28th Nov 2005
Seminar Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi: "Cau'r tyllau" - cyflwyniad ar offer a ddatblygwyd gan y Sefydliad Economeg Newydd i helpu i gymunedau ddeall y modd y mae arian yn llifo drwy economïau lleol
Un o nodau'r grwp yw sicrhau economi lleol mwy cadarn - mwy hunanddibynnol a llai ar drugaredd ffactorau y tu hwnt i'w reolaeth - drwy gynyddu cylchrediad arian o fewn yr economi.
Yn achos yr economi lleol, mae punt gaiff ei gwario gyda busnes sydd mewn perchnogaeth leol fel arfer yn werth 1.7 gwaith punt a warir gyda busnesau eraill, gan ei bod yn fwy tebygol o gael ei gwario'n lleol drachefn a chefnogi swyddi lleol o'r herwydd.
Ceisiodd y digwyddiad ennyn pobl leol i ystyried arwyddocâd y penderfyniadau gwario a wneir gan ddefnyddwyr a busnesau lleol a sicrhau y bydd rhai ohonynt â'r awydd a'r gallu i rannu'r genhadaeth ymysg gweddill y gymuned.
Comisiynwyd ecodyfi, y grwp adfywio cymunedol, i drefnu'r digwyddiad.
Fe wnaethant hwythau gomisiynu Liz Bickerton i ddarparu'r cynnwys.
Ymgynghorydd annibynnol o Bowys yw Liz, sydd â phrofiad ym meysydd datblygu ac adfywio economaidd cymunedol.
Cynhaliwyd y cyfarfod 7yh, Mawrth 30ain 2006 yng Nghanolfan Owain Glyndwr, Machynlleth.
Cyfranogodd yr 16 o bobl a ddaeth ynghyd yn llawn yn y digwyddiad a dweud iddynt gael budd ohono.
Fe'u denwyd yno gan bosteri, erthygl yn y Cambrian News a gohebiaeth drwy'r post / e-bost at gysylltiadau Cymunedau yn Gyntaf ac ecodyfi.
1. Cychwynnodd Liz gyda dadansoddiad beirniadol o'r prosiectau adfywio hynny sy'n cyfeirio buddsoddiad cyfalaf tuag at ardal heb roi ystyriaeth ddigonol i gadw'r arian o fewn yr economi lleol.
Bydd yn aml yn cael ei wario ar gontractwyr mawr o'r tu allan i'r ardal.
Hwyrach y cyflogir rhai gweithwyr lleol ganddynt, ond ar wahân i hynny bydd eu harian yn cael ei wario mewn mannau eraill, fel petai gan y gymuned ambarél ariannol uwch ei phen.
Gall y sefyllfaoedd hyn sicrhau budd mwy parhaol o gyfnewid yr �ambarél' am �dwmffat', fel bod arian buddsoddi yn cael ei sianelu tuag at fusnesau lleol.
Un enghraifft bosib o'r effaith ambarél yw grantiau newydd Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni yn y Cartref a rhai eraill ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi ar incwm isel: yn Swydd Amwythig ac ym Môn y mae'r contractwyr cofrestredig nesaf i Fro Ddyfi, felly daw'r grant â budd i'r preswylwyr ond nid i'r economi lleol.
2. Ffordd arall o edrych ar y broses yw ar ffurf y Bunt sy'n Cylchredeg: dychmygwch ddarn punt wedi'i liwio'n las ac ystyriwch faint o ddwylo fydd yn ei gyffwrdd cyn iddo adael yr economi lleol.
O'i wario yn siop y cigydd, fydd yn ei dro yn ei wario yn y siop esgidiau, a pherchennog fanno yn cael torri ei (g)wallt ayb bydd yn cynnal yr holl bobl hynny mewn cyflogaeth gynhyrchiol.
3. Cysyniad Bwced sy'n Gollwng yw fod yr economi lleol yn debyg i fwced yn cael ei llenwi ag arian.
Bob tro mae nwyddau a gwasanaethau yn cael eu prynu oddi ffwrdd, bydd arian yn gollwng o'r economi lleol.
Gall dadansoddi'r prif fannau gollwng esgor ar weithredu.
Er enghraifft, mae �4 miliwn yn cael ei wario'n flynyddol ar ynni ym Mro Ddyfi, ond ychydig iawn ohono sy'n cael ei wario gyda chyflenwyr lleol.
Lleihawyd y gollyngiad penodol hwn fymryn yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan bobl yn defnyddio llai o ynni (yn sgîl inswleiddio eu tai) a thrwy gyflwyno cynlluniau cynhyrchu trydan lleol (e.e.
y tyrbin gwynt cymunedol), ond mae potensial i gyflawni llawer mwy.
Er enghraifft, petai datblygiadau tai newydd (megis y rhai a ragwelir yn Heulfryn, Ceinws, yn Llanwrin ac yng Nghemaes) yn cael eu gwresogi gan systemau gwresogi ardal yn llosgi sglodion coed lleol, byddai'r "gwariant ynni" yn cefnogi swyddi contractwyr coedwigaeth lleol.
4. Awgrymodd Liz y dylem siarad â phrynwyr mawr lleol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, i archwilio ble y maent yn gwario eu harian ac i chwilio am gyfleoedd i gyfnewid y rhain am nwyddau a gwasanaethau lleol.
5. Yna cyflwynodd Liz gysyniad cyffelyb: Dyfrhau'r Anialwch.
Gallwn nodi arian yn dod i mewn i'r economi, gwariant twristiaeth er enghraifft.
Yna dilynir hyn gan asesiad neu archwiliad risg, yn ceisio canfod pwy sy'n derbyn yr arian a sut y defnyddir ef ganddynt.
Po fwyaf o weithiau y caiff yr arian ei ailwario yn lleol, mwyaf effeithiol y "dyfrheir" yr "anialwch".
Yn ddelfrydol, mesurir yr arian sy'n llifo i bob sector o'r economi lleol ac amcangyfrifir gwerth cymharol pob categori gwariant dilynol.
Er enghraifft, hwyrach y bydd gwesty yn gwario x% o'i incwm ar wasanaethau golchi a y% ar staff.
Pa mor effeithiol yw'r ddau gategori gwariant yma o ran cadw'r arian yn lleol?
6. Rhannodd y cyfarfod yn 4 grwp i roi cynnig ar y dull yma, er y byddai ymarferiad o'r fath fel arfer yn gofyn am neilltuo nifer o oriau yn hytrach na 30 munud.
Ystyriwyd y mewnlifau ariannol canlynol ganddynt: Ffermio, Coedwigaeth, Twristiaeth, Cymorth grant.
7. Roedd y pwyntiau a wnaed wrth drafod y canlyniadau yn cynnwys y canlynol:
a. Ffermio - all-lifau ariannol yn cynnwys gwariant ynni a rhent (yn achos landlord absennol)
b. Coedwigaeth - sut mae prynu coed lleol? Diffyg gwybodaeth ynglyn â lleoliad ffynonellau; a yw'r ansawdd yn ddigon da (ar gyfer adeiladu)? Diffyg cydbwysedd / anwadaliad yn y cyflenwad a'r galw
c. Twristiaeth - bydd patrwm gwariant yn dibynnu'n rhannol ar bwy yw perchennog y busnes (lleol ai peidio)
Awgrymiadau ar gyfer y dyfodol i'w hystyried gan y grwp Economi a Chyflogaeth
1. Amlygodd trafodaethau'r noson pa mor bwysig yw gwybodaeth: ble alla i brynu peth a'r peth yn lleol? Mae gwybodaeth lafar yn bwysig, ond mynegwyd cefnogaeth hefyd ar gyfer creu canllaw lleol, syniad sy'n cael ei ystyried gan ecodyfi.
2. Roedd y cyfranogwyr yn credu fod yr offer yn gyfrwng gwerthfawr i gynyddu ymwybyddiaeth o'r materion dan sylw ac o'r farn y byddai hyn yn esgor ar newidiadau mewn ymddygiad prynu.
Sut allwn ni ehangu'r dosbarth o bobl sydd â'r ffordd yma o feddwl? Gallem gyflwyno'r drafodaeth mewn cyfarfodydd Sefydliad y Merched ac i'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau prynu, e.e.
mewn ysgolion.
Mae angen dangos y manteision, gyda thystiolaeth bod y dull wedi llwyddo mewn mannau eraill os yn bosib, profiad Stroud er enghraifft.
3. Mae angen i ni hefyd annog darpariaeth amrediad mwy eang o nwyddau lleol e.e. llysiau.
Hwyrach y gellid llunio cynllun bocs llysiau mwy hyblyg fyddai'n galluogi i Westai archebu eu hanghenion yn wythnosol yn lle cyflwyno archeb sefydlog.
Plugging the Leaks - Making the most of every pound that enters your local economy Sefydliad Economeg Newydd 1899407529
The Money Trail Sefydliad Economeg Newydd. Gellir sicrhau'r ddau gyhoeddiad o Central Books ar 0845 458 9910 neu eu llwytho i lawr o www.pluggingtheleaks.org.
Mae nifer o offer a dulliau cysylltiedig, ynghyd â thanysgrifiad i e-Gylchlythyr, ar gael yn www.neweconomics.org/gen/tools_top.aspx
Sefydlwyd grwp trafod yahoo, ReAction, i ysgogi rhwydweithio a thrafodaeth ymysg tanysgrifwyr yr e-Gylchlythyr.
Andy Rowland, ecodyfi Manager 01654 703965
Cyril Evans, Cydlynydd Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi 01654 700315
31st Jan 2012
1st Dec 2011
7th Oct 2011
7th Oct 2011
21st Sep 2011
12th Aug 2011
14th Jul 2011
23rd Jun 2011
17th Jun 2011
16th May 2011
16th May 2011
5th Apr 2011
5th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys