Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Newyddion > Undeb Credyd Robert Owen a Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi yn gweithio mewn partneriaeth

Undeb Credyd Robert Owen a Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi yn gweithio mewn partneriaeth

4th Apr 2008

Mae Undeb Credyd Robert Owen yn awr yn agored pob Dydd Gwener o 2 tan 4.30 ym mhrif swyddfa newydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, ym Mryn-Y-Gog, Machynlleth. Mae hyn yn nodi'r berthynas gref sy'n tyfu rhwng yr Undeb Credyd a Chymunedau yn Gyntaf, a fydd yn elwa'r bobl sy'n byw yn yr ardal.

Ymhlith y gwasanaethau a gynigir gan yr Undeb Credyd ceir benthyciadau isel eu cost, cymorth gyda gosod cyllideb, cyngor am egni, talu biliau ac yswiriant bywyd am ddim. Gall aelodau gael gafael ar ddisgownt yn y Ganolfan Hamdden hefyd. Gellir gwneud apwyntiad i weld cynghorwyr dyled a budd-daliadau o dan drefniant sydd gan yr undeb credyd gyda Chanolfan Cynghori Bro Ddyfi. Gellir gwneud taliadau yn y swyddfa, drwy archeb sefydlog, neu drwy gael eich budd-dal neu gyflog wedi'u talu i mewn yn uniongyrchol.

Am wybodaeth bellach galwch heibio swyddfa Bryn-Y-Gog ar brynhawn Dydd Gwener neu ffoniwch 01686 623741 i siarad ag un o'r staff. Gallwch weld ein Swyddog Benthyciadau neu Gynghorydd Egni ar amser ac mewn lleoliad sy'n gyfleus i chi.

Felly, os ydych angen benthyciad i wella eich cartref neu i fynd â'r plant am wyliau, dowch i'n gweld a byddwn yn cynnig pecyn benthyg a chynilo unigol a chyfrifol i chi - un y gallwch ei fforddio.

 

Back to Main News Page