Byddem yn hoffi gweld economi gynaliadwy leol sy’n neilltuol i ‘Fro Ddyfi’ ac wedi’i selio ar ddiwylliant, adnoddau, cynnyrch ac asedau amgylcheddol Bro Ddyfi. Dylai ymwelwyr gael profiad ardderchog o ddarganfod, mwynhau ac aros ym Mro Ddyfi, yn cynnwys gweithgareddau awyr agored cynaliadwy. Dylai mentrau lleol, yn cynnwys busnesau cymdeithasol, gael help i sefydlu eu hunain ac i dyfu, a bydd ffermwyr yn gallu ymwneud ag amrywiaeth eang o weithgareddau economaidd. Dylai gwasanaethau cefnogi busnes a gyrfaoedd personol fod ar gael yn lleol.
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys