5th Mar 2010
Byddem yn ddiolchgar dros ben pe baech cystal â threulio ychydig o funudau yn llenwi’r arolwg hwn a fydd yn ein helpu i ddarganfod barn pobl am y materion sy’n berthnasol i’ch cymuned. Mae’r arolygiadau ar gael trwy ganlyn y dolennau isod:
Cymraeg http://www.surveymonkey.com/s/HBNJYX2
Cyllidir Prosiect Adnabod eich Cymuned gan Gronfa Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Nod y Prosiect yw creu darlun (neu broffil) o’r bobl a’r pynciau sy’n bwysig ym mhob un o’r tair ardal Cymunedau yn Gyntaf ym Mhowys - Bro Ddyfi, Oldford (Y Trallwng) ac Ystradgynlais.
Defnyddir yr wybodaeth a gesglir i alluogi gwasanaethau i ymateb yn well i anghenion unigol cymunedau sy’n mynd yn fwy a mwy amrywiol. Bydd hefyd yn helpu i gefnogi’r gwaith o integreiddio pobl sydd wedi eu hallgau o fywyd cymunedol.
Cwblheir y Prosiect gan Siawns Teg (gyda chefnogaeth Resources for Change) mewn partneriaeth gyda Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys a Cymunedau yn Gyntaf Powys.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y Prosiect Adnabod eich Cymuned cysylltwch â Tim Boyle, Siawns Teg ar 07815 099942 neu e-bostiwch kycp.siawnsteg@btconnect.com neu Joy Howells, Resources for Change ar 01938 555759 neu e-bostiwch joy@r4c.org.uk
Bydd yr arolygiadau yma ar gael hyd at 23ain o Fawrth 2010. A fyddech cystal ag anfon y dolennau yma ymlaen i unrhyw un yr ydych yn meddwl sydd â diddordeb.
Llawer o ddiolch i chi am eich amser.
31st Jan 2012
1st Dec 2011
7th Oct 2011
7th Oct 2011
21st Sep 2011
12th Aug 2011
14th Jul 2011
23rd Jun 2011
17th Jun 2011
16th May 2011
16th May 2011
5th Apr 2011
5th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys