28th Nov 2005
Cynhaliodd Grwp Tai Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi gyfarfod llwyddiannus (mwy na 25 o bobl yn bresennol), yn Eglwys Llanwrin, Medi 20fed, 2005.
Pwrpas y cyfarfod oedd ymgynghori â'r gymuned leol a chreu cyfle i drafod yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer Tai Fforddiadwy yn Llanwrin a'r ardal o gwmpas y pentref. Roedd yn gyfle hefyd i hysbysu pobl am y Grant Tai Cymdeithasol, yn ogystal ag argymhellion Cymdeithas Dai Canolbarth Cymru (CDCC).
Estynnwyd croeso i bawb gan y Cynghorydd Gwilym Fychan a chafwyd cyflwyniad byr o drefn y cyfarfod ganddo cyn iddo gyflwyno David Thomlinson, Swyddog Datblygu Strategaeth Tai Gwledig Cyngor Sir Powys. Cyflwynodd yntau wybodaeth gefndirol yn cynnwys tystiolaeth o'r angen, y Grant Tai Cymdeithasol, a'r argymhellion presennol ar gyfer y safle sy'n bodoli eisoes ac yn eiddo i CSP. Yn dilyn hyn cafwyd cyflwyniadau er mwyn rhannu gwybodaeth gan Richard Grant a John Green o CDCC, yn egluro beth sydd wedi'i gyflawni mewn llefydd eraill ym
Yna cafwyd trafodaeth gyffredinol a sesiwn cwestiwn ac ateb ddefnyddiol iawn, a chodwyd nifer o bwyntiau diddorol a pherthnasol.
Pe digwydd i gais Cyngor Sir Powys am Grant Tai Cymdeithasol ar gyfer safle Llanwrin fod yn llwyddiannus, yna cynhelir cyfarfod arall.
Mwy o wybodaeth am Dai Fforddiadwy.
Os oes gennych eich gwefan eich hunan, yna mae croeso i chi ychwanegu cyswllt i'r safle hwn.
[pennawd] John Green o Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru yn annerch y digwyddiad Tai Fforddiadwy diweddar yn Eglwys Llanwrin
Lansiwyd gwefan newydd, a grëwyd gan Achub y Plant a Nwy Prydain gyda'r bwriad o roi cyfle i blant a phobl ifanc ddweud eu dweud am faterion lleol sy'n effeithio arnyn nhw a datblygu prosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn yr ardal lle maen nhw'n byw.
Ewch i'r wefan yn: www.helpyourselves.org.uk.
Gwirfoddolwyr y MileniwmMae arian ar gael i fudiadau yng Nghymru sy'n rhedeg prosiectau sy'n cynyddu gwirfoddoli ymhlith pobl ifanc 16-24 oed. Mae grantiau rhwng £500 a £7,000 ar gael i bartneriaid cyflenwi cofrestredig a phrosiectau sy'n cael eu harwain gan bobl ifanc i gyfrannu at eu treuliau, eu cynhaliaeth ac i hyfforddi Gwirfoddolwyr y Mileniwm.
Y dyddiad cau nesaf yw 9 Rhagfyr 2005.
Mae manylion pellach ar gael trwy fynd i: www.wcva.org.uk
Mae'r ymddiriedolaeth yn noddi prosiectau sy'n helpu i liniaru tlodi ac yn ffafrio prosiectau bach cymunedol a lleol sy'n gwneud defnydd da o wirfoddolwyr a lle rhoddir pwyslais ar hunan-gymorth, meithrin hunan-barch a galluogi pobl i wireddu eu potensial. Dyma'r categor•au a ariennir: lles cymdeithasol; troseddwyr, cymunedau, digartrefedd, creu swyddi, lleiafrifoedd ethnig (gan gynnwys ffoaduriaid), y celfyddydau, cadwraeth a'r amgylchedd. Fel arfer, rhoddir grantiau gwerth rhwng £5,000 a £15,000, cyfalaf a refeniw, ac fe ellir rhoi grantiau am gyflogau neu gostau rhedeg fesul blwyddyn am hyd at uchafswm o dair blynedd. Cynhelir y cyfarfodydd ar gyfer gwneud penderfyniadau ym mis Mawrth, Mehefin, Medi a Rhagfyr bob blwyddyn.
Gallwch daro golwg dros y canllawiau ar y wefan yn www.jpgettytrust.org.uk.
Digwyddiad ymgynghoriad Iechyd y meddwlO ganlyniad i dderbyn arian o Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau'n Gyntaf, cynhaliodd dau brosiect elusennol lleol, sef Cefnogaeth i Deuluoedd Hafal a Rekindle ddiwrnod iechyd meddwl 'Tyfu gyda'n Gilydd' yng Nghanolfan Gymdeithasol Machynlleth yn ddiweddar.
Roedd y digwyddiad yn rhan o brosiect ymchwil oedd yn edrych ar anghenion a dyheadau teuluoedd ym Mro Ddyfi sy'n ymdopi gydag afiechyd meddwl difrifol.
Casglodd y trefnyddion farn trigolion Bro Ddyfi am y ddarpariaeth ym maes Gwasanaeth Iechyd Meddwl sydd i'w gael yn yr ardal trwy wahanol ddulliau o ymgynghori, gan gynnwys 'Coeden Ddymuniad' lle'r oedd y bobl yn gallu rhoi'u hanghenion a'u dyheadau ar ddail a'u hongian ar y goeden,
<
Roedd yno stondinau gwybodaeth, stondinau amrywiol eraill a gweithdai arlunio hefyd.
[pennawd] Shân Parker, Gweinyddes Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi ar ein stondin yn digwyddiad Hafal
[pennawd] Julie Cannon Arweinyddes Tim Hafal gyda'r Celfyddwr Desmond Harrison ac eu Gofalwraig Pat Cook
Cafwyd ymweliad a'r ardal yn ddiweddar gan swyddogion o Lywodraeth Cynulliad Cymru, sef Alyn Owen, Carys Thomos ac Iwan Jones, ac mi gawsant gyfle i drafod y gwahanol agweddau o raglen Cymunedau yn Gyntaf ym Mro Ddyfi gyda rhai aelodau o'r Bartneriaeth, y staff a chynghorion.
Aethom a hwy am drip o gwmpas yr ardal er mwyn iddynt gael gwell dealltwriaeth o'r anhawster mae'r Partneriaeth yn ei wynebu wrth geisio bod mor gynhwysol ag sy'n bosib mewn ardal mor eang â gwledig a Bro Ddyfi.
Fel canlyniad o'r ymweliad a hefyd y Seminar a gynhaliwyd yng
Nheltica yn gynharach eleni ar 'Gwledigrwydd a Iaith o fewn
Cymunedau yn Gyntaf', mae cydlynwyr Bro Ddyfi a Phen Llyn wedi ei gwahodd i gwrdd a swyddogion LlCC er mwyn cyfrannu sylwadau ar sut y dylai Cymunedau yn Gyntaf weithio mewn ardaloedd gwledig.
[pennawd] Swyddogion LlCC yn cael eu croesawu gan aelodau o Bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, y staff a chynghorion.
Mae adeilad yr Hen Gant”n ar dir Ysgol Bro Ddyfi'n dadfeilio, ac wedi bod felly ers blynyddoedd. Ni fedr CSP wario arno am nad oes ar y Cyngor ei angen, a hefyd oherwydd ei fod yn eiddo i Ymddiriedolaeth Addysg Ganolradd Sir Drefaldwyn. Byddai'n rhaid i unrhyw ddefnydd a wnaed ohono yn y dyfodol fod i Bwrpas Addysgiadol.
Er mwyn gweld beth yn union fyddai pobl yn hoffi'i weld yn digwydd i'r adeilad, a pha ddewisiadau sy'n agored i'r gymuned, trefnodd Cymunedau'n Gyntaf gyfarfod rhwng rhai a ddangosodd ddiddordeb yn yr adeilad a'i ddyfodol, a Rob Shelton (Rheolwr Eiddo Corfforaethol Cyngor Sir Powys), er mwyn canfod y costau atgyweirio posibl a'r dewisiadau eraill sydd gan Gyngor Sir Powys parthed yr adeilad.
Ar ôl llawer o drafod, penderfynwyd y dylai unrhyw grwp neu grwpiau sy'n dymuno rhentu neu brydlesu'r safle fod yn ymwybodol o'r canlynol:
Mae dyddiad cau, sef diwedd Rhagfyr 2005 ar gyfer cyflwyno cynlluniau ymarferol i Gyngor Sir Powys, ac os na dderbynnir rhai, yna mae'n debygol iawn y bydd y safle'n mynd ar y farchnad agored.
Mae'n ofynnol i Gyngor Sir Powys warchod anghenion Ymddiriedolaeth Addysg Ganolradd Sir Drefaldwyn, am mai'r Cyngor Sir yw'r unig Ymddiriedolwr.
Byddai'n costio mwy i atgyweirio'r adeilad nag i'w ddymchwel a chodi adeilad newydd.
Mae'r adeilad wedi aros ar ei draed yn hwy na'r disgwyl, ond pe cawsai'i ddymchwel, yna gellid defnyddio'r tir i bethau eraill.
Nid oedd ffigyrau cywir ar gael, ond gallai'r gost fod yn £200,000 o leiaf, ac o bosib gallai gyrraedd £400,000.
Byddai'n rhaid i unrhyw un fyddai'n cymryd yr adeilad ddod o hyd i'r swm yn llawn, gan na fyddai unrhyw arian i'w gael gan Gyngor Sir Powys.
Bydd yn rhaid i unrhyw un sydd yn dangos gwir ddiddordeb gyflwyno cynllun busnes cadarn, er mwyn argyhoeddi CSP ac unrhyw arianwyr posibl (gan gynnwys y cynigwyr eu hunain). Dylai hyn gynnwys tua £15.000 y flwyddyn i ofalu am drydan, nwy, cynhaliaeth gyffredinol, glanhau a.y.b.
* Mae copi llawn o gofnodion y cyfarfod i'w cael dim ond ichi gofyn.
Yn ystod yr wythnos yn dechrau Dydd Llun Hydref 17eg, lansiwyd ymgyrch 'Cymraeg yn Gyntaf' mewn 15 ardal ledled Cymru, gan gynnwys Machynlleth. Pwrpas yr ymgyrch yw annog mwy o bobl i ddefnyddio Cymraeg yn ei bywyd bob dydd. Mae 'Cymraeg yn Gyntaf' wedi'i anelu'n fwyaf arbennig at y bobl hynny sy'n gallu siarad Cymraeg, a'u cael i geisio defnyddio'u Cymraeg o flaen y Saesneg.
Mae Machynlleth yn un o 15 ardal yng Nghymru sy'n rhan o'r ymgyrch. Trefnwyd nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau lleol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a 'Mentrau Iaith' er mwyn annog a galluogi pobl i gymryd rhan mewn ymgyrch sy'n rhoi cyfle i bawb ddefnyddio Cymraeg ym mhob agwedd o'u bywyd - yn y gwaith, yn gymdeithasol ac yn y gymuned. Mae'r ymgyrch yn gyfle i bobl dyfu'n fwy ymwybodol o faint o Gymraeg sy'n yr ardal, fel eu bod yn gallu bod yn fwy hyderus i ddechrau sgwrs yn Gymraeg yn y dyfodol.
Y neges ydy - 'Cymraeg yn Gyntaf'!
Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am yr Ymgyrch yn gyffredinol, cofiwch gysylltu â
Siwan Hywel, Swyddog Datblygu Machynlleth, ar e-bost neu ar un o'r rhifau canlynol:
Swyddog Datblygu - Machynlleth +44 (0)7887 996188 neu +44 (0)1654 703944
siwan.hywel@welsh-language-board.org.uk neu www.bwrdd-yr-iaith.org.uk
Cafodd gwasanaeth bws 522 newydd o Fachynlleth i'r Drenewydd ei lansio yn y Plas ar y 29fed o Gorffennaf.
Yn dilyn cytundeb Arriva yn dod i ben, cafodd y gwasanaeth yma eu ail dendro gan Cyngor Sir Powys i gwmni lleol 'Lloyd Coaches'.
Mi fydd y gwasanaeth newydd yma, sydd yn defnyddio bws gyda llawr isel, yn darparu gwasanaeth cyson a dibynadwy, a fydd yn galluogi pobl lleol sydd ag anhawster symudoledd gael gwell mynediad i gludiant cyhoeddus.
Lansiad llwybr beicio rhanni defnydd newyddLansiwyd y llwybr beicio a cherdded newydd ar ddydd Mercher, 27ain o Fehefin, pan welwyd dros 50 o bobl gan gynnwys cynrychiolwyr o Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cynghorau Sir Powys a Cheredigion, 'Sustrans' ac aelodau o'r gymuned yn seiclo neu cerdded rhwng Machynlleth a Derwenlas.
Gall bobl sy'n byw yn yr ardal yma o Bro Ddyfi yn awr ddefnyddio y llwybr, sydd nid yn unig yn cynnig dewis arall i bobl deithio, ond hefyd cyswllt ddiogel rhwng y ddwy gymuned.
Cafodd y llwybr eu hariannu gan Llywodraeth Cynulliad Cludiant Cymru, drwy Asiantaeth Cefnffyrdd Canolbarth Cymru.
Am ddyddiadau a lleoliadau
Cyfarfodydd y Partneriaeth cysylltwch a swyddfa Cymunedau yn Gyntaf.
Rhif Ffôn: 01654 700315
E-bost: cyril@powys.gov.uk
Mae croeso i unrhyw un fynychu y cyfarfodydd i arsylwi, a ffeindio allan mwy am rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn ardal Bro Ddyfi.
31st Jan 2012
1st Dec 2011
7th Oct 2011
7th Oct 2011
21st Sep 2011
12th Aug 2011
14th Jul 2011
23rd Jun 2011
17th Jun 2011
16th May 2011
16th May 2011
5th Apr 2011
5th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys