Yn dilyn Asesiad Anghenion Cludiant a wnaethom, rydym yn llawn werthfawrogi’r angen i gynnig dewisiadau deniadol i feicwyr a cherddwyr a fyddai’n helpu i ddod a chymunedau ynghyd. Dylem gael system gludiant hyblyg ac integredig, yn cael ei chefnogi gan bobl leol, yn cynnwys atebion cludiant cymunedol. Dylai’r rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd fodloni anghenion lleol a dylai band eang fod ar gael i bawb.
Mae Ecodyfi wedi cynhyrchu Taflen Teithio Dyfi, sydd wedi eu cefnogi gan TraCC, Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r daflen hon yn crynhoi amserlenni bysiau a threnau a gyhoeddwyd gan y cwmnïau a’r cynghorau.
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys