6th Oct 2009
Gan ddechrau Dydd Mercher, Hydref 7fed, mae Undeb Credyd Robert Owen mewn Partneriaeth â Chymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi yn newid ei ddiwrnod a’i oriau agor o brynhawn Dydd Gwener i Ddydd Mercher rhwng 1.00pm a 3.00pm.
Bydd desg Undeb Credyd yn aros yn ei lleoliad presennol ym mhrif swyddfa Cymunedau yn Gyntaf, Yr Hen Siop, ar stad Bryn-y-Gog ym Machynlleth, a bydd yn parhau i gynnig yr un gwasanaeth i aelodau presennol yn ogystal â’r rhai hynny sy’n awyddus i ymuno o’r newydd.
Eglurodd Cyril Evans, Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, “Gan fod Dydd Mercher yn ddiwrnod marchnad mae mwy o bobl o’r pentrefi cyfagos yn dod i mewn i Fachynlleth. Bydd y trefniadau newydd yn galluogi pobl i ymweld â’r farchnad, siopa ychydig yn siopau ardderchog Machynlleth, a delio gyda materion ariannol i gyd ar yr un diwrnod, a thrwy hynny osgoi siwrnai ychwanegol.”
Mae’r Bartneriaeth rhwng Cymunedau yn Gyntaf a’r Undeb Credyd yn un llwyddiannus iawn ac wedi bod o fudd i nifer fawr o bobl lleol, sy’n chwilio am ddewis arall ar wahân i Fanciau’r Stryd Fawr, neu’n chwilio am gredyd fforddiadwy. Ymhlith y gwasanaethau a gynigir gan Undeb Credyd mae benthyciadau llog isel gyda thelerau ad-dalu hyblyg, cynilion hyblyg, cymorth gyda chyllido/trefnu arian, cyngor ynni, talu biliau ac yswiriant bywyd rhad ac am ddim. Gellir gwneud taliadau yn y swyddfa, trwy archeb sefydlog, pwynt talu neu trwy gael eich budd-daliadau neu gyflog wedi’u talu i mewn yn uniongyrchol.
Gellir trefnu apwyntiadau hefyd i weld cynghorwyr dyled a budd-daliadau trwy drefniant sy’n bodoli rhwng yr Undeb Credyd a Chanolfan Gynghori Bro Ddyfi.
I’r rheiny sy’n methu ymweld â’r swyddfa ar brynhawn Dydd Mercher, gallwch gysylltu â’r undeb credyd ar 01686 623741 neu e-bostio office@romcul.co.uk am fwy o wybodaeth.
31st Jan 2012
1st Dec 2011
7th Oct 2011
7th Oct 2011
21st Sep 2011
12th Aug 2011
14th Jul 2011
23rd Jun 2011
17th Jun 2011
16th May 2011
16th May 2011
5th Apr 2011
5th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys