Chwaraeon a Ffitrwydd
Gweithgareddau a Chlybiau Chwaraeon
Mae ymuno â gweithgaredd neu glwb chwaraeon yn arwain at nifer o fuddion.
· Mae’n ffordd wych i gwrdd â phobl newydd ac i wneud ffrindiau
· Mae’n cadw eich corff yn weithgar, a gall eich helpu i gadw’n ffit ac yn iach
· Mae ymarfer rheolaidd yn gallu gwella’ch gallu i ganolbwyntio a chadw’ch ymennydd yn weithgar
· Gall lleihau straen, ac mae wedi helpu rhai pobl sy’n dioddef o salwch meddwl megis iselder
Mae’r ystod o weithgareddau sydd ar gael yn anhygoel – dyma rai syniadau:
· Nofio
· Cerdded
· Rhedeg
· Pêl droed
· Pêl rwyd
· Hoci
· Jiwdo
· Karate
· Golff
· Mini golff
· Aerobeg mewn pwll nofio
· Bocsio
· Sbinio
· Crwydro
· Beicio
· Canŵio
· Bolddawnsio
· Dawnsio salsa
· A llawer mwy….
Mae’r rhan fwyaf o’r gweithgareddau hyn yn darparu ar gyfer galluoedd gwahanol, felly peidiwch â phoeni os ydych yn dechrau o’r dechrau neu os ydych wedi dioddef o iechyd gwael yn y gorffennol. Bydd rhywbeth at ddant pawb ar gael.
Pryderon iechyd
Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’ch cyfyngiadau chi’ch hunan wrth geisio unrhyw weithgaredd. Yn y rhan fwyaf o ganolfannau a chlybiau chwaraeon bydd angen i aelodau newydd lenwi ffurflen sy’n rhoi gwybodaeth ynghylch unrhyw gyflyrau meddygol a’u gallu. Dylech fod mor onest ag y gallwch wrth wneud hyn, gall gweithgaredd egnïol waethygu unrhyw gyflwr sydd gennych.
Dyma restr o wefannau defnyddiol lle gellir dod o hyd i weithgareddau a chlybiau:
Canolfan Hamdden y Fflach Ffôn: 01938 555952
The Armoury Ffôn: 01938 553143
Cyngor Tref y Trallwng Ffôn: 01938 553142
Cyfeirlyfr Gweithgareddau Y Trallwng
Clwb Criced a Rygbi Ffôn: 01938 553274
Clwb Bowlio Y Trallwng: Ffôn: 01938 553027
Clwb Golff Y Trallwng: Ffôn: 01938 850249
Brooks Cycles Ffôn: 01938 553582
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys