Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Newyddion > Datganiad i'r wasg Medi 2003

Datganiad i'r wasg Medi 2003

1st Sep 2003

Datganiad i'r wasg Medi 2003

Ffurfiwyd 15 Fforymau Lleol ym Mhowys, yn cynnwys Fforwm Machynlleth a'r Cylch, sy'n gwasanaethu ardaloedd Llanbrynmair, Cadfarch, Glantwymyn a Machynlleth.

Mae'r Fforwm yn fodd i'r gymuned ddweud wrth yr awdurdodau cyhoeddus beth ddylai fod yn flaenoriaeth iddynt yn ein hardal.

Mae'n gweithio ar y cyd ag ecodyfi, Cynghorau Cymuned a Thref a Chymunedau'n Gyntaf er mwyn datblygu cynllun gweithredu ar gyfer y dyffryn.

Mae rhai pynciau neu themâu yn cael eu trafod trwy gyfarfodydd agored y Fforwm, rhai trwy'r proses Cymunedau yn Gyntaf a rhai eraill trwy grwpiau sy'n cael eu cydlynu gan ecodyfi.

Dyma fanylion cyfarfodydd nesaf y Fforwm:

Dysgu Gydol Oes
Nos Fercher Hydref 15ed, 7.30 yh yn y Ganolfan Gymunedol, Glantwymyn
Siaradwyro Hyfforddi Powys a Chyngor Sir Powys.

Yr Amgylchedd
Nos Fawrth Tachwedd 4ydd, 7.30yh yn Neuadd y Pentref Cwmllinau
Siaradwyr o Ganolfan y Dechnoleg Amgen ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

Am ragor o fanylion, cysylltwch ac Andy Rowland, Cade'rydd y Fforwm, ar 01654 703965 neu andy.rowland@ecodyfi.org.uk

Top

Back to Main News Page