1st Nov 2006


Roedd gan wythnos 'Gwyl y Golau' rhywbeth ar gyfer pawb, hen, ifanc, pobl leol ac ymwelwyr.
Cychwynodd yr wythnos gyda sioe olau ardderchog wrth Gloc y Dre, a diweddodd gyda Gorymdaith Llusernau ac arddangosfa Tân Gwyllt.


Roedd y gweithgareddau yn ystod yr wythnos yn cynnwys gweithdai ar wneud llusernau a phypedau, ffotograffiaeth greadigol, dylunio portreadau, ac eraill. Cafodd y gweithdai yma eu hariannu gan Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf. Roedd hefyd cerddoriaeth byw a dawnsio yn ogystal â gwobrau enwog y 'Pink Snowball'.
Llongyfarchiadau a diolch yn fawr iawn i'r gwirfoddolwyr sydd yn gwneud digwyddiad mor arbennig â hyn yn bosib.
Rydym yn gofyn i bobl a busnesau Dyffryn Dyfi os ydynt am fanteisio o gyfle unigryw. Mae'n bosib i'r ardal bod yr unig aelod o Gymru sy'n ran o glwb tra dethol byd-eang o 'ardaloedd arbennig'. Mae 'Ardaloedd Biosffer' yn cael eu dynodi gan UNESCO, sef y Corff Addysgol, Gwyddonol a Diwyllianol y Cenedloedd Unedig. Eu bwriad yw i greu 'ardaloedd arbennig i bobl a natur' ac i fod yn 'enghreifftiau o ddatblygiad gynaliadwy'. Dim ond 450 o ardaloedd biosffer sydd mewn bron 100 o wledydd.
Roedd UNESCO wedi croesawi Ardal Biosffer y Dyfi fel aelod oherwydd eu gynefin byd eang pwysig sydd o amgylch Cors Fochno a'r aber, ond wedyn newidiwyd y meini prawf! Mae Ardal Biosffer y Dyfi fel mae e ar hyn o bryd yn rhy fach a dydi e ddim yn cynnwys digon o bobl i gael eu hystyried yn ardal biosffer 'modern'. Rydym yn gofyn i'r gymuned os ydynt am i'r holl Ddyffryn fod yn Ardal Biosffer ac i archwilio beth fydd hyn yn golygu yn ymarferol.
Mae'r meinir prawf newydd yn golygu parchu diwylliant yn ogystal â natur a thirwedd. Mae nhw'n golygu ystyried lles cenhedloedd y dyfodol a gweddill y byd gan hefyd feddwl am ein safon o fyw.
Bydd hyn yn golygu datblygu economi hunangynhaliol sydd wedi ei sefydlu o gwmpas adnoddau lleol, lleihau ein dibyniaeth ar olew a nwy, a pharchu a gofalu am yr Iaith Gymraeg yn ogystal â gofalu am gynefin bregus a phlanhigion prin.
Mae manteision o'r dynodiad yn cynnwys posibiliadau i'r ardal ar dwristiaeth gynaladwy, megis gwylio bywyd gwyllt, a cynnig 'brand' i helpu cynhyrchwyr o fwyd safonol lleol a nwyddau addas arall i farchnata eu cynnyrch. Y dewis arall fydda'i dweud wrth UNESCO am dynnu ni allan o'r clwb.
Mae Delyth Richards wedi ei phenodi fel Swyddog Cyfathrebu â'r Gymuned ac mae ecodyfi yn ei chefnogi. Mae hi'n gyfrifol am fynd allan i'r gymuned i drosglwyddo'r wybodaeth am ardaloedd biosffer. Mae hi'n barod i drafod ag unigolion neu rhoi cyflwyniad i grwp.
Am wybodaeth cysylltwch â 01654 703965 neu ebost Delyth Richards.

Cafodd cyn-adeilad Celtica ei ail-agor yn ddiweddar er mwyn i bobl Bro Ddyfi fwynhau diwrnod o hwyl, dathlu a chynllunio i'r dyfodol. Roedd y digwyddiad "Plas i'r Bobl?" yn arddangosiad o dalent leol gyda bandiau, DJ's, dawns a pherfformiad o gerddoriaeth acwstig i gyd wedi dod at ei gilydd o dan yr un to.
Roedd yno rywbeth i'r teulu cyfan: pabell i'r plant yn llawn hwyl a gemau, sinema gyda rhaglen orlawn o ffilmiau byrion ac animeiddiad - yn ogystal â chyfle i greu dyddiadur fideo eich hunan ar ffurf 'Big Brother' i ddweud eich barn am argymhellion y grwp llywio ar gyfer yr adeilad.
Trefnir y digwyddiad gan Fforwm Cymunedol Lleol Machynlleth a'r Cylch gyda chefnogaeth ariannol gan Cymunedau'n Gyntaf
- roedd yn rhoi rhagflas inni o argymhelliad y gymuned ar gyfer y Plas ac yn gyfle i ddylanwadu ar ei ddatblygiad.

Mynychodd mwy na 380 o bobl arddangosfa Cadw'n Ddiogel ac Iach yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi, Machynlleth. Trefnwyd y digwyddiad hwn gan Gyngor Sir Powys mewn ymateb i Her Iechyd Cymru, y ffocws cenedlaethol ar gyfer gwell iechyd yng Nghymru. Llenwyd y Ganolfan Hamdden gan amrywiaeth eang o wasanaethau o'r cyngor ac asiantaethau eraill a oeddynt yn rhoi gwybodaeth a chyngor am faterion fel incwm, tai, byw'n iach, gofal cymdeithasol a diogelwch y cyhoedd. Roedd yr arddangosfa am ddim ac yn cynnig diwrnod hwyliog i'r holl deulu. Roedd yn cynnwys castell gwynt a gweithgareddau i blant, raffl a nwyddau rhad ac am ddim, tra bo Gwasanaeth Tân Gorllewin a Chanolbarth Cymru yn dangos effaith eu tanau padell sglodion brawychus. Hefyd, cafwyd dosbarthiadau yoga i blant a phobl dros 50 oed, Pilates a beicio stiwdio a chafodd 115 o bobl ifanc hyfforddiant CPR gan y Groes Goch. Roedd Profiad Adar Ysglyfaethus Bro Ddyfi yn bresennol, yn dangos eu hebogau, eryrod a fwlturiaid a chafodd plant hyd at 16 oed ac oedolion dros 60 oed fynd i nofio am ddim. Dywedodd Cyril Evans, Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi "Mewn ardaloedd gwledig fel Bro Ddyfi mae'n anodd, weithiau, i bobl gael gafael ar wybodaeth ac i ddarganfod beth sy'n digwydd yn lleol. Rydym yn falch iawn o gael cymryd rhan mewn diwrnod gwerth chweil a llawn gwybodaeth i'r holl gymuned." Mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Tai Canolbarth Cymru, Cyngor Sir Powys a Chyngor Cymuned Glantwymyn, cynhaliodd grwp Tai Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi gyfarfod yn Eglwys Llanwrin ar y 29ain o Awst 2006, gyda nifer cymharol dda o bobl yn bresennol. Roedd hwn yn gyfarfod dilynol i'r un a gynhaliwyd 11 mis yn %ocirc;l, ac yr oedd yn rhoi cyfle i'r gymuned leol nid yn unig i weld a chynnig sylwadau am y cynlluniau diwygiedig ar gyfer y datblygiad tai arfaethedig, ond hefyd i alluogi trafodaeth bellach am yr angen (neu ddiffyg angen) am Dai Fforddiadwy ym mhentref Llanwrin. Mae adroddiad o'r cyfarfod ar gael drwy gysylltu â Swyddfa Cymunedau yn Gyntaf yn Nhy Bro Ddyfi. Mae ymgyrch am lwybr troed a beic hollbwysig wedi newid gêr yn ddiweddar. Mae'r ymgyrch am lwybr diogel wedi bod yn mynd ymlaen am rai blynyddoedd ond heb fawr i ddangos heblaw dwy astudiaeth dichonoldeb. Mae'r grwp yn falch bod Cymunedau yn Gyntaf a Fforwm Lleol Machynlleth a'r Cylch wedi cynnwys y cynnig yn eu Cynllun Gweithredu Lleol, ond mae'n ymwybodol iawn bod angen pwysau pellach. Mewn ymateb i hyn, ysgrifennwyd pennod newydd yn hanes y pentref wrth i dros 200 o gerddwyr, beicwyr, sgwteri i'r anabl, sawl tractor, Jac Codi Baw a lori carnifal arafu traffig ar un o brif gefnffyrdd Canolbarth Cymru fel rhan o daith brotest. Roedd pobl leol o bob rhan o'r gymuned, gyda'r heddlu yn eu hebrwng, yn ffurfio gorymdaith hir ar hyd yr A489 rhwng Penegoes a Machynlleth. Roedd y daith sydd, fel rheol, yn fwy o sialens i Angau nag yw o daith hamddenol drwy gefn gwlad, wedi cael ei chefnogi gan bobl leol o Benegoes a Machynlleth yn ogystal â sawl mudiad lleol a chynrychiolwyr fel Ecodyfi, Cerdded y Llwybr i Iechyd, cynghorwyr lleol a'r Ysgol Gynradd. Pwrpas y daith, a drefnwyd gan Gymuned Actif Penegoes, oedd dangos y gefnogaeth i gael llwybr diogel i gysylltu pentref Penegoes â thref Machynlleth - pellter o ddim ond 1.5 milltir. Dywedodd Geraldine Purser o Gymuned Penegoes: "Anaml bydd pobl yn cerdded ar y ffordd gan eu bod yn ei hystyried yn rhy beryglus. Mae ychydig o feicwyr yn parhau i'w defnyddio ond mae'r mwyafrif o bobl yn rhy ofnus. Mae'n rhan gyflym o'r ffordd a bron yn gwbl amhosibl i gerddwyr ei defnyddio - yn enwedig plant, yr anabl a'r henoed." Gwyddys fod yr A489 yn un o'r ffyrdd prysuraf ym Mhowys ac mae gan y rhan rhwng Penegoes a Machynlleth sawl cornel ddall heb fawr neu ddim palmant o gwbl, ac oherwydd cludiant cyhoeddus cyfyngedig iawn, mae'r daith bron yn amhosibl mewn unrhyw fodd heblaw car. Mae gan yr ymgyrch gefnogaeth eang gan wleidyddion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn cynnwys y Cynghorwyr Gwilym Fychan a Michael Williams, Mick Bates AC a Lembit �pik AS ac mae wedi derbyn neges gan y Tywysog Siarl i ddymuno'r gorau i'r ymgyrch. Mae'r pentrefwyr eisiau cyfle i fyw bywyd mwy iach a chynaliadwy ac maent yn annog y Cynulliad a Chyngor Sir Powys i ymgynghori â hwy a chytuno ar lwybr ymarferol. Fel rhan o'r ymgyrch bresennol, mae'r pentrefwyr yn gwneud fideo gyda Fideo i Bawb i dynnu sylw at eu hanghenion. Yn dilyn hynny, byddant yn mynd i gyflwyno eu hachos i'r Cynulliad yng Nghaerdydd lle maent yn gobeithio cael llwyddiant. Gall unrhyw un sydd eisiau cefnogi'r ymgyrch gysylltu â Julia ar 01654 702054 neu Geraldine ar geraldine@tincan.co.uk Bydd y gronfa beilot, fydd yn para blwyddyn, yn cael ei gweinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae'n elfen ychwanegol wedi'i neilltuo o Gronfa Ymddiriedolaeth brif-ffrwd Cymunedau yn Gyntaf, a sefydlwyd gan Lywodraeth y Cynulliad fel rhan o Raglen Cymunedau yn Gyntaf, i helpu prosiectau cymunedol bychain mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Bydd modd i fudiadau cymunedol a gwirfoddol wneud cais am y "pres" ychwanegol i gefnogi gweithgareddau cerddorol all-gwricwlar ym mhob un o'r 142 o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru. Mae'r grantiau yn agored i bob math o weithgareddau cerddorol o fewn Ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf - popeth o gorau clasurol i fandiau roc, o jazz i ddrymio Affricanaidd neu gerddoriaeth samba. Bydd arian ar gael i gefnogi ystod o weithgareddau, gan gynnwys prynu offerynnau neu offer, llogi ystafelloedd i ymarfer neu gynnal cyngerdd, costau teithio, costau hyfforddi neu gostau i gynnal cyngherddau a gwyliau cymunedol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 2006/2007 yw 31 Hydref 2006 & 31 Ionawr 2007 Cysylltwch â Lein Gymorth Cymunedau yn Gyntaf am fwy o wybodaeth ar 0800 587 8898. Mae arian nawdd yma wedi anelu at grwpiau sydd ddim yn elw o gronfa genedlaethol a gyda chais am ystyried cefnogaeth ar seiliau'r chwarter. Dilynnwch y ddolen am ragor o wybodaeth a llwytho ffurflen gais: http://www.bracesbakery.co.uk/sponsorship/default.asp. Wedi cael ei lansio ar ddechrau'r ail wythnos y 'Autumn watch' gyda Bill Oddie â Kate Humble (Dydd Llun y 9fed o Hydref) ar sianel dau'r BBC - y mae'r ail gyfnod o Lefydd i Natur, sef rhaglen grantiau bach y gronfa loteri. Mae £4 miliwn ar gael i brosiectau a wnaed gwelliannau parhaol i'r amgylchedd lleol drwy greu Llefydd Natur newydd, yn ogystal â chefnogi'r datblygiadau o'r prosiectau cynfodol. Adeg y cyfnod yma gall amrywiaeth eang o sefydliadau ymgeisio, gan gynnwys, ysgolion, cyrff iechyd lleol, cynghorau tre a chymuned a grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Mae ymgyrch y Llefydd Natur y BBC wedi ei gynllunio i ysbrydoli cymunedau i gymryd rhan mewn trawsffurfio eu hamgylchedd a chreu a gofalu am fannau gwyrdd lleol sydd yn llesol i fywyd gwyllt a'r gymuned. Ar agor i geisiadau: 9 Hydref 2006 Am ragor o fanylion ynglyn â rhaglen Llefydd Natur dilynwch y linc ganlynol. Unwaith ar y dudalen fe ddowch o hyd i linc mewn i dudalen Llefydd Natur, yno fe welwch mwy o fanylion ynglyn â'r rhaglen, gan gynnwys ffurflen gais a thaflen cwestiynau ac atebion. Mae gwagleoedd ar Bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi ar hyn o bryd, ac mae lle i aelodau o'r gymuned o wardiau Glantwymyn, Cadfarch a Machynlleth, yn ogystal â chynrychiolwyr busnes. Mae'n rhaid i unrhyw newidiadau gael eu harweini gan bobl leol, felly gallwch chwarae r%ocirc;l bwysig trwy ymuno a'r bartneriaeth a'n helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn yr ardal. Siwan Hywel, cadeirydd newydd Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Am ddyddiadau a lleoliadau cyfarfodydd y Bartneriaeth cysylltwch a swyddfa Cymunedau yn Gyntaf: Ffôn: 01654 700315 neu e-bost: cyril@powys.gov.uk Mae croeso i unrhyw un fynychu y cyfarfodydd i arsylwi, a ffeindio allan mwy am raglen Cymunedau yn Gyntaf yn ardal Bro Ddyfi. Cafodd nifer o wasanaethau eu lansio yn ddiweddar mewn perthynas ag adeilad y Ganolfan Plant Integredig sef Ty Melfed. Bydd Cylch Meithrin Machynlleth, Cychwyn Cadarn NCH, Llyfrgell Deganau Cymdeithas Chwarae Sir Drefaldwyn, a Chlwb Ar Ôl Ysgol PCPM a fydd i gyd yn symud i'r safle newydd. Am amserlen o'r gweithgareddau a gwybodaeth ddiweddaraf cysylltwch â: Diane Jones - 01654 711000; Plas-y-Bryn, Sandilands, Tywyn, Gwynedd, LL36 0AB. Fel rhan o Raglen Cymunedau yn Gyntaf, rydym yn y gorffennol wedi crynhoi cyfeiriadur o bob grwp cymunedol, mudiad a chymdeithas leol, i ddarparu llun cynhwysfawr o beth sy'n digwydd i mewn ac o gwmpas ardal Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi. Rydym rwan yn bwriadu diweddaru ein cyfeiriadur presennol a hoffem gynnwys grwpiau, mudiadau a chymdeithasau sy'n cyfrannu at fywyd cymdeithasol, yn cael i redeg gan neu ar gyfer drigolion o'r gymuned. Os hoffech chi gael eich cynnwys yn rhad ac am ddim yn y cyfeiriadur yma, neu os rydych wedi'i gynnwys yn ei'n cyfeiriadur presennol ac angen diweddaru manylion cyswllt neu wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â Swyddfa Cymunedau yn Gyntaf ar 01654 700315, neu e-bostiwch shan.parker@powys.gov.uk cyn gynted ag sy'n bosib. Dylai mwy o deuluoedd a phobl ifanc ledled Cymru allu cael gafael ar dai fforddiadwy yn dilyn lansio pecyn newydd o ganllawiau cynllunio a thai i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r pecyn yn cynnwys newidiadau i bolisi a chanllawiau cynllunio er mwyn cynyddu nifer y tai fforddiadwy a ddarperir drwy gyfrwng y system gynllunio. Mae'n cynnwys hefyd 'Pecyn Tai Fforddiadwy' sy'n dwyn ynghyd mewn un ddogfen gyfeirio, yr holl fecanweithiau sydd ar gael i awdurdodau lleol a'u partneriaid i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. http://new.wales.gov.uk/consultations/closed/housandcomm/affordablehousingtoolkit. Ydy gwasanaethau cyhoeddus o fewn cyrraedd i'ch cymuned? Oes yna dai ar gael o fewn y fro i'ch pobl ifanc? Oes s%ocirc;n am werthu'r cae pêl droed lleol i adeiladu archfarchnad? Neu ydych chi'n benderfynol o atal tip rhag cael ei agor tu %ocirc;l i'ch pentref? Mae a wnelo hyn oll â chynllunio defnydd tir. Elusen gofrestredig ydy CCC sy'n darparu cyngor a chymorth proffesiynol ac annibynnol am ddim ar holl agweddau cynllunio gwlad a thref yng Nghymru. Gwna hyn drwy rwydwaith o wirfoddolwyr ledled Cymru sy i gyd yn gynllunwyr cymwysedig. Mae CCC yn cynnal llinell gymorth lle gellir cael cyngor ar achosion cynllunio unigol. Gwasanaeth i bawb ydy o, boed yn unigolion neu'n grwpiau, sydd yn methu fforddio ymgynghorydd cynllunio. Ei brif nod fodd bynnag ydy galluogi grwpiau cymunedol i gyfranogi yn y system gynllunio. Os ydy'ch grwp cymunedol neu wirfoddol am ddysgu sut i roi llais i'ch cymuned mewn penderfyniadau sy'n effeithio eich ardal leol, gall gweithwyr datblygu CCC helpu i drefnu sgyrsiau a seminarau i chi. Os ydych am help Cymorth Cynllunio Cymru neu am wybod mwy am eu gwaith, ffoniwch 02920485765 neu e-bostiwch cccpaw@btconnect.com neu ymwelwch â'r wefan www.planning-aid-wales.org. Mae Adran Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir Powys yn falch o fod wedi darparu'r man cychwyn i lawer o bobl sydd wedi mynd yn eu blaenau i gyflawni'r amcanion hyn, drwy ein dosbarthiadau Addysg i Oedolion. Maent yn eich gwahodd chi i fynd a chael blas ar y dosbarthiadau hamddenol, llawn gwybodaeth gyda staff cyfeillgar yn eich addysgu. Mae myfyrwyr yn adrodd cynnydd mewn bodlondeb wrth iddynt ddysgu medrau newydd ac ennill ffrindiau newydd sy'n rhannu diddordeb cyffredin. Pam na roddwch chi gynnig ar hyn drosoch eich hun a PHEIDIO BREUDDWYDIO AM FYWYD- BYDDAI BYW Y FREUDDWYD YN WELL Mae'r rhaglen Addysg Oedolion, a ddarperir gan Gyngor Sir Powys mewn partneriaeth â Choleg Powys, yn cael ei chyflwyno mewn pymtheg prif ganolfan ym Mhowys; Y Drenewydd, Y Trallwng, Llanfair Caereinion, Llanfyllin, Llanidloes, Machynlleth, Llandrindod Wells, Llanandras, Trefyclo, Y Gelli, Rhaeadr, Aberhonddu, Llanfair ym Muallt, Crughywel ac Ystradgynlais. Mae'r canolfannau hyn yn eu tro yn darparu dosbarthiadau yn y trefi a phentrefi cyfagos. Mae llawlyfr eleni ar gael, mewn llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden leol. Mae'n cynnwys manylion dros 520 o gyrsiau, yn amrywio o'r dysgu anffurfiol sy'n digwydd mewn "dawnsio salsa" neu "baentio dyfrlliw" i'r dysgu achrededig mwy ffurfiol ar gyrsiau cyfrifiadurol ac iaith. Mae angen archebu lle o flaen llaw ar holl gyrsiau Cyngor Sir Powys. Mae'r wefan addysg oedolion ar www.powys.gov.uk/adulteducation yn rhoi gwybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael ac yn gadael i chi fwcio a thalu am eich dosbarth ar lein. Hefyd, gallwch roi galwad i'r Llinell Gofrestru ar 0845 0551 355.
Cyfarfod diweddaru Tai Fforddiadwy Llanwrin
Cymuned Actif Penegoes

Gwybodaeth am Gronfeydd
Cronfa newydd ar gyfer darpar gerddorion
Bydd darpar gerddorion o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru yn elwa ar gyfran o £180,000 cyn bo hir - diolch i gronfa newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru i hyrwyddo gweithgareddau cerddorol yn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.'Brace's Bread' - yn hael allan yr arian!
Mae 'Brace's Bread' yn cynnig y cyfle i elusennau a grwpiau cymunedol lleol Cymraeg i wneud cais am arian nawdd hyd at £500.Rhaglen Grantiau Llefydd i Natur - Lansiad yr Ail Gyfnod
Ar gau i geisiadau: 13 Rhagfyr 2006
Lleiafswm grant: £300
Mwyafswm grant: £10,000
Cyfaswm ar gael: £4 miliwnNewyddion Partneriaeth
Mae Siwan Hywel, Gweithiwr Datblygu Bwrdd yr Iaith yn ardal Machynlleth wedi cytuno i fod yn gadeirydd newydd Bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf, mae Will Dunn, Swyddog Anghydraddoldeb mewn Iechyd hefyd wedi ymuno fel un o dri Is-gadeirydd, ochr yn ochr gyda Nic Dunkley (Swyddog Ieuenctid) ag Cynghorydd Sir Gwilym Fychan.
Will Dunn, un o dri Is-Gadeiryddion.Cyfarfodydd Partneriaeth
Cyfarfodydd Partneriaeth
Y Ganolfan Plant Integredig
Cyfeiriadur Cymunedol

Camau newydd i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy ledled Cymru
Cyngor a Chymorth ar Faterion Cynllunio
Beth yw eich breuddwyd - cael swydd well, ennill gradd?
Efallai cychwyn eich busnes eich hun?
31st Jan 2012
1st Dec 2011
7th Oct 2011
7th Oct 2011
21st Sep 2011
12th Aug 2011
14th Jul 2011
23rd Jun 2011
17th Jun 2011
16th May 2011
16th May 2011
5th Apr 2011
5th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys