28th Jul 2006
Trefnwyd Seminar Hunan-Adeiladu Tai Fforddiadwy gan Tir ar Gyfer Pobl ar ran Cymunedau'n Gyntaf yng Nghanolfan Gymdeithasol Machynlleth, i edrych ar brinder Tai Fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig fel Bro Ddyfi.
Mae hyn yn fater o bwys i nifer o bobl, ac yn cael ei amlygu gan sefydliadau megis Partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi, Fforwm Cymunedol Machynlleth a'r Cylch ac yn Strategaeth Gymunedol Powys.
Gyda phrisiau tai yn dal i godi'n gyson (yn anffodus mae Powys yn chweched yn y 10 sir uchaf lle mae prisiau tai wedi codi gyflymaf rhwng 1996 a 2006, gyda chymaint â 222% o gynnydd ym mhris Ty arferol i £172.199), mae methu ail-gyflenwi'r stoc o dai fforddiadwy a gollwyd trwy'r hawl i brynu a'r problemau'n gysylltiedig ag ail gartrefi, yn golygu'i bod yn bwysig ystyried pob opsiwn wrth ddarparu tai fforddiadwy.
Cafodd y digwyddiad ei gomisiynu o ganlyniad i gyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ac arolygon anghenion tai a gynhaliwyd yn yr ardal, a oedd yn awgrymu y gallai fod yna gryn ddiddordeb mewn ffurfio grwpiau hunan-adeiladu yn ardal Bro Ddyfi fel ffordd o adeiladu tai fforddiadwy.
Agorwyd y cyfarfod gan y Cynghorydd Gwilym Fychan, a bwysleisiodd yn ei gyflwyniad yr angen am archwilio pob dull posibl, a bod yn fodlon mentro yn yr ymdrech i ddarparu tai fforddiadwy er budd bywyd cymdeithasol ac economaidd yr ardal.
Roedd yn gobeithio gweld mwy o drafodaethau'n datblygu o ganlyniad i'r diwrnod hwn, ac y byddai camau'n cael eu cymryd i adeiladu mwy o dai fforddiadwy i bobl leol.
Dymunodd pob llwyddiant i'r seminar gyda'i waith.
Bu'r pum siaradwr, John Gillespie, Cydlynydd Datblygiad yn y De, Asiantaeth Hunan-Adeiladu Cymunedol; John Green, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Technegol, Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru (MWHA); Jonathan Brown, Cyfarwyddwr, Tir ar Gyfer Pobl; David Thomlinson, Swyddog Tai Fforddiadwy Cyngor Sir Powys a Trish Andrews, Pensaer - Y Ganolfan Dechnoleg Amgen a oedd yn trafod gwahanol agweddau o hunan-adeiladu, yn ateb cwestiynau ac yn helpu trwy gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion penodol.
Trefnwyd stondinau arddangos a gwybodaeth ar y llwyfan i'r rhai oedd yn bresennol cyn ac ar ôl y cyflwyniadau.
Mynychwyd y seminar gan 24 o bobl o wahanol rannau o Fro Ddyfi a thu hwnt, ynghyd ag aelodau etholedig o Gyngor Tref Machynlleth a Chyngor Sir Powys.
Gwelir adroddiad llawn ar ein gwefan, ond os ydych yn dymuno, gallwch gael copi caled wedi ei anfon yn y post.
Llun: John Gillespie yn rhoi anerchiad yn y seminar Hunan-Adeiladu
Bydd dros bum miliwn o bunnoedd yn cael ei wario ar brosiectau tai cymdeithasol newydd ym Mhowys o 2006 i 2008.
Dyna'r newyddion o Gyngor Sir Powys fel y mae'n mynd ati i ddadorchuddio Rhaglen Datblygu Grant Tai Cymdeithasol.
Dywedodd y Cyng. Fred Barker sy'n dal y portffolio tai, "Mae hyn yn newyddion gwych. Cyflwynodd y Cyngor nifer o gynigion i'r Cynulliad, ac rwy'n falch o ddweud bod y mwyafrif ohonyn nhw wedi bod yn llwyddiannus."
Dywedodd y Cyng. Gwilym Vaughan, "Rwy'n hynod o falch. Bu pob un o'r argymhellion ar gyfer ardal Bro Ddyfi'n llwyddiannus a gallwn ddisgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau ar rai o'r safleoedd yn hwyrach yn y flwyddyn."
Bydd y cynlluniau'n cael eu datblygu gan nifer o gymdeithasau tai, a fydd yn eu perchnogi a'u rheoli cyn gynted ag y byddant wedi'u cwblhau.
Daeth nifer o'r cynlluniau i fodolaeth yn dilyn gweithredu cymunedol gan fod llawer yn pryderu oherwydd bod prinder tai fforddiadwy yn eu hardaloedd.
Bydd cyfran o'r grant yn cael ei wario ar y cynllun Cymorth Prynu Gwledig, sy'n helpu pobl sydd angen prynu ty.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn medru derbyn benthyciad o hyd at 50% o'r gost o brynu ty.
Mae Cymdeithas Dai Canolbarth Cymru a Gwerin yn rhedeg y cynllun.
Mae prosiectau Tai Cymdeithasol ym Mro Ddyfi'n cynnwys safleoedd yn Nerwenlas, Llanwrin, Cemaes a Dolfach, ger Llanbrynmair.
Tua diwedd mis Mai cafodd taflen 'Rhoi Bro Ddyfi'n Gyntaf' ei anfon allan i bob ty a busnes yn yr ardal.
Mae'r daflen yma yn rhoi braslun byr o broses Cymunedau yn Gyntaf hyd yn hyn, a hefyd yn rhoi crynodeb o'r ffordd ymlaen yn ôl y saith thema sydd wedi eu cynnwys yng Nghynllun Gweithredu bresennol Bro Ddyfi.
I wneud mwy mae angen i chi ymuno â ni!
Mae lle ar ôl ar bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi i bobl sydd yn byw neu yn gweithio yn ardal Powys o Bro Ddyfi, mae croeso i chi gysylltu ar swyddfa am fwy o fanylion os oes diddordeb gyda chi mewn ymuno â'r Bartneriaeth, neu unrhyw un o'r grwpiau themâu, nawr neu yn y dyfodol.
Os cysylltwch ar swyddfa, gallwn anfon copïau ychwanegol o'r daflen, a hefyd copi caled o'r Cytundeb Partneriaeth i chi ynghyd â unrhyw wybodaeth ychwanegol am y rhaglen.
Mae Defra wedi lansio adran wybodaeth 'Neuaddau Cymunedol i Bobl Cefn Gwlad' ar eu gwefan Materion Gwledig.
Cynlluniwyd y wefan er mwyn helpu cymunedau gwledig i fanteisio ar yr amrywiaeth o gyfleoedd i dderbyn arian sydd ar gael i neuaddau cymunedol.
Mae yno wybodaeth a dolenni cyswllt i ffynonellau ariannu a chynghorion eraill i rai sy'n rhedeg adeiladau cymunedol lleol lle mae pobl cefn gwlad yn cwrdd, neu lefydd y byddent yn hoffi'u defnyddio fel mannau cyfarfod yn y dyfodol.
Datblygwyd y wefan mewn ymgynghoriad ag 'Action with Communities in Rural England', ac mae arni ddolenni cyswllt â 38 o Gynghorau Cymunedol Gwledig sydd â'r arbenigedd ar gynghori ar ymarfer gorau mewn rheoli adeiladau cymunedol gwledig (Mae rhan helaeth o'r wybodaeth hon yn gymwys ar gyfer Cymru hefyd).
Mae hwn yn adnodd a fydd o gymorth i'r bobl ymroddedig hynny sy'n rhedeg neuaddau pentref i ddarganfod sut i gael mynediad i lawer iawn o ffynonellau ariannu, gwasanaethau a chyngor mewn ffordd hawdd a chyflym.
Bydd o gymorth iddynt rannu'u profiadau wrth gyflwyno ceisiadau a sicrhau cyllid.
>> 'Community Halls for Rural People' neu gallwch alw llinell gymorth Defra ar 0845 933 5577 am gopïau papur.

Yn ddiweddar bu Lempit Opik AS yn lansio Canolfan Integredig Plant Bro Ddyfi, un o'r pedair a geir ym Mhowys.
Apwyntiwyd Prosiect Plant Cymuned Machynlleth Cyf. i reoli adeilad newydd y Ganolfan gyda Diane Jones yn Drefnydd Prosiect fydd yn gyfrifol hefyd am gydlynu gwybodaeth trwy Fro Ddyfi.
Eglurodd Diane, "Fel rhan o rwydwaith y Ganolfan Integredig mae gennym adeilad newydd - 'Ty Melfed' fydd yn cynnwys nifer o'r gwasanaethau sy'n bodoli eisoes, megis Addysg Blynyddoedd Cynnar, Gofal Tu Allan i'r Ysgol, Llyfrgell Deganau a Hyfforddiant/Datblygiad Cymunedol.
Mae'n bosib llogi ystafelloedd ac mae gennym stôr o offer chwarae i'w rhoi ar fenthyg i grwpiau sy'n aelodau.
Os oes gan unrhyw grwp ddiddordeb mewn defnyddio'r cyfleusterau sydd i'w cael yn Nhg Melfed, yna cysylltwch â mi i drafod eich anghenion".
Mae'r ganolfan yn medru cynnig gwasanaethau cyfeirio a rhwydweithio i'r gymuned, ac os yw eich grwp chi'n trefnu digwyddiad neu'n cynnig gwasanaeth y byddech yn hoffi'i hysbysebu, yna anfonwch y manylion at Diane (yn ddwyieithog os gwelwch yn dda!) a bydd hithau'n trefnu i daenu'r wybodaeth trwy rwydwaith y Ganolfan.
Os ydych angen gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael yn yr ardal, neu os oes gennych ddiddordeb mewn gwaith prosiect aml-asiantaethol, yna cysylltwch â Diane Jones - Trefnydd Prosiect MCCP Cyf.
Ffôn: 01654 711000.
Mae Cymunedau yng nghefn gwlad Cymru wedi hen arfer gweld swyddi'n diflannu o dan bwysau economi byd-eang, ond mae pobl Bro Ddyfi wedi bod yn dychwelyd at yr hanfodion i geisio newid y patrwm.
Cynhaliwyd noson a ariannwyd gan Cymunedau'n Gyntaf, ac a drefnwyd gan ecodyfi, yng Nghanolfan Owain Glyndwr ym Machynlleth, nos Iau, Mawrth 30ain i drafod y pwer sydd gan bobl yn eu dwylo i greu a chefnogi swyddi lleol.
Yn ystod y digwyddiad cyflwynwyd nifer o dechnegau ysgafn a ddatblygwyd gan yr 'Economy Foundation' newydd.
Mae'r sefydliad hwn yn cynnig dull newydd o ddatblygu'r economi leol sy'n rhoi'r rheolaeth yn ôl yn nwylo'r bobl.
Wrth drin yr economi fel bwced, dangosodd yr hyfforddwr sut mae arian yn llifo i mewn, a bod bwced llawn yn golygu bod gan bobl leol ddigon o arian i gael bywyd o ansawdd da, ond os yw'r bwced yn gollwng - bydd yr arian yn llifo allan.
Er bod croeso i bobl drin y digwyddiad fel un digwyddiad yn unig, rydym yn gobeithio y bydd rhai o'r cyfranogwyr yn awyddus i ddefnyddio'r wybodaeth a gawsant trwy fynd yn eu blaenau i ddarganfod cyfleoedd ar gyfer menter leol.
Bydd adroddiad yn ymddangos ar ein gwefan yn fuan, ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr economi leol i ymuno â grwp Economi a Gwaith Cymunedau'n Gyntaf.
Mae pedwar aelod wedi gadael y bartneriaeth yn ddiweddar oherwydd ymrwymiad gwaith neu/ac wedi symud swydd i du allan yr ardal.
Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Iona Sawtell (Cyn Gadair), Myra Francis, Anwen Davies a Cerys Humphreys (Cyn Gadair) am yr holl waith ac amser maen't wedi roi mewn i raglen Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, a hefyd dymunwn lwc dda iddynt yn y dyfodol.
Hoffem hefyd groesawu Will Dunn fel aelod newydd o'r Bartneriaeth.
Mae Will wedi cael ei benodi fel swyddog Anghydraddoldeb mewn Iechyd fel olynydd i Cerys.
Am ddyddiadau a lleoliadau cyfarfodydd y Bartneriaeth cysylltwch a swyddfa Cymunedau yn Gyntaf: Ebost: cyril@powys.gov.uk; Ffôn: 01654 700315
Mae croeso i unrhyw un fynychu y cyfarfodydd i arsylwi, a ffeindio allan mwy am raglen Cymunedau yn Gyntaf yn ardal Bro Ddyfi.
Ers yr haf diwethaf mae Cathy Evans, un o weithwyr ieuenctid yr ardal, wedi bod yn cydweithio ag Ant Edwards o 'Gronfa Achub y Plant' ar brosiect fydd yn galluogi ieuenctid Bro Ddyfi i leisio'u barn ynglyn â sut mae pethau'n cael eu rhedeg, a'r math o gyfleusterau sy'n cael eu darparu'n lleol ar eu cyfer.
Mae nifer fechan o bobl ifainc sydd â diddordeb wedi gweithio gydag Ant, Cathy a Clive Thomas, gweithiwr ieuenctid arall, i lunio cyfansoddiad ac i lunio cais am arian i Cymunedau'n Gyntaf.

Arweiniodd hyn at gyflwyno'i hachos am arian o flaen Partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi gan arwain yn y diwedd at benwythnos preswyl o hyfforddiant, Ebrill 21-23 yn Stackpole, Sir Benfro.
Trefnwyd y penwythnos ar y cyd gan yr ieuenctid eu hunain, gweithwyr ieuenctid ac Ant Edwards.
Mynychodd naw o bobl ifainc rhwng 13-16 oed yr hyfforddiant.
Cynhaliwyd sesiynau ar wahanol bynciau, gan gynnwys:
Etholwyd prif bwyllgor gyda chadeirydd, is-gadeirydd, trysorydd ac ysgrifennydd, yn ogystal ag is-bwyllgor i drefnu digwyddiadau a chodi arian.
Roedd cyfarfodydd cyntaf y prif bwyllgor a'r is-bwyllgor wedi'u trefnu ar gyfer y mis canlynol.
Trefnwyd ymweliad â Heatherton Park, gyda gweithgareddau megis saethu 'paintball' a gwibgertio ar y pnawn Sadwrn, tra bod nifer o weithgareddau eraill yn digwydd ar y safle, megis saethyddiaeth, saethu laser a phytio.
Dywedodd Cathy, " Rwy'n hynod o falch o'r bobl ifainc; mae nhw wedi gweithio'n galed iawn yn ystod y penwythnos, ac wedi ymdrechu i gyd-dynnu yn ystod y sesiynau hyfforddi ac yn ystod y grwpiau 'gorchwylion'.
Mae Partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi, sy'n gweithredu hefyd fel grwp craidd i Fforwm Cymunedol Lleol Machynlleth a'r Cylch wedi ymateb o blaid Opsiwn 3 i Gynllun Braenaru Elwa Bro Ddyfi.
Eglurodd y Cydlynydd, Cyril Evans, "Un o'r prif resymau dros ffafrio Opsiwn 3 yw mai hwn yw'r unig opsiwn sy'n sicrhau parhad y chweched dosbarth yn Ysgol Bro Ddyfi, a thrwy gefnogi'r opsiwn hwn gobeithiwn y bydd plant yr ardal yn cael mynediad i addysg ddwyieithog o ansawdd da yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod, heb orfod teithio y tu hwnt i'w hardal leol".
Mae'r Bartneriaeth yn teimlo ei bod yn holl bwysig bod cysylltiad agos gyda y rhai hynny sy'n datblygu cynlluniau ar gyfer defnydd o'r Plas.
Pe byddai'n rhaid wrth adeilad arall ar y safle, yna gallai'r Hen Gantîn fod ar gael, ond mae'n debygol y caiff ei werthu'n fuan.
Mae Option 3 yn cynnig cyfle gwych i bawb gydweithio mewn modd positif er budd yr ardal gyfan.
O ganlyniad i'r broses ymgynghorol, mae Cyngor Cenedlaethol Elwa wedi argymell Opsiwn 3 i'r Gweinidog fel yr un a ffafrir ar gyfer Bro Ddyfi.
Dyma wefan sydd yn cynnig cyngor i feicwyr, cerddwyr, bobl mewn moduron, a hyd yn oed marchogwyr.
Mae'r wefan yma yn bobloedd iawn, ac mae llyfrau lliwio, cwisiau, ayb ar gael yw llwytho i lawr.
**Mae croeso i unrhyw un ddod i arsylwi'r cyfarfodydd Partneriaeth**
31st Jan 2012
1st Dec 2011
7th Oct 2011
7th Oct 2011
21st Sep 2011
12th Aug 2011
14th Jul 2011
23rd Jun 2011
17th Jun 2011
16th May 2011
16th May 2011
5th Apr 2011
5th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys