3rd Aug 2009
Daeth sefydliadau cymunedol ym Mro Ddyfi at ei gilydd i ddweud wrth bobl sut y gallant fynd o gwmpas heb gar. Bu’r fenter Llogi Bws sy’n cysylltu pentrefi megis Aberhosan a Llanwrin gyda Machynlleth yn un o’r pynciau dan sylw.
Mae trigolion Machynlleth yn derbyn copi am ddim o argraffiad arbennig o Daflen Teithio Dyfi trwy’r blwch llythyrau. Mae ecodyfi yn cynhyrchu’r Daflen gyfleus hon ddwywaith y flwyddyn gydag chymorth ariannol gan gonsortiwm trafnidiaeth rhanbarthol Trac. Mae’n boblogaidd bob amser gydag ymwelwyr yn ogystal â phobl leol. Mae Cymunedau yn Gyntaf yn cyfrannu arian hefyd i helpu gyda’r argraffiad ychwanegol a’r dosbarthu, ac mae’r cwmni marchnata lleol, Timeline, wedi troi’u tudalen ar Brif Awgrymiadau Teithio yn ganllawiau cychwynnol teithio heb gar.
Mae copïau i’w cael yn y Llyfrgell ac yn yr Orsaf a gall pobl sy’n arfer â chyfrifiadur ei lawrlwytho o www.ecodyfi.org.uk/transport.htm
Mae arian o Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi galluogi Cymunedau yn Gyntaf i gynhyrchu a chyflwyno taflen sy’n egluro sut i ddefnyddio’r ddau wasanaeth Llogi Bws “ymateb i alwad” arbennig yma oddi mewn i’r ardal. Maent wedi cyhoeddi amserlen, ond nid ydynt yn rhedeg oni bai fod rhywun yn gofyn am wasanaeth arbennig o leiaf ddwyawr ymlaen llaw, trwy ffonio Lloyd’s Coaches ar 01654 702100. Mae hyn yn osgoi gwastraffu arian yn rhedeg bysiau gweigion, ac yn ei gwneud hi’n bosibl i Gyngor Sir Powys gynnig y gwasanaethau hyn.
Eglurodd Andy Rowland, ecodyfi, bod y gwasanaeth wedi bod yn hynod o bwysig i lawer o drigolion ein pentrefi. “Mynediad gwael i wasanaethau oedd un o’r prif resymau dros ddynodi’r ardal yn ardal Cymunedau yn Gyntaf,” meddai. Mae’r gwasanaeth tacsi yn dda iawn, ond yn gostus i bobl ar gyflogau isel sydd eisiau mynd i siopa neu i gymdeithasu. Mae’r gwasanaethau cludiant cyhoeddus yn ardderchog hefyd, ond nid ydynt ar gael i bawb.”
Dywedodd y gweithredwr, Wyn Lloyd, “Mae’n wych o beth gallu cynnig gwasanaethau i lefydd fel Darowen a bod y prisiau'r un fath â phrisiau bws cyffredin. Mae’n cymryd ychydig o amser i bobl ddod i arfer â’r system logi, ac rwy’n falch bod y wybodaeth benodol yma yn mynd allan i’w helpu.”
Mae’r taflenni wedi’u dosbarthu o ddrws i ddrws, gydag amserlen o gerdyn cryf maint cerdyn credyd. Maent yn dangos yr amserau sy’n berthnasol i’r pentref hwnnw yn unig, felly maent o faint defnyddiol i’w cario o gwmpas. Gellir cael copïau o TÅ· Bro Ddyfi, 52 Heol Maengwyn ym Machynlleth, o swyddfa Brynygog Cymunedau yn Gyntaf, neu trwy ffonio 01654 700315.
Maent i’w cael hefyd yn y gyfres o arddangosfeydd a stondinau sy’n hyrwyddo cludiant cyhoeddus a chymunedol ym Machynlleth. Mae Gerwyn Jones, Swyddog Datblygu Rheilffyrdd Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian wedi gwario llawer o amser ar y rhain ar ddiwrnodau marchnad yn dweud wrth bobl am fysiau yn ogystal â threnau, gan ddangos y gwaith mae’r bartneriaeth yn ei wneud gydag anogaeth Cymunedau yn Gyntaf.
31st Jan 2012
1st Dec 2011
7th Oct 2011
7th Oct 2011
21st Sep 2011
12th Aug 2011
14th Jul 2011
23rd Jun 2011
17th Jun 2011
16th May 2011
16th May 2011
5th Apr 2011
5th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys