15th Jun 2009
Roedd yr haul yn tywynnu ddydd Sadwrn 13eg Mehefin
ar gyfer diwrnod o Hwyl Tenantiaid Oldford a Chae Chwarae Scansis. Cynhaliwyd y digwyddiad ar Gae Scansis, sy'n addas i bob tywydd, ar Ystâd Oldford. Cymdeithas Tenantiaid Oldford (OTA) oedd yn gyfrifol am ei gynnal - roeddynt am uno twrnamaint pêl-droed 5 bob ochr sy'n cael ei gynnal yn flynyddol gyda llawer o weithgareddau hwyl eraill.
Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol gyda phobl o bob oed yn bresennol!
Noddwyd y cystadlaethau pêl-droed a phêl-rwyd gan Gyngor Tref Y Trallwng, oedd yn gyfrifol am ddarparu dyfarnwyr a medalau. Roedd OTA wedi paratoi barbeciw bendigedig, cystadleuaeth dal hwyaden a thombola. Roedd Cymunedau yn Gyntaf Oldford yno i gefnogi'r digwyddiad ac i drefnu prosiect i greu llwybr creadigol, gweithdy Graffiti a chastell gwynt oedd yn boblogaidd dros ben!
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Liz Gannon ar 555269 neu cysylltwch â ni.
5th Jan 2012
9th Aug 2011
3rd Aug 2011
17th Jun 2011
9th May 2011
15th Apr 2011
15th Apr 2011
15th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys