3rd Aug 2009
Cynhelir Cyfarfod Arbennig o Bartneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Bro Ddyfi ym Mhlas Dolguog, ger Machynlleth, am hanner awr wedi chwech ar nos Fawrth, Medi 15fed 2009.
Dyma bedwerydd cyfarfod arbennig y Bartneriaeth (AGM), a bydd yn canolbwyntio ar y gwaith sydd wedi’i wneud a’r cynnydd a wnaethpwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal â’r sialensiau cyffrous sydd o’n blaen fel yr ydym yn symud ymlaen tuag at y cyfnod nesaf o raglen Cymunedau yn Gyntaf.
Mae’r cyfarfod yn agored i aelodau cyfredol y Bartneriaeth ac ymgynghorwyr, yn ogystal â’r rhai hynny sydd â diddordeb mewn ymuno â’r Bartneriaeth neu unrhyw un o’r grwpiau gwaith.
Mae Grwpiau Gwaith yn cyfrannu tuag at y Cynllun Gweithredu, a gallant fod yn grwpiau cyfredol neu dasg a diwedd fel bydd yr angen. Mae’r themâu o fewn rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn cynnwys: Creu Incwm, Swyddi a Busnesau; Iechyd a Lles; Amgylchedd ( yn cynnwys Tai a Chludiant ); Diogelwch Cymunedol; Addysg, Sgiliau a Hyfforddiant; a Thlodi ymhlith Plant, a hefyd y themâu ychwanegol sy’n trawsdorri, sef Gwledigrwydd; Iaith a Diwylliant Cymreig; a Chynhwysiad Cymdeithasol. Gall y bartneriaeth fod yn gweithio ar rhai neu bob un o’r themâu yma ar y tro fel bydd yr angen.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynychu’r cyfarfod hysbysu Swyddfa Cymunedau’n Gyntaf erbyn Medi 1af 2009 (gweler y manylion isod). Mae lleoedd gwag ar y bartneriaeth ar hyn o bryd a dylai enwebiadau ar gyfer aelodaeth o Bartneriaeth Cymunedau’n Gyntaf Bro Ddyfi gyrraedd y Cydlynydd o leiaf 14 diwrnod cyn y cyfarfod.
Dylai’r rhai a enwebir nodi thema neu themâu sydd o ddiddordeb iddynt, ac ym mha un o’r pedair ward (Machynlleth, Cadfarch, Glantwymyn, Llanbrynmair) maent yn byw neu’n gweithio.
Dim ond i chi gysylltu â Swyddfa Cymunedau’n Gyntaf gallwn anfon copi llawn o Gytundeb y Bartneriaeth atoch, ynghyd ag unrhyw wybodaeth fydd ei angen arnoch ynglÅ·n â rhaglen Cymunedau’n Gyntaf. Ffôn: 01654 700315 E-bost commfirst.broddyfi@powys.gov.uk
31st Jan 2012
1st Dec 2011
7th Oct 2011
7th Oct 2011
21st Sep 2011
12th Aug 2011
14th Jul 2011
23rd Jun 2011
17th Jun 2011
16th May 2011
16th May 2011
5th Apr 2011
5th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys