27th Oct 2008
Mae Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi yn cynnal ‘Diwrnod Ymwybyddiaeth a Gwybodaeth am Anabledd’ yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi, Machynlleth ar Ddydd Gwener Tachwedd 14eg.
Bydd hwn yn ddigwyddiad taro-mewn rhwng 11.30yb a 3.00yh, ac mi fydd lluniaeth ysgafn, bylbiau trydan ynni isel, plwgiau arbed ynni ‘PowerDown’, raffl gyda gwobrau da, a llawer mwy gyda’ cwbl YN RHAD AC AM DDIM.
Dywedodd Cyril Breeze Evans, Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf: “Bwriad y digwyddiad rhad ac am ddim yma yw darparu gwybodaeth ddefnyddiol a chyngor da, nid yn unig i bobl leol sydd yn dioddef gydag anabledd corfforol neu synhwyraidd eu hunain, ond hefyd i’w teuluoedd a’i ffrindiau”.
Mae partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi yn ymwybodol iawn o’r angen i fynd i'r afael a dieithrio cymdeithasol o bob ffurf, gan gynnwys dieithrio cymdeithasol oherwydd anabledd, ac maen nhw wedi penderfyni cynnal y digwyddiad yma fel un ffordd bwysig o wneud hyn.
Bydd stondinau arddangos gyda grwpiau a sefydliadau lleol, Anabledd Powys, RNIB Cymru, RNID Cymru, a’r Bwrdd Iechyd Lleol, yn ogystal â gweithdai /grwpiau trafod. Bydd y rhain ar bynciau amrywiol perthnasol gan gynnwys ‘Rhwystrau mewn ardaloedd gwledig i bobl anabl ynglÅ·n â gwaith, addysg, gwasanaethau, a gweithgareddau hamdden’.
Aeth Cyril ymlaen i ddweud “trwy godi ymwybyddiaeth am y llawer o sefydliadau lleol, rhanbarthol, a chenedlaethol, sydd yn cynnig cefnogaeth a chyngor, gobaith y bartneriaeth yw y bydd hyn yn arwain at fwy o ddefnydd yn cael eu gwneud o’r gwasanaethau yma nid yn unig gan bobl leol sy’n dioddef o anabledd corfforol neu synhwyraidd, ond hefyd eu teuluoedd, ac y gwneith hyn helpu i gynnal a gwella ansawdd eu bywyd”.
Os oes gan unrhyw grŵp lleol, sydd yn darparu gwasanaeth i bobl sydd yn dioddef o anabledd corfforol neu synhwyraidd, ddiddordeb mewn cael stondin arddangos yn y digwyddiad yma, a fyddech o gystal â chysylltu gyda swyddfa Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi.
Am ychwaneg o fanylion ynglÅ·n ag amserau a phynciau'r gweithdai/grwpiau trafod, mae croeso i chi gysylltu â Swyddfa Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi ar 01654 700315, neu e-bostiwch commfirst.broddyfi@powys.gov.uk
31st Jan 2012
1st Dec 2011
7th Oct 2011
7th Oct 2011
21st Sep 2011
12th Aug 2011
14th Jul 2011
23rd Jun 2011
17th Jun 2011
16th May 2011
16th May 2011
5th Apr 2011
5th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys