11th May 2009
Pleser yw estyn croeso i Julie Hughes, ein Gweithiwr Datblygu newydd ar dîm Cymunedau yn Gyntaf Oldford. Cychwynnodd Julie ar ei swydd ar 27ain Ebrill, ac mae hi wedi dechrau ymsefydlu’n dda iawn; bydd yn gweithio allan o swyddfa Cymunedau yn Gyntaf Oldford yn Ysgol babanod Oldford, ond ei nod yw treulio amser yn y gymuned yn gweithio ar brosiectau sydd eisoes mewn bodolaeth ac ar brosiectau newydd.
Gair gan Julie i gyflwyno ei hunan:

Helo, Julie Hughes yw fy enw i, a ’dwi newydd gael f’apwyntio i Swydd Gweithiwr Datblygu Cymunedol Cymunedau yn Gyntaf Oldford. Fy rôl fydd helpu Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Oldford i gyflawni’r Cynllun Gweithredol ar gyfer 2008 - 2011. Dros y chwe blynedd diwethaf, rwyf wedi gweithio fel Swyddog Datblygu Cymunedol mewn dwy o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf Wrecsam. Yn ystod y cyfnod yma, ’dwi wedi llwyddo i ddatblygu dealltwriaeth o gymunedau a’u ffordd o weithio. Trwy ennyn eich diddordeb chi, trigolion Oldford, asiantaethau sy’n bartneriaid inni a darparwyr gwasanaethau lleol, fy ngobaith yw helpu chi i gyrraedd eich nodau ac amcanion, gan mai’ch cymuned chi yw Oldford! Felly, croeso i chi ffonio fi neu alw i’m gweld i neu aelod arall o’r tîm yn y swyddfa, i gynnig syniadau ar sut y gallwn helpu chi i wella’ch cymuned. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi.
5th Jan 2012
9th Aug 2011
3rd Aug 2011
17th Jun 2011
9th May 2011
15th Apr 2011
15th Apr 2011
15th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys