Beth yw’r prosiect Banc Amser Activ8?
Llwyddodd Cymunedau yn Gyntaf Oldford i dderbyn arian gan Powys Zero Waste i redeg cynllun peilot Banc Amser am flwyddyn. Os bydd y flwyddyn gyntaf yn llwyddiant, bydd y cynllun yn cael ei agor i’r gymuned gyfan. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r asiantaethau canlynol i gyflwyno’r prosiect hwn: Canolfan Ieuenctid Y Trallwng, Cyngor Sir Powys, Undeb Credyd Robert Owen, Biwro Gwirfoddolwyr Gogledd Maldwyn a Phartneriaeth Adfywio Powys. Anelir y prosiect peilot hwn at bobl ifanc 11 oed a drosodd.
Ased mwyaf gwerthfawr unrhyw gymuned yw ei phobl - maent oll â’r potensial i wneud cyfraniad positif i’w cymuned. Dylid cydnabod a gwerthfawrogi’r amser a’r egni y mae pobl yn cyfrannu i adeiladu ac atgyfnerthu eu cymunedau
Drwy ymuno ag Activ8, byddant yn ddinasyddion gweithgar yn eu cymunedau eu hunain, ac yn defnyddio sgiliau sydd ganddynt eisoes, yn datblygu rhai newydd, ac yn cael profiadau newydd drwy ymweliadau, gweithgareddau a phrosiectau.
Mae pob awr o wirfoddoli yn ennill un credyd i chi!
Gall aelodau gadw eu credydau a’u gwario ar unrhyw weithgareddau ac ymweliadau sydd ar gael ar y pryd. Gall hyn cynnwys ymweliadau i barciau thema, gwersi gyrru, digwyddiadau cerddorol, gweithgareddau lleol a llawer mwy!
Ymaelodi
Mae ymaelodi’n hawdd iawn. Mae angen i’r bobl ifanc gasglu pecyn cofrestru gennym ni – os maent o dan 18 oed, bydd angen i riant neu warcheidwad hefyd lofnodi’r ffurflen. Dylid dychwelyd y ffurflen atom yn swyddfa Cymunedau yn Gyntaf Oldford, a byddwn yn rhoi cerdyn cofnodi credydau personol er mwyn cadw cofnod o’r credydau maent wedi eu casglu, a’r rhai a ddefnyddiwyd.
Ar ôl ymaelodi, byddwn yn cadw mewn cysylltiad gyda’r holl gyfleoedd newydd a chyffrous fydd yn eu helpu i ennill credydau. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod iddyn nhw sut i wario eu credydau ar ymweliadau, gweithgareddau a mwy!
Cychwyn prosiect Activ8
Er mwyn rhoi cic naid i’r prosiect cyffrous hwn, bydd ystod o weithdai a chyfleodd hyfforddi ar gael i aelodau ddechrau ennill credydau.
· Dylunio Ffasiwn
· Gwneud Gemwaith
· Ailgylchu
· Hyfforddiant Ffotograffiaeth a ffilm
· Gwnïo
· Gwaith Coed
Bydd yr hyfforddiant yma’n helpu aelodau i weithio tuag at sioe ffasiwn fendigedig i hyrwyddo ailgylchu hen eitemau! Bydd hyn yn cynnwys dylunio a chynhyrchiad llwyfan. Dyma rai o’r sgiliau fydd yr aelodau’n gallu dysgu;
· Gwaith tîm
· Sgiliau technegol
· Rheoli amser
· Sgiliau dylunio
· Sgiliau trefnu
· A llawer mwy…
Byddan nhw hefyd yn cynllunio ac yn trefnu digwyddiad ‘Dod a Chymryd’ i hyrwyddo ailgylchu!
Gorffennaf
Maw 20fed Gweithdy Camera Digidol 12-4p.m
Mer 21ain Gweithdy Camera Digidol 12-4p.m
Iau 22ain Gweithdy Camera Digidol 12-4p.m
Medi
Maw 14eg Dylunio Ffasiwn 7-9p.m
Maw 21ain Dylunio Ffasiwn 7-9p.m
Maw 28ain Dylunio Ffasiwn 7-9p.m
Hydref
Maw 5ed Cae Post - Ailgylchu 7-9p.m
Mer 6ed Dylunio Ffasiwn 7-9p.m
Maw 12fed Gwnïo/Ailgylchu 7-9p.m
Maw 19eg Gwnïo 7-9p.m
Mer 27ain Gwneud Gemwaith 12-4p.m
Tachwedd
Maw 2ail Gwnïo 7-9p.m
Maw 9fed Gwneud Gemwaith 7-9p.m
Maw 16eg Gwnïo 7-9p.m
Maw 23ain Gweithdy Camera Digidol 7-9p.m
Cysylltwch â ni!
Am fwy o wybodaeth ar brosiect Banc Amser Activ8, croeso i chi gysylltu â Julie yn swyddfa Cymunedau yn Gyntaf Oldford ar
01938 556648 neu
Matt yng Nghanolfan Ieuenctid Y Trallwng ar 07884312052
Dylid postio unrhyw ffurflenni atom yn:
Cymunedau yn Gyntaf Oldford
Ysgol Babanod Oldford,
Lôn Oldford,
Y Trallwng,
Powys, SY21 7TE
Ebost - ocf@powys.gov.uk
Ewch at - www.commfirstpowys.org.uk
www.powysyob.com
Tecst - 01938556648
Ewch i’n tudalen Facebook ar Grŵp Cymunedau yn Gyntaf Oldford
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys