4th Jan 2004
Mae cwmni lleol sef 'Cyberium' wedi cael ei apwyntio i ddatblygu a dylunio'r wefan yma ar gyfer rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Powys. Mae tudalennau gwybodaeth ar gael ar y rhaglen ym Mhowys ar y cyfan, a hefyd ar y tair ardal Cymunedau yn Gyntaf ym Mhowys, sef Oldford, Ystradgynlais a Bro Ddyfi.
Dywedodd yr hwylusydd Cyril Evans, "Mi fydd yr hyfforddiant yma yn rhoi cyfle i tua wyth o fobol yr ardal i ddysgu ychydig mwy am y gwahanol agweddau o weithio ar safleoedd we, ac er mae dim ond bedair awr yw'r gweithdy, mi fydd y tiwtor David Thorpe o gwmni 'Cyberium' yn edrych ar wahanol agweddau o'r gwaith".
Esboniodd David "Mae'r we wedi newid y ffordd mae pobl yn gweithio ac yn chwarae, a hefyd y ffordd i dderbyn gwybodaeth. Mi wnaeth y 'gweithdy' yma rhoi blas i fobol o ffordd i weithio ar safleoedd y we, ac mi fydd sesiynau ymarfer trwy edrych ar enghreifftiau o wahanol safleoedd ac edrych ar:
Mi fydd y sesiwn yma yn werthfawr iawn i unigolion, grwpiau cymunedol, neu fudiadau gwirfoddol, os oes wefan gyda chi yn barod ac yn meddwl y gallai fod yn well, neu yn ystyried cychwyn wefan eich hun".
Aeth David ymlaen i ddweud "Rydwyf yn eiddgar iawn y dylai'r we gael ei ddefnyddio yn gywir ac felly yn hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol".
Y gobaith yw, y budd aelodau o'r gymuned yn gallu helpu i gynal ac ychwanegu safle'r we Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi yn y dyfodol, ac os oes gennych ddiddordeb yn hyn ac yn y gweithdy, cysylltwch a Cyril neu Beverly yn swyddfa Cymunedau yn Gyntaf yn:
Ty Bro Ddyfi, 52 Heol Maengwyn Machynlleth, Rhif Ffon: 01654 700315 neu e-bost: cyril@powys.gov.uk neu beverlyt@messaging.powys.gov.uk
31st Jan 2012
1st Dec 2011
7th Oct 2011
7th Oct 2011
21st Sep 2011
12th Aug 2011
14th Jul 2011
23rd Jun 2011
17th Jun 2011
16th May 2011
16th May 2011
5th Apr 2011
5th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys