18th Jul 2008

Lansiwyd Cystadleuaeth Oldford yn ei Flodau ar 23ain Mehefin mewn digwyddiad a gydlynwyd gan Cymunedau yn Gyntaf Oldford. Bwriad y gystadleuaeth yw annog trigolion Oldford i wneud i'w cymuned edrych yn fwy lliwgar.
Y categoriau oedd: y Pot Gorau, y Fasged Grog neu'r Blwch Ffenestr gorau a'r Ardd orau. Gallai plant rhwng 4 ac 16 oed gystadlu gyda phot neu unrhyw beth a fyddai'n dal planhigion.
Roedd planhigion am ddim ar gael a photiau a chompost ac yr oedd garddwr profiadol lleol wrth law i roi cyngor ac awgrym cynnil neu ddau am ddylunio, diolch i arian a gafwyd gan Gronfa Balchder Powys drwy Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Powys.
Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol gyda dros 100 o bobl o bob oed yn troi allan a chawsom dros 40 o ffurflenni cystadlu yn ôl.
Bydd y feirniadaeth derfynol yn digwydd ar 1af Awst gyda Phrif Arddwr Cynorthwyol Castell Powis yn beirniadu.
Crewyd cymaint o botiau gwych yn y lansiad nes bydd y beirniad yn cael amser caled iawn wrth geisio dewis y gorau, felly pob lwc i bawb fydd yn cymryd rhan.

15th Sep 2008
4th Aug 2008
18th Jul 2008
18th Jul 2008
9th Jun 2008
12th May 2008
18th Mar 2008
18th Mar 2008
18th Mar 2008
7th Jan 2008
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys