1st Apr 2003
Mae'r Hwylusydd, Cyril Evans, yn trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau gyda rhai o'r grwpiau sydd wedi mynegi diddordeb wrth i'r broses o ymgynghori yn y Gymuned barhau i geisio darganfod gwybodaeth am anghenion, barn a diddordebau'r gymuned.
Mi fuasai Cyril yn falch iawn o gael y cyfle i wrando ar farn unrhyw un, ac i dderbyn awgrymiadau a syniadau ynglyn â dyfodol Bro Ddyfi, oherwydd am y tro cyntaf fwy na thebyg, y bobl sydd yn bwysig - chi fel unigolion sy'n cael cyfle go iawn i gael eich barn wedi ei glywed am ddyfodol y fro hardd hon.
Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth am Gymunedau'n Gyntaf mae croeso i chi alw am sgwrs fel unigolyn, neu os hoffech fel grwp neu fudiad gael cyflwyniad gan Cyril, mae croeso i chi gysylltu â'r swyddfa i drefnu hyn hefyd.
Mae swyddfa Cymunedau'n Gyntaf erbyn hyn wedi symud i gartref parhaol yn Nhy Bro Ddyfi, sef 'Canolfan Menter Cymunedol', adeilad sy'n gartref i nifer o fudiadau cymunedol.
Ehangwyd grwp lliwio yn ddiweddar i dri ar ddeg o aelodau, gyda chynrychiolaeth ychwanegol i ddod o ardal Llanbrynmair yn y dyfodol agos. Fe fydd hyn yn ehangu'r profiad helaeth a'r sgiliau a gwybodaeth am yr ardal sydd eisoes yn bodoli o fewn y grwp.
Aelodau'r Grwp lliwio (Chwith i'r de)
Cefn: Iona Sawtell (Cadeirydd), Stephen Tudor, Arfon Hughes, Andy Rowland a Nick Waller. Canol: Anwen Davies, Sioned Pughe, Nicola Dunkley a Cerys Humphreys. Blaen: Gwilym Fychan, Cyril Evans (Hwylusydd), ac Ann Williams. Dim yn y llun: Myra Francis a Hedd B. Williams.
Bydd y grwp a'r hwylusydd yn awr yn ystyried creu sawl 'Grwp Thema' ar y themâu a'r is - themâu /categorïau a ddynodwyd. Fe fydd maint a themâu'r grwpiau'n dibynnu ar y diddordeb a ddangosir.
Er gwybodaeth i'r sawl sydd yn newydd i'r rhestr bostio, nodir y prif themâu ar is - themâu isod:
|
Iaith a Diwylliant |
Adloniant |
Y Celfyddydau a Hamdden |
|
Cludiant a chyfathrebu |
Neuaddau Pentrefi |
Cefn Gwlad a'r Amgylchedd |
|
Ysgolion |
Gofal Iechyd |
Adeiladau, Llety a thai |
|
Cyllid |
Twristiaeth |
Gwaith, Busnes a darparu gwasanaethau |
|
Iaith, Diwylliant ac Addysg |
Tirlun |
Cyfathrebu Cyfreithiol a Chymdeithasol |
|
Difyrrwch ac Adloniant |
Cynaladwyedd |
Ymwybyddiaeth o'r ardal |
|
Chwaraeon a Gweithgareddau |
Ieuenctid |
Tai a Gwaith |
|
Canolfan Technoleg Amgen |
Henoed |
Ansawdd bywyd |
Ein bwriad yw ffurfio sawl 'Grwp Thema', felly mae'n amser da i roi gwybodaeth i ni os oes gennych ddiddordeb arbennig mewn unrhyw bwnc.
Os oes, cysylltwch a Cyril yn Ty Bro Ddyfi, 52 Heol Maengwyn, Machynlleth, Powys, SY20 8DT.
Rhif ffon: 01654 700315 E-Bost: cyril@powys.gov.uk.
Yn y dyfodol agos, fe fydd 'Llyfr Syniadau' dwyieithog ar gael i'r cyhoedd er mwyn annog sylw. Bydd y llyfr yma'n cynnwys pob awgrymiad a syniad sydd wedi dod i law hyd yn hyn, oddi wrthych chi, bobl Bro Ddyfi am yr hyn sydd ei angen i wella ar ansawdd bywyd, ac er mwyn sicrhau adfywhad cynaliadwy i'r ardal.
Fe fydd y llyfr yma ar gael mewn amryw o lefydd ym Mro Ddyfi, o fewn Powys, (llefydd a dyddiadau i'w penderfynu), a bydd yn cael ei ddiweddaru'n gyson, felly mae croeso i chi roi mwy o syniadau neu awgrymiadau i ni.
NID Cynllun Gweithredu yw hwn, ond yn naturiol fe fydd yn declyn defnyddiol iawn i helpu yr Hwylusydd a'r Grwp Lliwio i lunio Cynllun Gweithredu ar gyfer Bro Ddyfi.
Dyma EICH CYFLE CHI i fynegi EICH BARN CHI am EICH DYFODOL CHI.
31st Jan 2012
1st Dec 2011
7th Oct 2011
7th Oct 2011
21st Sep 2011
12th Aug 2011
14th Jul 2011
23rd Jun 2011
17th Jun 2011
16th May 2011
16th May 2011
5th Apr 2011
5th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys