Gwybodaeth i Berchnogion Tir
Mae darparu tir addas ar gyfer prosiectau tai fforddiadwy yn ffactor allweddol.
Mae tair sefyllfa sylfaenol:
- Tir sy’n gorwedd o fewn ardal ddatblygu’r dref / pentref. Bydd yr awdurdod cynllunio yn ceisio cyd-drafod â’r datblygwr fel bo canran benodol o’r tai yn fforddiadwy.
- Tir sy’n gorwedd y tu allan ond yn agos at ardal ddatblygu’r dref / pentref. Mae’r perchennog tir yn ei gyflwyno i ymddiriedolaeth tir cymunedol fel rhodd elusengar. Fel rheol bydd caniatâd cynllunio’n cael ei ganiatáu, ond i dai fforddiadwy yn unig.
- Tir sy’n gorwedd y tu allan ond yn agos i ardal ddatblygu’r dref / pentref. Mae’r perchennog tir yn ei werthu i ddatblygwr. Mae’r gost yn is o lawer na phris y farchnad ac o ganlyniad yn galluogi datblygu tai fforddiadwy, ond mae cost y tir yn fwy na gwerth tir amaethyddol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gosod uchafswm prisiau i dai ‘fforddiadwy’ gyda Chanllawiau Costau Derbyniol (gweler Tai Fforddiadwy (IDCG) ar wefan Cyngor Sir Powys).
Ym mhob un o’r sefyllfaoedd uchod mae’r cytundeb rhwng y datblygwr a’r awdurdod cynllunio wedi’i ymgorffori yng Nghytundeb Adran 106. Mae hyn yn caniatáu eithriadau i’r cyfyngiadau cynllunio cyffredin pan fo yno fantais i’r gymuned leol.
D.S. Mae ffactorau eraill sydd angen mynd i'r afael â hwy er mwyn cydymffurfio â rheolau cynllunio, e.e. ecoleg y safle, mynedfa addas o ran ffyrdd/priffyrdd ayb. Hefyd byddai’n rhaid profi bod yna alw am dai fforddiadwy. Am fwy o wybodaeth ewch i’r Canllawiau Datblygu Cynlluniau Tai Fforddiadwy ar y wefan hon.
Y mae’n gyffredin i gymdeithas dai i fod yn rhan o ddatblygiadau tai fforddiadwy – mae ganddynt yr arbenigedd perthnasol.
Pwyntiau i’w nodi:
- Nid yw’n angenrheidiol i berchnogion tir werthu rhydd-ddaliad y tir. Er mai dyma’r dull cyffredin i ymddiriedolaethau tir cymunedol ei ddilyn mae dulliau eraill o berchnogi tir y gellir eu harchwilio e.e. gall perchnogion tir brydlesu’r tir gan ddal y rhydd-ddaliad neu fe allant gadw perchnogaeth lawn y tir a datblygu’r tai eu hunain.
- Mae’n gymhelliad i gyflogwyr ryddhau tir er mwyn ei ddatblygu’n gartrefi i weithwyr.
- Pe byddai cangen leol o unrhyw fusnes yn cau mae’n bosib y byddai’r cwmni’n dymuno cyflwyno tir y safle i’r gymuned ar gyfer darpariaeth tai fforddiadwy er mwyn lleddfu effeithiau economaidd y colli swyddi.
- Gall atebion ariannol newydd sydd yn golygu cydweithio rhwng datblygwyr a’r gymuned leol fod yn fanteisiol i’r ddau. Mae rhannu perchnogaeth, yn arbennig, yn profi i fod yn fodelau datblygu llwyddiannus.
- Mae rhai perchnogion tir yn cyflwyno’r tir i’r gymuned leol i’w ddefnyddio ar gyfer tai fforddiadwy am resymau hollol anhunanol.
- Mae’n bosib i berchnogion tir gydweithio gyda chymdeithasau tai a fyddai’n gallu gweithredu fel datblygwyr i brosiectau tai fforddiadwy. Gallai’r gymdeithas brynu neu brydlesu’r tir, rheoli gosod y tai a chyflwyno arbenigedd proffesiynol. Mae’n bosib y gallai cymdeithas dai sicrhau 58% o gostau datblygu cyfalaf gan y Grant Tai Cymdeithasol.
- Os ydych yn berchennog tir lleol ac yn ystyried rhyddhau tir ar gyfer codi tai fforddiadwy yna cysylltwch â Cyril Breeze Evans yng Nghymunedau’n Gyntaf Bro Ddyfi os gwelwch yn dda (e-bost cyril@powys.gov.uk)
Mwy o wybodaeth:
Mae Busnes yn y Gymuned wedi cyhoeddi pedwar canllaw er gwybodaeth fel rhan o Fenter Tai Gwledig Fforddiadwy. Maent i’w cael ar http://www.bitc.org.uk/take_action/in_the_community/rural_action/affordable_rural.html
- Datblygu tai gwledig fforddiadwy newydd.
- Defnyddio tir gwag ar gyfer tai gwledig fforddiadwy.
- Tai Gwledig Fforddiadwy: Cyfleoedd i ffermwyr a pherchnogion tir.
- Tai Gwledig Fforddiadwy: Cyfleoedd i fusnes.
Mae Menter Tai Gwledig Fforddiadwy a lansiwyd ym Mehefin 2003 gan Dywysog Cymru, yn annog y sector breifat, sydd yn cynnwys perchnogion tir, perchnogion eiddo, adeiladwyr, datblygwyr a benthycwyr, i gynorthwyo yn narpariaeth cartrefi fforddiadwy mewn cymunedau gwledig.