agorwyd y diwrnod Myra Francis o CAMAD, a gyflwynodd gopi o asesiad tai a chludiant a gafodd ei gario allan yn yr ardal yn ddiweddar gan Cymunedau yn Gyntaf trwy weithio mewn partneriaeth a CAMAD, Ecodyfi, Cyngor Sir Powys, a Chyngor Cymuned Glantwymyn, gyda chefnogaeth oddi wrth Cyngor Tref Machynlleth a chynghorau Cymunedol Llanbrynmair a Cadfarch.
Hefyd, mi gyflwynodd Myra wobrau i enillwyr y raffl ar gyfer y rheini a lenwodd a dychwelyd holiaduron ar gyfer y ddau asesiad anghenion.
Byddai Cyril a Cerys yn hoffi diolch yn fawr iawn i'r mudiadau, grwpiau, ac unigolion, a ddangosodd ei gwaith, yn ogystal â'r rheini a gynhaliwyd gweithdai, ac i bawb a roddodd ei amser i fyny i drefnu a helpu allan ar y diwrnod, yn cynnwys aelodau o bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf.
31st Jan 2012
1st Dec 2011
7th Oct 2011
7th Oct 2011
21st Sep 2011
12th Aug 2011
14th Jul 2011
23rd Jun 2011
17th Jun 2011
16th May 2011
16th May 2011
5th Apr 2011
5th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys