Cyflwyniad
Mae'r ddogfen hon yn rhoi adolygiad byr o'r Seminar Hunan-Adeiladu a gynhaliwyd Ddydd Sul, Mawrth 19eg 2006 yng mewn ardaloedd gwledig megis Bro Ddyfi yn fater o bwys i nifer o bobl, ac yn cael ei amlygu gan sefydliadau megis Partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi, Fforwm Cymunedol Machynlleth a'r Cylch ac yn Strategaeth Gymunedol Powys.
Gyda phrisiau tai yn dal i godi'n gyson (yn anffodus mae Powys yn chweched yn y 10 sir uchaf lle mae prisiau tai wedi codi gyflymaf rhwng 1996 a 2006, gyda chymaint â 222% o gynnydd ym mhris ty arferol i £172.199), mae methu ail-gyflenwi'r stoc o dai fforddiadwy a gollwyd trwy'r hawl i brynu a'r problemau'n gysylltiedig ag ail gartrefi, yn golygu'i bod yn bwysig ystyried pob opsiwn wrth ddarparu tai fforddiadwy.
Cafodd y digwyddiad ei gomisiynu gan Cymunedau'n Gyntaf, o ganlyniad i gyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ac arolygon anghenion tai a gynhaliwyd ym Mro Ddyfi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a oedd yn awgrymu y gallai fod yna gryn ddiddordeb mewn ffurfio grwpiau hunan-adeiladu yn ardal Bro Ddyfi fel ffordd o adeiladu tai fforddiadwy.
Y Seminar
Bu'r pum siaradwr, a oedd yn trafod gwahanol agweddau o hunan-adeiladu, yn ateb cwestiynau ac yn helpu trwy gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion penodol yn ystod y toriad i ginio a'r cyfnod a neilltuwyd ar gyfer syrjeri' yn ystod y prynhawn. Trefnwyd stondinau arddangos a gwybodaeth ar y llwyfan i'r rhai oedd yn bresennol cyn ac ar ôl y cyflwyniadau. Mynychwyd y seminar gan 24 o bobl o wahanol rannau o Fro Ddyfi a thu hwnt, ynghyd ag aelodau etholedig o Gyngor Tref Machynlleth a Chyngor Sir Powys.
Agorwyd y cyfarfod gan y Cynghorydd Gwilym Fychan ac estynnodd groeso i bawb i Fachynlleth. Yn ei gyflwyniad pwysleisiodd yr angen am archwilio pob dull posibl, a bod yn fodlon mentro yn yr ymdrech i ddarparu tai fforddiadwy er budd bywyd cymdeithasol ac economaidd yr ardal. Roedd yn gobeithio gweld mwy o drafodaethau'n datblygu o ganlyniad i'r diwrnod hwn, ac y byddai camau'n cael eu cymryd i adeiladu mwy o dai fforddiadwy i bobl leol. Roedd yn dymuno pob llwyddiant i'r seminar gyda'i waith.
Y Cyflwyniadau
Cafwyd tri chyflwyniad yn ystod sesiwn y bore, a'r siaradwyr yn eu tro'n amlinellu'r hyn roedd eu sefydliadau hwy'n ei wneud, ac yn amlinellu'r gefnogaeth y gallant ei gynnig i bobl a grwpiau a fyddai'n awyddus i fentro ar brosiectau hunan-adeiladu.
1. John Gillespie, Cydlynydd Datblygiad yn y De, Asiantaeth Hunan-Adeiladu Cymunedol
Gwaith yr Asiantaeth a phrosiectau hunan-adeiladu cymunedol
Amlinellodd John amcanion yr Asiantaeth, sef creu mwy o gyfleoedd i bobl i gael y wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i adeiladu'u tai eu hunain. Mae'n canolbwyntio'n arbennig ar gynnig cymorth i bobl sydd angen tai, y di-waith, pobl ifainc a'r rhai ar gyflogau isel. Mae dros 90 o grwpiau wedi gorffen adeiladu'u tai eu hunain ers pan sefydlwyd yr Asiantaeth ym 1989.
Mae'r Asiantaeth yn ymdrechu i:
Hyd yma, does dim ffynhonnell gyllido gyffredinol ar gael fel y gall prosiectau hunan-adeiladu gyflwyno ceisiadau am arian iddi . Ymhob achos, mae'r Asiantaeth a'r grwpiau mae'n cydweithio â nhw, yn Llundain a De Ddwyrain Lloegr yn bennaf ar hyn o bryd, yn gorfod cyd-drafod â'r Gorfforaeth Dai, yr awdurdodau lleol perthnasol a chymdeithasau tai i sicrhau'r grantiau datblygu a'r Grant Tai Cymdeithasol cyn dechrau ar unrhyw brosiect. (Mae hyn yn awgrymu fod yn rhaid cyflawni proses debyg gyda Llywodraeth y Cynulliad, Cyngor Sir Powys a'r gymdeithas dai berthnasol er mwyn cefnogi ac ariannu unrhyw brosiectau hunan-adeiladu yma.)
Pwysleisiodd John fod profiad yn dangos mai'r cynlluniau hunan-adeiladu cymunedol llwyddiannus yw'r rhai hynny sy'n medru dangos:
Y 'llinell amser' ar gyfer y cyfnod cyn-adeiladu fyddai: ffurfio partneriaeth, dynodi tir, cynnig am arian cyfalaf a chostau refeniw, cyllid, ymgymryd â chodi arian ychwanegol, recriwtio hunan-adeiladwyr, ffurfio grwp sefydlog, llunio cytundebau gweithio, dechrau hyfforddi. Mae'r mwyafrif o'r prosiectau y bu'r Asiantaeth yn eu helpu yn golygu gweithio mewn cydweithrediad agos gyda chymdeithas dai a'u chontractwyr. Disgrifiodd John y ffyrdd y gall hunan-adeiladwyr ac adeiladwyr proffesiynol weithio ochr yn ochr a gyda'i gilydd ar ddilyniannau'r tri cham cyntaf fel y mae'r adeiladu'n mynd rhagddo.
Dywedodd John ei bod yn bosib llwyddo gyda'r broses gymhleth o ddechrau, cynnal a chwblhau prosiect hunan-adeiladu cymunedol trwy gadw at bedair egwyddor, sef, ymrwymiad, cyfathrebiad, hyder a chyfaddawd, - yn wir mae wedi gweithio sawl gwaith. Gorffennodd trwy ddweud fod y manteision a ddaw yn sgil hunan-adeiladu cymunedol yn llawer mwy na'r unedau o dai fforddiadwy a godir. Mae hefyd yn ymwneud â'r grym a'r hyder a roir i'r rhai dan hyfforddiant, yn ogystal â throsglwyddo sgiliau cyflogadwy. Mae hefyd yn ymwneud ag adeiladu cymuned gynaliadwy, adnabod eich cymdogion a chael cysylltiad cadarn â hwy.
2. John Green, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Technegol, Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru (MWHA)
Swyddogaeth cymdeithas dai mewn prosiect hunan-adeiladu
Disgrifiodd John swyddogaeth a gwaith cymdeithas dai fel darparwr tai cymdeithasol a'r cyfnodau yn natblygiad nodweddiadol tai:
Mae cymdeithasau tai yng Nghymru wedi derbyn sêl bendith y Cynulliad i weithredu lle bynnag mae hynny'n bosibl fel galluogwyr tai yn ogystal â bod yn ddarparwyr tai yn uniongyrchol eu hunain. Awgrymodd John y byddai'i gymdeithas ef yn hapus iawn i drafod cydweithio posibl gydag unrhyw brosiectau hunan-adeiladu oddi mewn i ardal Canolbarth Cymru.
3. Jonathan Brown, Cyfarwyddwr, Tir ar Gyfer Pobl
Ymddiriedolaethau tir Cymunedol (CLTs) a darpariaeth tai fforddiadwy
Cyflwynodd Jonathan olwg cyffredinol ar Dir ar Gyfer Pobl, Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol a'r ffyrdd y mae Tir ar Gyfer Pobl yn gallu bod o gymorth i grwpiau lleol. Derbyniodd Tir ar Gyfer Pobl arian gan Gyngor Sir Powys, Y Cynulliad Cenedlaethol ac Ymddiriedolaeth Carnegie i'w galluogi i weithredu tri chynllun peilot yng Nghanolbarth Cymru, sef prosiectau tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned leol.
Gall Tir ar Gyfer Pobl helpu grwpiau hunan-adeiladu cymunedol trwy:
Cinio
Roedd amrywiaeth o frechdanau cartref, rholiau sosej, pizzas a dips, te a choffi wedi'u paratoi gan Mrs Betty Fleming a'i chynorthwywyr - diolch o galon iddynt am eu gwasanaeth rhagorol.
Ar ôl cinio cafwyd cyflwyniadau gan siaradwyr o'r Ganolfan Dechnoleg Amgen a Chyngor Sir Powys. Yn dilyn hynny cafwyd sesiwn 'syrjeri' lle'r oedd y cyfranogwyr yn gallu eistedd i lawr gyda'r siaradwyr i drafod gwahanol faterion yn fanylach. Buont yn trafod materion cynllunio, swyddogaeth cymdeithasau tai, ymddiriedolaethau tir cymunedol, cynllunio ac adeiladu cynaliadwy a hunan-adeiladu cymunedol.
4. David Thomlinson, Swyddog Tai Fforddiadwy Cyngor Sir Powys
Tai fforddiadwy hunan-Adeiladu - cyd-destun cynllunio Cyngor Sir Powys
Dywedodd David fod Cynllun Datblygu Unedol Cyngor Sir Powys (yr UDP a fabwysiadwyd ers Mawrth 1af 2006) yn cynnwys nifer o ddatganiadau polisi a chyfeiriadau sydd i gyd yn gefnogol i'r dull hunan-adeiladu a chynllunio ac adeiladu cynaliadwy. Cyfeiriodd at y rhain mewn cyflwyniad Power Point, - gweler yr atodiad. Soniodd hefyd yn ei gyflwyniad am:
Le i dyfu - Mae lle i gynllun neu gynlluniau hunan-adeiladu cymunedol yn ardal Bro Ddyfi. Mae gofyniad tai'r Cynllun Datblygu Unedol ar gyfer Machynlleth yn 121 o unedau yn ystod y cyfnod o 2001 i 2006, ac ar safleoedd o bum uned o dai neu fwy mae'r Cyngor yn disgwyl i 30% i 50% o'r holl dai a godir fod yn rhai fforddiadwy.
Gynllunio ac adeiladu cynaliadwy - Mae'r cyngor yn cymryd agwedd bositif tuag at y defnydd o ddeunyddiau isel eu heffaith, effeithlonrwydd ynni, arbed dwr, lleihad mewn gwastraff ac ail-gylchu
Arweiniad cynllunio ychwanegol - Mae darllen y ddogfen hon yn hanfodol i unrhyw grwp hunan-adeiladu gan ei bod yn egluro'r hyn a olygir wrth 'fforddiadwy', y gymysgedd o ddaliadaethau a'r maint datblygiad a ganiateir, y math o berchnogaeth tir yr edrychir amdano ynghyd â llawer o bethau eraill
I gloi, dywedodd David ei bod yn bosibl i'r fframwaith cynllunio roi caniatâd cynllunio i brosiectau hunan-adeiladu cymunedol yn ogystal â phrosiect hunan-adeiladu fforddiadwy unigol. Fodd bynnag, roedd yn argymell y dylai prosiectau posibl siarad gyda'r cynllunwyr ar y dechrau'n deg, gan eu bod yno i helpu.
>> Testun oddi ar sleidiau cyflwyniad 'PowerPoint'
5. Trish Andrews, Pensaer - Y Ganolfan Dechnoleg Amgen
Cynllun ac adeiladwaith cynaliadwy
Diweddglo a beth nesaf
Cloiodd Jonathan Brown trwy ddiolch i'r siaradwyr i gyd, yr arlwywyr, Gail a Shan am drefnu'r diwrnod a phawb am ddod. Gofynnodd iddynt lenwi'r Ffurflen Werthuso a'r Holiadur Beth Nesaf cyn gadael.
Gwerthusiad o'r seminar
|
Gwael Iawn |
Gweddol |
Da |
Rhagorol |
Cyfanswm |
|
|
Eich argraff gyffredinol o'r diwrnod |
6 |
10 |
3 |
19 |
|
|
Perthnasedd i'ch anghenion |
1 |
12 |
5 |
1 |
19 |
|
Pecyn gwybodaeth a'r deunydd |
4 |
10 |
5 |
19 |
|
|
Y lleoliad a'r arlwyo |
8 |
9 |
1 |
18 |
|
|
Perfformiad y siaradwr |
6 |
11 |
2 |
19 |
Yn gyffredinol roedd y sylwadau'n gadarnhaol iawn. Roedd yn ymddangos fod y wybodaeth a gafwyd gan y siaradwyr ac o becynnau a ddarparwyd wedi ateb cwestiynau'r mwyafrif o bobl.
Mae awgrymiadau am seminarau pellach fel a ganlyn:
Beth Nesaf?
Mae'r camau y bydd pobl yn eu cymryd, neu'r hyn roeddent yn awgrymu dylai ddigwydd yn cynnwys:
Gail Goodall a Jonathan Brown
25/03/06
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys