5th Jan 2012
Ionawr 5, 2012
Mae 124 anhygoel pobl yn dod i ymweld â ni yn y Groto Nadolig Hudolus digwyddiad ar ddydd Gwener 16 Rhagfyr am Ysgol Babanod Oldford. Cyrhaeddodd Siôn Corn ar injan dân a rhoi anrhegion i'r holl blant sy'n ymweld ag ef yn ei groto!
Roedd y gweithdai yn mwynhau gan y teulu i gyd, oedolion a phlant cael eu dwylo budr wneud peli siocled, hufen mintys, a bisgedi Nadolig addurno.

Diddanu Athro Humo ni i gyd gyda'i sioe hud a chyflwyno rhai o'i gyfeillion anifail a oedd i gyd yn rhan o'r hud!

Hoffem ddiolch i'r Active Oldford Grŵp cymunedol ac Aaron Fowler Parkes o Ddrws i Deuluoedd ar agor canolfan ar gyfer eu holl gymorth a chefnogaeth yn y digwyddiad hwn a hefyd i bawb a ddaeth i gymryd rhan, rydym yn gobeithio y byddwch yn ei fwynhau cymaint fel y gwnaethom!
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01938 556648
9th Aug 2011
9fed Awst 2011
Cynhaliwyd Ras Hwyl a Digwyddiad Iechyd Oldford ddydd Sadwrn 6ed Awst ym mharc Castell Powis.
Bu tri deg un o bobl yn cymryd rhan yn y rasys 1km a 3km, ac roedd pobl o bob oed a gallu wrthi’n cynhesu cyn cychwyn gyda Mr Hearty, masgot Sefydliad Prydeinig y Galon. Mr Hearty gychwynnodd y ras, ac roedd yno hefyd i groesawu’r rhedwyr ar ôl gorffen!
Yna cafodd pawb a gymerodd ran bicnic am ddim gyda Grŵp Cymuned Weithgar Oldford. Daeth y Gwasanaeth Tân â dau feic ymarfer i bobl cael profi eu ffitrwydd, a bu Cymdeithas Pont Hafren yn hybu eu cynllun bwyd cydweithredol. Ar ôl y picnic, bu Steve Rowlands o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ynghyd â Mr Hearty yn cyflwyno medal a thystysgrif i’r rhedwyr. Aeth pawb â bag o nwyddau adref gyda nhw, a chafwyd adborth positif iawn!
Digon siomedig oeddem fod mwy o bobl heb gymryd rhan, ond rydym yn falch iawn fod y rhai oedd wedi cymryd rhan wedi mwynhau’r diwrnod, a hoffem longyfarch pob un o’r rhedwyr ar eu llwyddiant.
Byddem hefyd yn hoffi diolch i’n holl wirfoddolwyr a’r stondinwyr oedd yno ar y diwrnod yn helpu allan - heb y bobl hyn ni fyddai’r holl beth wedi digwydd! Diolch hefyd i Ystadau Powis a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am adael inni ddefnyddio’u tir ar gyfer y digwyddiad.
Am fwy o wybodaeth, croeso i chi gysylltu â ni ar 01938 556648
3rd Aug 2011
17th Jun 2011
9th May 2011
15th Apr 2011
15th Apr 2011
15th Apr 2011
11th Nov 2010
11th Nov 2010
11th Nov 2010
12th Jul 2010
15th Jun 2010
7th Apr 2010
29th Jan 2010
25th Jan 2010
20th Oct 2009
9th Oct 2009
9th Oct 2009
15th Jun 2009
15th Jun 2009
8th Jun 2009
1st Jun 2009
11th May 2009
26th Mar 2009
11th Feb 2009
28th Nov 2008
15th Sep 2008
4th Aug 2008
18th Jul 2008
18th Jul 2008
9th Jun 2008
12th May 2008
18th Mar 2008
18th Mar 2008
18th Mar 2008
7th Jan 2008
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys