Rydych yma : Hafan > Oldford Hafan > Newyddion > Diwrnod Clirio Oldford, 12fed Gorffennaf

Diwrnod Clirio Oldford, 12fed Gorffennaf

18th Jul 2008

Roedd Diwrnod Clirio mwyaf diweddar Oldford yn llwyddiant ysgubol unwaith eto gyda thua 4 tunnell o sbwriel yn cael ei waredu!

july_12th_08_002_200       july_12th_08_013_200_01

Rhoddwyd y sgip ar faes parcio Rhodfa Tywysog Cymru ar 12fed Gorffennaf a dechreuodd yr hwyl am 11 am.

 

Roedd Cynllun Phoenix Furniture  yno i roi help llaw ac oeddynt yn wych ar y diwrnod, yn cario eitemau o dy i dy ac i gyfleusterau ailgylchu Potters. Cafodd llawer o eitemau eu hachub ganddynt hefyd i'w pasio ymlaen i'w cleientiaid.

july_12th_08_018_200    july_12th_08_010_200

Mae staff Cymunedau yn Gyntaf Oldford eisiau dweud "Diolch yn fawr iawn" i bawb a wirfoddolodd ar y diwrnod, yn cynnwys y plant a wnaeth waith rhagorol yn casglu sbwriel o amgylch y stad.

july_12th_08_028_200      july_12th_08_008_200

Bydd Diwrnod Clirio nesaf Oldford ar 13eg Medi. Cadwch eich llygad yn agored am fanylion pellach!

Back to Main News Page