Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Newyddion > Cynllun gweithredu ar gyfer Dyffryn Dyfi

Cynllun gweithredu ar gyfer Dyffryn Dyfi

1st Apr 2004

Cynllun gweithredu ar gyfer Dyffryn Dyfi

Mae gwahoddiad yn cael ei estyn i drigolion a busnesau yn y rhan o Ddyffryn Dyfi sydd ym Mhowys i helpu i lunio cynllun gweithredu i wella ansawdd bywyd a bywiogrwydd yr ardal.

Bydd pob un o'r pedwar achlysur cyhoeddus a drefnwyd ar gyfer mis Gorffennaf yn canolbwyntio ar thema benodol ac yn dod â'r ddau gorff fu'n ymchwilio anghenion lleol ynghyd.

Trafodir rhan berthnasol drafft Strategaeth Gymunedol Powys ym mhob cyfarfod hefyd.

Mae gwaith Cymunedau'n Gyntaf ym Machynlleth, Cadfarch, Glantwymyn a Llanbrynmair yn cyrraedd cyfnod newydd.

Casglwyd llawer o awgrymiadau ynglyn â dyfodol Dyffryn Dyfi yn ystod yr ymgynghori fu â chymunedau.

Yn yr un modd, mae llawer o bobl yr un ardal wedi cyfrannu eu syniadau yn ystod digwyddiadau a drefnwyd gan Fforwm y Gymuned Leol (sy'n rhan o waith y strategaeth gymunedol ym Mhowys).

Andy Rowland yw Cadeirydd y Fforwm. "Didolwyd yr holl syniadau yma yn ôl nifer o themâu, ond bellach mae angen i ni eu trawsnewid yn gynllun gweithredu drafft ar gyfer yr ardal", meddai.

"Golyga hyn benderfynu pa rai wnaiff wneud gwahaniaeth gwirioneddol, pwy fydd yn eu sylweddoli a pha mor fuan, yn ogystal â chanfod sut fath o weledigaeth a gynigir ganddynt oll."

Cynhelir y noson gyntaf yng Nghanolfan Gymunedol Llanbrynmair ar Ddydd Llun Gorffennaf 5ed.

Bydd yn rhoi ystyriaeth i addysg a hyfforddiant, yn cynnwys goresgyn rhwystrau i ddysgu.

Dydd Mercher yr un wythnos, bydd y cyfarfod yng Nghanolfan Gofal Machynlleth yn trafod yr economi a chyflogaeth.

Ymysg eitemau allweddol bydd twristiaeth gweithgareddau cynaliadwy, gofal plant a chreu economi lleol neilltuol yn seiliedig ar adnoddau lleol.

Ar Ddydd Llun Gorffennaf 12fed, bydd noson yng Nghanolfan Gymunedol Glantwymyn, Abertwymyn yn rhoi sylw i gefn gwlad a'r amgylchedd, yn cynnwys materion megis gwastraff ac ailgylchu.

Bydd cludiant yn brif pwnc trafod yng Nghanolfan Owain Glyndwr ar Ddydd Mercher Gorffennaf 14eg, pan ddarperir canlyniadau'r Arolwg Anghenion Cludiant diweddar.

Bydd y digwyddiad yma'n cwmpasu beicio, cerdded a chludiant cymunedol yn ogystal â darpariaeth cludiant cyhoeddus.

Cyfarfodydd i gyd yn cychwyn am 7.30 y.h.

Gwybodaeth bellach:

Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi 01654 703965
Cyril Evans, Hwylusydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi 01654 700315

line Top

Back to Main News Page