17th Jun 2011
Bydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi yn cynnal bore coffi mewn partneriaeth â staff Undeb Gredyd Robert Owen ar y 22ain o Fehefin yn Swyddfa Cymunedau yn Gyntaf, Yr Hen Siop, Bryn y gog, Machynlleth lle bydd croeso i drigolion Bro Ddyfi ymuno gyda ni am lluniaeth ysgfan a sgwrs rhwng 11.00yb - 12.30yp.
Bydd cyfle i ddarganfod pa wasanaethau ariannol sydd ar gael trwy Undeb Credyd Robert Owen, sy’n cynnwys sicrhau cynilion, benthyciadau ar gyfer dechrau busnes, benthyciadau personol fforddiadwy a llawer mwy.
Sefydlwyd Undeb Credyd Robert Owen yn 1995 ac mae’n cynnig gwasanaethau i bawb sy'n gweithio neu yn byw yn Sir Drefaldwyn. Mae mannau casglu wedi’u lleoli nid yn unig yn y Drenewydd, ond hefyd yn Llanidloes, Machynlleth, Oldford a'r Trallwng. Mae aelodaeth yn agored i unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio yn Sir Drefaldwyn.
Mae'r bartneriaeth rhwng Cymunedau yn Gyntaf a’r undeb gredyd wedi bod o fudd i lawer o bobl leol sydd naill ai yn edrych am ddewis moesegol i'r hyn a gynigir gan Fanciau’r Stryd Fawr, neu sy’n chwilio am gredyd fforddiadwy.
Bydd unrhywun a fydd yn galw i mewn am baned ar yr 22ain o Fehefin yn derbyn aelodaeth i’r undeb gredyd AM DDIM, yn arbed pris arferol o £5, yn ogystal â chopi o lyfryn arbed arian a chyngor ynni yn RHAD AC AM DDIM sydd yn cynnwys llawer o awgrymiadau ar sut i arbed £££££££ oddi ar eich biliau ynni.
21st Feb 2012
21st Feb 2012
31st Jan 2012
1st Dec 2011
7th Oct 2011
7th Oct 2011
21st Sep 2011
12th Aug 2011
14th Jul 2011
23rd Jun 2011
17th Jun 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys