1st Apr 2004
Gan weithio ag ystod eang o bartneriaethau a gan ymgynghori â phob rhan o'r gymuned, bydd y Bartneriaeth yn rhoi arweiniad ac yn cydlynu i hyrwyddo datblygiad cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ardal Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi.
Bydd Partneriaeth Bro Ddyfi yn ceisio llwyddo yn hyn o beth trwy:
a) Weithio'n glos ag asiantaethau a mudiadau sy'n gweithio yn yr ardal
b) Dynodi bylchau yn narpariaeth gwasanaethau ac annog atebion
c) Cynyddu gallu grwpiau ac unigolion i'w galluogi i gael llais deallus o fewn proses Cymunedau yn Gyntaf ac i chwarae rhan weithgar ym mhroses Cymunedau yn Gyntaf, e.e. trwy ddatblygu a chyflwyno prosiectau perthnasol
d) Hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o raglen Cymunedau yn Gyntaf
e) Gweithio i ddatblygu dealltwriaeth o broblemau cefn gwlad a'u heffeithiau ar y rhai sy'n dioddef o fod wedi'u dieithrio
f) Cytuno ar raglen waith gyda'r Cydlynydd
g) Rheoli proses ymgynghori barhaol
h) Monitro a gwerthuso gwaith a wnaed ar draws themâu.
a) Mae'r bartneriaeth yn cael ei harwain gan egwyddor 'tair rhan o dair'.
b) Bydd aelodau'r bartneriaeth yn ymrwymo i degwch, parch a thrafodaeth agored.
c) Bydd y bartneriaeth yn ymateb a chydnabod materion dwyieithrwydd, anabledd, hil, gender, oedran a diwylliant, bydd y cyfrifoldeb hwn yn un a rennir
d) Bydd aelodau'r bartneriaeth yn ymrwymo i ganlyniadau realistig y gellir eu mesur, a bydd yn sefydlu trefn fonitro ar gyfer targedau y cytunir arnynt.
e) Bydd y Bartneriaeth yn gwneud pob ymdrech resymol bob amser i sicrhau fod y gymuned gyfan yn gwybod beth sy'n digwydd.
a) Bydd pawb sy'n coleddu egwyddorion Cymunedau yn Gyntaf ac yn byw neu'n gweithio ym Mro Ddyfi yn gymwys i ymgeisio i fod yn aelod o Bartneriaeth Bro Ddyfi. Serch hynny, bydd uchafswm o ugain aelod bob amser.
b) Bydd yn ddelfrydol bob un o'r pedair ardal ddaearyddol gael dau gynrychiolydd a fyddant hefyd yn cynrychioli'r sector cymunedol. (Bydd trigolion o'r pedair ardal ddaearyddol yn nodi pa ardal y maent yn ei chynrychioli)
c) Bydd y 12 lle sy'n weddill yn adlewyrchu'r egwyddor tair rhan o dair. (h.y. 6 o'r sector busnes/gwirfoddol a 6 o'r sector statudol)
d) Dylid adolygu'r trefniadau aelodaeth yn y cyfarfod arbennig a drefnir 12 mis wedi'r cyfarfod arbennig blaenorol.
e) Bydd aelodaeth am gyfnod cychwynnol o 12 mis.
f) Cyhoeddir dyddiad a lleoliad y 12 cyfarfod arbennig misol yn y wasg leol o leiaf un mis cyn i'r cyfarfod gael ei gynnal, er mwyn rhoi gwybod bod rhaid i'r cydlynydd dderbyn unrhyw enwebiadau ar gyfer aelodaeth o Bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi o leiaf 14 diwrnod cyn y cyfarfod. Dylid nodi'r sector neu ardal y mae'r enwebai yn dymuno ei gynrychioli bryd hynny, hefyd.
g) Pe bai mwy o bobl yn dymuno cynrychioli unrhyw un o'r tri sector nag o leoedd sydd ar gael, yna bydd etholiadau'n cael eu cynnal yn y sector neu'r ardal honno.
h) Yn achos cynrychioli'r gymuned, pe bai mwy o enwebiadau i gynrychioli unrhyw un o'r pedair ward nag o leoedd ar gael, bydd pleidlais trwy'r post yn cael ei chynnal, gyda'r bobl o'r ward honno, sydd wedi cofrestru eu manylion cyswllt ar restr bostio Cymunedau yn Gyntaf, yn gymwys i bleidleisio. Bydd unrhyw un sydd wedi dangos diddordeb yn rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, ac sydd am gael clywed am ddatblygiadau'r rhaglen yn cael cofrestru i fod ar y rhestr bostio. Bydd y rhestr yn cael ei diweddaru'n gyson wrth i bobl gofrestru.
i) Bydd gofyn i asiantaethau statudol a mudiadau gwirfoddol/busnesau drefnu etholiadau eu hunain.
j) Bydd aelodau yn dynodi pa sector y maent yn ei gynrychioli ac yn ymdrechu i fod yn sianel cyfathrebu dwy-ffordd gyda'r sector neu cymuned maent yn cynrychioli.
k) Gall y Bartneriaeth wahodd mudiadau neu unigolion eraill i ymuno fel ymgynghorwyr fel yn ôl yr angen.
l) Bydd gan bob aelod un bleidlais; bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud trwy gonsensws lle bo hynny'n bosibl.
m) Bydd aelodaeth yn dod i ben os na fydd aelod yn bresennol mewn tri chyfarfod ar ôl ei gilydd heb esboniad.
a) Bydd corff atebol yn cael ei ddynodi gan Bartneriaeth Bro Ddyfi i gynnal gweithgareddau sylfaenol Partneriaeth Bro Ddyfi ar ei rhan.
b) Mae gan y Bartneriaeth rym i wneud trefniadau â'r corff atebol a mudiadau eraill ar faterion cyflogaeth, rhentu/llogi, casglu arian, codi yswiriant a gweithgareddau eraill Cymunedau yn Gyntaf yn ôl yr angen.
c) Bydd gan y Bartneriaeth y grym i sefydlu is-bwyllgorau yn ôl yr angen.
d) Mae gan y Bartneriaeth rym i agor ei chyfrif banc ei hunan
e) Mae gan y Bartneriaeth rym i wneud unrhyw beth cyfreithlon arall a allai ei chynorthwyo i lwyddo yn ei hamcanion.
a) Bydd y Bartneriaeth yn cyfarfod o leiaf chwe gwaith y flwyddyn.
b) Bydd cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal unwaith y flwyddyn, ond heb fod yn hwy na 18 mis ar ôl y diwethaf.
c) Gall cyfarfodydd arbennig gael eu galw gan y cadeirydd trwy ymgynghori ag un aelod arall. Bydd angen tair wythnos o rybudd, a bydd eu hangen os bydd penderfyniad i newid unrhyw ran o'r Cytundeb hwn.
d) Bydd aelodau'r Bartneriaeth yn penodi eu cadeirydd ac is-gadeiryddion eu hunain yn y cyfarfod cyntaf ac ar ôl pob cyfarfod arbennig.
e) Bydd 1/3 o'r Bartneriaeth, heb ystyriaeth o'r sector a gynrychiolir, yn ffurfio cworwm. Rhaid i hyn gynnwys o leiaf 1 aelod cymunedol.
31st Jan 2012
1st Dec 2011
7th Oct 2011
7th Oct 2011
21st Sep 2011
12th Aug 2011
14th Jul 2011
23rd Jun 2011
17th Jun 2011
16th May 2011
16th May 2011
5th Apr 2011
5th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys