Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Newyddion > Datganiad i'r wasg Ionawr 2003

Datganiad i'r wasg Ionawr 2003

1st Jan 2003

Datganiad i'r wasg Ionawr 2003

Mae Cynllun Cymunedau'n Gyntaf ym Mro Ddyfi wedi gwneud tipyn o gynnydd yn ystod Tachwedd a Rhagfyr tra'n parhau o'r broses o ymgynghori yn y Gymuned er mwyn darganfod anghenion, barn a diddordebau'r gymuned.

Cytunwyd i edrych yn fanylach ar wyth o feysydd trafod.

Cynhaliwyd tri digwyddiad cymunedol yn ystod mis Tachwedd - yn Neuadd Gymunedol Llanbrynmair, Canolfan Cymunedol Machynlleth a Neuadd Bentref Cwmllinau, a chynhaliwyd digwyddiad yn sgil y rhain yng Nghanolfan Gofal Machynlleth ar ddydd Mercher 11fed Rhagfyr.

Roedd pob grwp yn cael 15 munud ar bob safle i drafod y cwestiynau canlynol:

Safle A: Dychmygwch mai'r flwyddyn 2012 yw hi, ac mae rhaglen Cymunedau'n Gyntaf wedi helpu i greu cymuned mwy llewyrchus. Beth a gyflawnwyd?

Safle B: Beth yn eich barn chi yw'r agwedd fwyaf gwerthfawr o fod yn rhan o'r gymuned hon? Ar ba seiliau gallwn adeiladu i greu llwyddiant ac ansawdd bywyd gwell?

Safle C: Pa broblemau sydd yn eich tref neu'ch pentref chi a Bro Ddyfi yn gyffredinol? Beth yw'r anawsterau sy'n rhwystro rhai pobl yma rhag byw bywyd llawn o fewn eu cymunedau eu hunain?

Roedd hwylusydd a chyfieithydd ym mhob safle, oedd yn golygu fod pawb oedd yn bresennol yn gallu cyfrannu ac yn cael cyfle i drafod Bro Ddyfi gyfan, ac nid meysydd diddordeb penodol yn unig.

O ystyried fod y rhaglen dal yn weddol ifanc, derbyniwyd gwybodaeth ddefnyddiol iawn yn y digwyddiadau hyn. Trafodwyd yr wybodaeth hyn ymhellach, a chafwyd crynhoad o hyn yn y digwyddiad a gynhaliwyd ar 11fed Rhagfyr. Roedd pob problem, barn neu bwnc a drafodwyd yn y digwyddiadau blaenorol wedi cael ei gofnodi ar bapur. Rhannwyd y rhain i gategorîau neu benawdau yn al dewis unigolion yr ardaloedd oedd wedi eu crybwyll yn y lle cyntaf. Arweiniodd y broses hon at y pedwar ar hugain is-gategori canlynol:

  1. Iaith a Diwylliant
  2. Adloniant
  3. Canolfan Technoleg Amgen
  4. Cludiant a chyfathrebu
  5. Tirlun
  6. Cefn Gwlad a'r Amgylchedd
  7. Ysgolion
  8. Neuaddau Pentrefi
  9. Gofal Iechyd
  10. Cyllid
  11. Celfyddydau a Hamdden
  12. Difyrrwch ac Adloniant
  13. Cyfathrebu Cyfreithiol
  14. Chwaraeon a Gweithgareddau
  15. Ymwybyddiaeth o'r ardal
  16. Iaith, Diwylliant ac Addysg
  17. Tai a Gwaith
  18. Ansawdd bywyd
  19. Adeiladau, Llety a thai
  20. Twristiaeth
  21. Cynaladwyedd
  22. Gwaith, Busnes a darpariaeth gwasanaethau
  23. Ieuenctid
  24. Henoed

Wedyn daeth pawb at ei gilydd mewn un grwp mawr, a chafwyd trafodaeth ymhellach i grynhoi'r wybodaeth a rhannwyd y pynciau i wyth prif gategori fel a ganlyn:

  1. 1.Yr Economi A Gwaith
  2. Addysg A Hyfforddiant
  3. Cefn Gwlad A'R Amgylchedd
  4. Iechyd A Lles
  5. Gweithgareddau Yn Y Gymuned
  6. Ansawdd Bywyd
  7. Cludiant
  8. Tai

Roedd y categorïau hyn yn cynnwys rhyw 150 o benawdau i gyd. Byddwn yn cofnodi pob barn/sylw unigol ac yn ystyried y rhain wrth i'r broses ddatblygu - byddwn yn cadw'r holl wybodaeth hanfodol yma. Yn wir, y bwriad yw ychwanegu at yr wybodaeth yma o hyd, a'i defnyddio wrth i'r broses ymgynghori fynd yn ei flaen. Yn y pen draw fe fydd yr ardal yn cyflwyno Cynllun Gweithredol i Lywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Fe fydd Partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi, ynghyd o'r Hwylusydd Cyril Evans, yn mynd ati i ystyried dulliau amrywiol o gynnwys gymaint o unigolion o'r gymuned yn y broses ag sy'n bosibl. Fe fydd hyn yn cynnwys grwpiau sy'n bodoli yn yr ardal, yn ogystal ag unigolion o bob oed, cefndir a rhyw.

Teimlwch yn rhydd i ddod mewn cyswllt a Cyril, neu tarwch mewn i Bro Ddyfi.

Mae'r Bro Ddyfi yn 'Ganolfan Menter Gymunedol, gyda'r adeilad o dan reolaeth ecodyfi ac yn cael ei rhannu gyda mudiadau cymunedol eraill.

Beth ydy adfywio bro?

Nod rhaglenni adfywio bro yw ceisio creu a chynnig gwaith addas ar gyfer pobl leol drwy edrych ar ystod eang o anghenion.

Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant ffurfiol ac anffurfiol a hefyd yn cynnwys cynorthwyo i godi lefelau hunan hyder pobl drwy ymwneudâ gweithgareddau sy'n ymddangos ymhell o greu gwaith. Felly, mae gwella adnoddau cymunedol ac amgylcheddol yn rhan hanfodol o hyn, yn enwedig os nad ydynt yn unig yn cael eu “dosbarthuî gan asiantaethau allanol.

Rydym yn benderfynol o gyflawni'r gwaith yma mewn modd cynaliadwy. Dyma rai syniadau i helpu egluro beth mae hyn oll yn ei olygu a sut y mae'n gwahaniaethu oddi wrth ffyrdd eraill o adfywio bro:

Rhaid i anghenion lleol gael eu hateb o fewn fframwaith hir-dymor. Mae hyn yn golygu rhoi sylw i safon a sefydlogrwydd bydol yn ogystal â lleol (e.e. twymo bydol), i gryfder yr economi lleol (e.e. hyrwyddo prynu cynnyrch lleol) ac i allu y bobl leol gymeryd cyfrifioldeb am y dyfodol.

Dylai gweithgareddau ddosbarthu buddiannau economaidd, amgylcheddol a chymunedol ble fod modd. Ni ddylid ffocysu yn gyfyng ar un pwnc ond yn hytrach gwneud cysylltiadau.

Back to Main News Page