Rydych yma : Hafan > Oldford Hafan > Amdanom ni > Dod yn rhan

Dod yn rhan o'r Bartneriaeth

Mae nifer o ffyrdd y gallwch fod yn rhan o brosiect Cymunedau yn Gyntaf Oldford.

Gwirfoddoli – Gallwch wirfoddoli mewn unrhyw un o’n digwyddiadau cyffrous. Gallwch roi cynnig ar bethau amrywiol megis: paratoi lluniaeth, rhedeg stondin, dosbarthu taflenni, gwaith papur, hel sbwriel, a llawer mwy.

Dod yn Aelod o’r Bartneriaeth - Trwy fod yn aelod o’r Bartneriaeth, cewch gyfle i glywed am yr hyn sy’n digwydd fel rhan o’r prosiect, a gallwch hefyd helpu sicrhau fod pethau’n digwydd. Er mwyn ymaelodi, bydd angen i le gwag fod ar y Bartneriaeth.

Mynychu cyfarfodydd - Dyma ffordd wych o glywed y diweddaraf ynghylch gwaith y Bartneriaeth. Gall unrhyw ddod i’r cyfarfodydd, ac ymysg rhai o’r aelodau nad ydynt yn rhan o’r Bartneriaeth mae: Cyngor Sir Powys, Genesis, Canolfan Cyngor ar Bopeth, Cytûn nifer o rai eraill.

 

Fel y gwelwch, gallwch fod yn rhan drwy nifer o ffyrdd. Os ydych yn credu y gallwch gynnig rhywbeth, neu os hoffech gael mwy o wybodaeth am yr uchod, cysylltwch â ni.