Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Newyddion > Cylchlythyr Gwanwyn / Haf 2005

Cylchlythyr Gwanwyn / Haf 2005

21st Jun 2005

Cylchlythyr Gwanwyn / Haf 2005

Cyfeiriadur Cymunedol

Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi cynhyrchu 'Cyfeiriadur Cymunedol' newydd yn ddiweddar, sy'n cynnwys grwpiau, mudiadau a chymdeithasau er mwyn rhoi darlun cynhwysfawr o beth sy'n digwydd yn, ac o gwmpas ardal Bro Ddyfi.

Mae'r cyfeiriadur ar gael ar wefan Cymunedau yn Gyntaf yma, ac mae copiumlau caled ar gael o'r swyddfa.

Os nad yw eich grwp, mudiad neu gymdeithas wedi ei gynnwys, gallwch gwblhau'r ffurflen sydd i'w chael ar ein gwefan neu o'r swyddfa, fel eich bod yn cael eich cynnwys yn yr argraffiad nesaf.

Top

Camerâu digidol a thystysgrifau

Cyflwynodd Cyril Evans, cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf, gamerâu digidol a thystysgrifau i Ysgolion Cynradd Llanbrynmair a Machynlleth yn ddiweddar ar ran Hayley Fisk o 'Insight Social Research', o Gasnewydd, a oedd wedi bod yn garedig iawn yn anrhegu athrawon a phlant y ddwy ysgol er mwyn diolch iddynt am gymryd rhan yn yr Ymarfer Gwerthuso Cyfranogol a drefnwyd gan y cwmni yn yr ardal ar ran Cymunedau yn Gyntaf.

Roedd y plant wedi cymryd rhan mewn grwpiau ffocws, a hefyd wedi bod yn tynnu lluniau o'r hyn maent yn ei hoffi neu ddim yn ei hoffi yn eu hardal.

Plant o ysgolion Cynradd Machynlleth yn cael eu cyflwyno gyda'r camerâu a'r tystysgrifau
Plant o ysgolion Cynradd Machynlleth yn cael eu cyflwyno gyda'r camerâu a'r tystysgrifau<
Llun: Plant o ysgolion Cynradd Llanbrynmair a Machynlleth yn cael eu cyflwyno gyda'r camerâu a'r tystysgrifau.

 

Top

Aelodau a Chadeirydd newydd i'r Partneriaeth

Mae Cerys Humphreys, Swyddog Anghydraddoldeb mewn Iechyd Bro Ddyfi, wedi cymryd drosodd fel cadeirydd y bartneriaeth oddi wrth y Cynghorydd Gwilym Fychan, sydd yn parhau i fod yn aelod gweithgar o'r bartneriaeth.

Mae'r bartneriaeth ei hunan wedi cynyddu i bymtheg aelod, a hoffem estyn croeso cynnes i Brenda Hughes (CAMAD), Meic Llewellyn (Glantwymyn), John Isherwood (Busnes), a Siwan Hywel (Bwrdd yr Iaith).

Rydym hefyd yn falch iawn bod Myra Francis, sydd wedi gadael CAMAD ar ôl blynyddoedd o weithio yn y gymuned leol a'i chefnogi, yn parhau i fod yn rhan o'r bartneriaeth fel un o gynrychiolwyr Cymuned Machynlleth.

Hoffem ddymuno pob lwc iddi hi yn ei swydd newydd gyda Gwasanaeth Cymdeithasol Ceredigion.

Top

Cronfa y chwarter - 'UKVillages Community Kitty'

Mae 'UKVillages' yn wefan sy'n rhoi gwybodaeth a newyddion i bentrefi trwy Brydain.

Mae dros 30,000 o gymunedau wedi ymaelodi yn barod.

Mae 'UKVillages' yn gweithredu Cronfa Gymunedol, sy'n cynnig grantiau bach (£50 hyd at £500) ar gyfer prosiectau cymunedol trwy Brydain ac Iwerddon.

Mae'n rhaid gwneud ceisiadau ar lein ar UKVillages.

Top

Pecynnau Rhyngwyneb Cymraeg

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Microsoft yn falch o gyhoeddi bod Pecynnau Rhyngwyneb Cymraeg i Microsoft Office 2003 a Microsoft Windows XP bellach ar gael yn rhad ac am ddim o www.bwrdd-yr-iaith.org.uk.

Mae hyn yn golygu bod modd i chi ddefnyddio Microsoft Office 2003 a Microsoft Windows XP yn y Gymraeg.

Bydd y dewislenni a'r dewisiadau a welwch chi yn y Gymraeg.

Mae gwirydd sillafu Cymraeg am ddim i Microsoft Office 2003 a hyd yn oed ffordd hwylus o gael to bach - yn cynnwys 'w' a 'y'.

Top

Gwefan Tai Fforddiadwy

Mae adran Bro Ddyfi o wefan Cymunedau yn Gyntaf Powys bellach yn cynnwys adran Ffynhonnell Wybodaeth ar-lein ar gyfer Tai Fforddiadwy.

Mae prinder tai fforddiadwy yn bryder cymdeithasol difrifol, ac mae pobl yn edrych am atebion newydd cymunedol.

Er enghraifft, mae 'Partneriaeth Adfywio Heulfryn' yn archwilio'r posibiliadau o greu 'Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol' fel strwythur cyfreithiol ar gyfer perchenogi a datblygu tai fforddiadwy yn ogystal â lle chwarae ar gyfer pobl leol.

Y bwriad yw y bydd y ffynhonnell wybodaeth yn gweithio fel man cychwyn ymchwilio, ac i roi gwybodaeth i bobl leol am y modd y gallant ymwneud mwy gyda phrosiectau posibl yn eu pentref/ardal, a hefyd sut i ymuno gyda 'Grwp Tai Cymunedau yn Gyntaf'.

Am fwy o wybodaeth ar dai fforddiadwy, a rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, gallwch edrych ar ein gwefan www.cymgyntafpowys.org.uk a chlicio ar Bro Ddyfi.

Os oes gennych wefan eich hun, mae croeso i chi gynnwys dolen i'r safle hwn.

Top

Cyd-ymweliad

Aeth Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi ar gyd-ymweliad gyda Thregaron (a phentrefi'r ucheldir o gwmpas) i ardal Cymunedau yn Gyntaf Pen Llyn yn ddiweddar.

Dyma dair o'r ardaloedd mwyaf gwledig a Chymreigaidd sydd wedi cael eu cynnwys yn rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, a gall fod o gymorth i ni i gyd i gydweithio, helpu'n gilydd a dysgu oddi wrth ein gilydd am beth sydd (ac na sydd), yn gweithio'n dda yn ein hardal.

The three Co-ordinators and Partnership members during the visit to Pen Llyn.Cawsom groeso cynnes iawn gan Rhys Evans, Cydlynydd Pen Llyn, ac aelodau o'r Bartneriaeth, a rhyngddynt rhoesant ddarlun clir iawn o beth sy'n digwydd yn, ac o gwmpas yr ardal ar hyn o bryd, a hefyd sut maent wedi manteisio ar fod mewn ardal sydd wedi'i chynnwys yn rhaglen Cymunedau yn Gyntaf.

Llun: Y tri Cydlynydd ac aelodau o'r Partneriaethau yn ystod yr ymweliad ag ardal Pen Llyn.

Top

Rhoi Cymunedau Gwledig a Chymraeg eu hiaith yn Gyntaf

Cynhaliwyd seminar undydd yn Celtica, Machynlleth ar yr 20fed o Ebrill, er mwyn edrych ar faterion Iaith a bywyd gwledig oddi mewn i raglen Cymunedau yn Gyntaf.

Ardaloedd trefol yw llawer o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, ac mae yna ogwydd trefol i arfer da ym maes adfywio cymunedol ar hyn o bryd.

Mae'n bosibl na roddir ystyriaeth i faterion y mae cymunedau bychain, dwyieithog mewn ardaloedd tenau eu poblogaeth yng Nghymru'n gorfod eu codi a'u hwynebu.

Cynrychiolwyr yn y seminar diweddarNod yr achlysur hwn, a noddwyd gan Cymunedau yn Gyntaf Powys, a'i drefnu gan Sally Fawcett o PAVO, oedd edrych ar gyd-destun gwledig Cymunedau yn Gyntaf.

Cafodd y rhai a oedd yn bresennol gyfle i edrych ar y materion hyn trwy gyfrwng cyflwyniadau a gweithdai trafod mewn grwpiau.

Cafwyd cyfraniadau gan Cydlynwyr Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, Tregaron a Phen Llyn, a hefyd gan Chris Johnes (Rhwydwaith Cefnogi Cymunedau yn Gyntaf), Morys Gruffydd (Swyddog Datblygu Cynllunio Ieithyddol Cymunedol o ymgynghoriaeth Cwmni Iaith), a Llyr Huws Gruffydd (Menter a Busnes).

Bydd adroddiad o'r diwrnod yn cael ei gyflwyno i Alyn Owen o swyddfa Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghaernarfon.

Llun: Cynrychiolwyr yn y seminar diweddar.

Top

Grwpiau Themâu

Mae'r Grwpiau Themâu ar hyn o bryd yn tacluso'r gwahanol adrannau o'r Cynllun Gweithredu,

a hefyd yn dynodi gyda phwy y dylem fod yn cydweithio, a pha asiantaethau a sefydliadau eraill yr ydym angen eu cynnwys er mwyn symud y rhaglen yn ei blaen.

Felly os oes diddordeb gennych mewn thema arbennig, ond hwyrach ddim yn y rhaglen yn gyfan gwbl, dyma'ch cyfle i helpu gyda'r gwaith pwysig yma.

Does dim angen unrhyw brofiad o weithio yn y gymuned yn flaenorol, yn wir buasem yn falch iawn o weld wynebau newydd yn dod i gymryd rhan yn y broses arbennig yma.

Felly os oes gennych ddiddordeb mewn:

  • Tai

  • Yr Economi a Gwaith

  • Addysg a Hyfforddiant

  • Cefn Gwlad a'r Amgylchedd

  • Iechyd a Lles y Gymuned (gan gynnwys Iaith a Diwylliant, Ieuenctid, Yr Henoed, a Diogelwch y Gymuned)

  • Gweithgareddau yn y Gymuned

  • neu Cludiant a Chyfathrebu

ac yn awyddus i ymwneud mwy gyda'r gwaith yma, buasem yn ddiolchgar pe baich yn cysylltu gyda'r swyddfa yn:
Ty Bro Ddyfi, 52 Heol Maengwyn, Machynlleth, Powys, SY20 8DT.
Rhif ffôn: 01654 700 315.

Am fwy o wybodaeth am y broses bwysig yma, ac am y Bartneriaeth, gallwch edrych ar y wefan hon.

Top

Cronfa Cymunedau yn Gyntaf

Gwahoddir ceisiadau am arian o Gronfa Cymunedau yn Gyntaf ar hyn o bryd.

Mae grantiau bach ar gael i grwpiau o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ar gyfer unrhyw fath o weithgareddau sy'n ymwneud â phobl leol trwy sefydliadau bychain a arweinir gan y gymuned.

Mae'r gronfa wedi'i hanelu i gefnogi gweithgareddau sydd o les economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol neu ddiwylliannol i'r bobl.

Gallwch ddarganfod os ydy eich grwp chi'n gymwys i gyflwyno cais am arian o'r gronfa hon, a derbyn pecyn cais trwy ffonio 0800 587 8898 neu e-bostio enquiries@communitiesfirst.info.

Os ydych eisiau gweld enghreifftiau o rai pethau sydd wedi'u hariannu gan y gronfa, gallwch edrych ar www.cymunedauyngyntaf.info.

Mae Bro Ddyfi wedi elwa tua £90,000 o'r gronfa yma hyd yn hyn, yn cynnwys y grwpiau canlynol:

'The Mach Live Club'

Daear Elfennol

Prosiect Plant Machynlleth

Neuadd Bentref Cwmllinau

Cylch Meithrin Ti A Fi Glantwymyn

CAMAD - Clwb Joan a Darby

Theatr Geffylau Equilibre

Y Ganolfan Aberhosan

Neuadd y Jiwbili Cemaes

Meithrinfa Gymunedol Machynlleth

Gwyl Geltaidd Glyndwr

Côr Gore Glas

Menter Addysg Coedwig Bro Ddyfi

Bron i'r Babi (BIBS)

Eisteddfod Powys Bro'r Blewyn Glas

Clwb Rygbi Machynlleth

Canolfan Owain Glyndwr Cyf

'Mach Teenzone'

Fideo i Bawb

Canolfan Cynghori Bro Ddyfi

Cymdeithas Hanes Lleol Llanbrynmair

Achubwyr Hadau Bro Ddyfi

'Mind out for music'

Gweithrediad Cymunedol Machynlleth a'r Dosbarth (CAMAD)

Cymdeithas Rhieni Athrawon a Chyfeillion Ysgol Bro Ddyfi

 

 

Mae rhai o'r prosiectau a ariannwyd a'r eitemau a brynwyd gan y grwpiau yma trwy'r gronfa hon yn cynnwys: Gwelliannau bychain ac archwiliadau i neuaddau pentref, cynhyrchu llyfr o hanes Llanbrynmair, gwelliannau i'r gegin yng Nghlwb Rygbi Machynlleth, offer:

  • cerddoriaeth a llwyfan

  • sawl gwyl a digwyddiadau eraill

  • gwisg côr

  • cyfrifiaduron ac offer swyddfeydd

  • hyfforddiant

  • camerâu fideo a digidol a llawer mwy

yn cynnwys hyd yn oed babell fawr gan Clwb Crewi o Benegoes, sy'n bentref sy'n ehangu ond heb le i gynnal digwyddiadau cymdeithasol.

Top

Manylion cyswllt a gwybodaeth arall

Am fwy o wybodaeth am broses Cymunedau yn Gyntaf yn yr ardal hon, gallwch ymweld â'n gwefan www.cymgyntafpowys.org.uk neu cysylltwch â'r swyddfa yn:
Ty Bro Ddyfi, 52 Heol Maengwyn, Machynlleth, Powys, SY20 8DT.
Rhif ffôn: 01654 700 315.

Top

**Mae croeso i unrhyw un ddod i arsylwi'r cyfarfodydd Partneriaeth**

Top

Back to Main News Page