Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Newyddion > Cyfarfod Arbennig o Bartneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Bro Ddyfi

Cyfarfod Arbennig o Bartneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Bro Ddyfi

4th Aug 2008

Cynhelir Cyfarfod Arbennig o Bartneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Bro Ddyfi yn Y Plas, Machynlleth, am hanner awr wedi chwech ar nos Lun, Medi 15fed 2008.

Dyma drydydd cyfarfod arbennig y Bartneriaeth (AGM), a bydd yn canolbwyntio ar y gwaith  sydd wedi’i wneud a’r cynnydd a wnaethpwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal â’r sialens gyffrous sydd o’n blaen fel yr ydym yn symud ymlaen tuag at y cyfnod nesaf o raglen Cymunedau yn Gyntaf.   

Mae’r cyfarfod yn agored i aelodau cyfredol y Bartneriaeth ac ymgynghorwyr, yn ogystal â’r rhai hynny sydd â diddordeb mewn ymuno â’r Bartneriaeth neu unrhyw un o’r grwpiau gwaith.

Mae Grwpiau Gwaith yn cyfrannu tuag at y Cynllun Gweithredu, ac mae eu themâu yn cynnwys Gweithgareddau Cymunedol, Economi a Gwaith, Tai, Cludiant a Chyfathrebu, Addysg a Hyfforddiant, Cefn Gwlad a’r Amgylchedd, ac Iechyd a Lles Cymunedol.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynychu’r cyfarfod hysbysu Swyddfa Cymunedau’n Gyntaf erbyn Medi 1af 2008 (gweler y manylion isod). Mae lleoedd gwag ar y bartneriaeth ar hyn o bryd a dylai enwebiadau ar gyfer aelodaeth o Bartneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Bro Ddyfi gyrraedd y Cydlynydd o leiaf 14 diwrnod cyn y cyfarfod.

Dylai’r rhai a enwebir nodi thema neu themâu sydd o ddiddordeb iddynt, ac ym mha un o’r pedair ward (Machynlleth, Cadfarch, Glantwymyn, Llanbrynmair) maent yn byw neu’n gweithio. 

Dim ond i chi gysylltu â Swyddfa Cymunedau’n Gyntaf gallwn anfon copi llawn o Gytundeb y Bartneriaeth atoch, ynghyd ag unrhyw wybodaeth fydd ei angen arnoch ynglŷn â rhaglen Cymunedau’n Gyntaf.

Ffôn: 01654 700315    E-bost  commfirst.broddyfi@powys.gov.uk

Back to Main News Page