25th Jul 2007
Datganiad i'r Wasg Gorffennaf 25ain 07
Cynhelir Cyfarfod Arbennig o Bartneriaeth Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi ym Mhlas Dolguog, Felingerrig, am 6 o'r gloch nos Lun, Medi 10fed 2007.
Dyma ail gyfarfod arbennig y Bartneriaeth (AGM), a bydd yn canolbwyntio ar adolygu'r gwaith sydd wedi'i wneud a'r cynnydd a wnaethpwyd, yn ogystal â'r sialens gyffrous o droi'r syniadau a gynrychiolir yng Nghynllun Gweithredu CG Bro Ddyfi yn brosiectau go iawn a hwyluso'r broses o'u rhoi ar waith.
Mae'r cyfarfod yn agored i aelodau cyfredol y Bartneriaeth ac ymgynghorwyr, yn ogystal â'r rhai a enwebwyd. Bydd croeso i'r rhai hynny sydd â diddordeb mewn ymuno â'r Bartneriaeth, - mae lleoedd gwag ar hyn o bryd - yn ogystal â'r rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn unrhyw un o'r grwpiau gwaith. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynychu'r cyfarfod hysbysu Swyddfa Cymunedau'n Gyntaf erbyn Medi 3ydd 2007 (gweler y manylion isod). Dylai enwebiadau ar gyfer aelodaeth o Bartneriaeth Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi gyrraedd y Cydlynydd o leiaf 14 diwrnod cyn y cyfarfod.
Mae Grwpiau Gwaith yn cyfrannu tuag at y Cynllun Gweithredu, ac mae eu themâu yn cynnwys Gweithgareddau Cymunedol, Economi a Gwaith, Tai, Cludiant a Chyfathrebu, Addysg a Hyfforddiant, Cefn Gwlad a'r Amgylchedd, ac Iechyd a Lles Cymunedol. Dylai'r rhai a enwebir nodi thema neu themâu sydd o ddiddordeb iddynt, ac ym mha un o'r pedair ward (Machynlleth, Cadfarch, Glantwymyn, Llanbrynmair) maent yn byw neu'n gweithio.
Dim ond i chi gysylltu â Swyddfa Cymunedau'n Gyntaf gallwn anfon copi llawn o Gytundeb y Bartneriaeth atoch, ynghyd ag unrhyw wybodaeth fydd ei angen arnoch ynglÅ·n â rhaglen Cymunedau'n Gyntaf.
Ffôn: 01654 700315, E-bost Cyril Breeze Evans.
Un o raglenni mwyaf blaengar Llywodraeth Cynulliad Cymru yw Cymunedau'n Gyntaf sydd â'r nod o leihau tlodi a helpu i wella bywydau pobl sy'n byw yn yr ardaloedd tlotaf. Rhaglen tymor hir yw hon a fydd yn parhau am o leiaf deng mlynedd. Bydd yn rhoi cyfle i bobl leol gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain am yr hyn sydd ei angen, a'u helpu i wneud hynny ddigwydd.
Amcanion Cymunedau'n Gyntaf yw cynnwys pobl leol er mwyn iddynt gyfrannu tuag at wella eu hardaloedd, dod â nawdd i mewn a chefnogaeth ychwanegol o ystod o ffynonellau i annog ffyrdd newydd o ddelio â phroblemau, ac i ddod â phawb at ei gilydd i wneud eu cymunedau yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt.
Gwybodaeth: Cyril Breeze Evans; 01654 700315.
31st Jan 2012
1st Dec 2011
7th Oct 2011
7th Oct 2011
21st Sep 2011
12th Aug 2011
14th Jul 2011
23rd Jun 2011
17th Jun 2011
16th May 2011
16th May 2011
5th Apr 2011
5th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys