Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys a Chymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi yn awyddus i gael eich barn ar faterion trosedd ac anhrefn oddi mewn i ardal Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi sy’n cynnwys Llanbrynmair, Cadfarch, Glantwymyn a Machynlleth.
Diogelwch Cymunedol yw gwarchod hawl pawb i fyw heb ofn am eu diogelwch eu hunain a phobl eraill. Bu Heddlu Dyfed Powys a Chyngor Sir Powys yn gyfrifol am daclo troseddu ac anhrefn oddi mewn i’r sir ers nifer o flynyddoedd. Mae’r asiantaethau hyn ynghyd â phartneriaid allweddol eraill, yn ffurfio Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys (CSP), a thrwy weithredu rhagweithiol, maent yn gostwng trosedd ac anhrefn er mwyn gwella ansawdd bywyd pawb sy’n gweithio a byw ym Mhowys, yn ogystal â’r rhai sy’n ymweld â’r sir.
Mae gwasanaethau megis Iechyd Amgylcheddol, Rheoli Gwastraff, Safonau Masnach, Tai, Trefi Taclus, Tân ac Achub yn medru cynnig ystod eang o weithgareddau a gynlluniwyd i wneud cymunedau yn fwy diogel, ac yn cynnig cyfle i breswylwyr gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth trwy wneud rhywbeth ymarferol i wella’u cymdogaeth.
Mae ‘Grŵp Datrys Problemau Cymunedau yn Gyntaf/ Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys’ yn grŵp newydd fydd yn cwrdd yn fuan yn ardal Bro Ddyfi, ac maent yn awyddus i dderbyn eich barn a’ch pryderon am faterion Diogelwch Cymunedol. Yna gellir eu trafod yn y cyfarfod hwnnw er mwyn galluogi’r asiantaethau perthnasol i weithio mewn partneriaeth er mwyn helpu i ddatrys materion sydd o’r pwys mwyaf i’r gymuned leol.
Eglurodd Cyril Breeze Evans, Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, “Mae’n bwysig ein bod yn ymwybodol o farn a phryderon cymaint o bobl ag sy’n bosib er mwyn i’r grŵp newydd hwn fedru symud ymlaen a mynd i’r afael â’r materion hyn”.
Dylid cofrestru safbwyntiau gyda Chymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi erbyn Tachwedd 6ed fan bellaf.
E-bost: commfirst.broddyfi@powys.gov.uk , Rhif Ffôn: 01654 700315, trwy’r post, neu trwy alw yn swyddfa Cymunedau yn Gyntaf, Yr Hen Siop, Bryn y Gog, Machynlleth, Powys SY20 9QJ.