Rydych yma : Hafan > Oldford Hafan > Newyddion > Diwrnod Tacluso cyntaf Oldford yn 2009

Diwrnod Tacluso cyntaf Oldford yn 2009

8th Jun 2009

Dydd Sadwrn 6ed Mehefin ar faes parcio Prince of Wales Drive oedd lleoliad Diwrnod Tacluso cyntaf Oldford yn ystod 2009. 

 

Daeth dros 25 o wirfoddolwyr at ei gilydd, ac er gwaetha'r glaw, roedd y sgip yn llawn erbyn 1 o'r gloch. Roedd rhai wynebau newydd yn bresennol, a phleser oedd gweld trigolion yn helpu ei gilydd i symud eitemau at y sgip. Wrth gwrs, roedd y plant a'r bobl ifanc wedi cael hwyl, fel arfer, ac roedden nhw yno tan y diwedd.

 

Hoffem ddiolch i bawb am gynorthwyo ar y diwrnod i sicrhau fod Oldford yn aros yn lân ac yn daclus! Diolch hefyd i Delyth Richards o Brosiect Trefi Taclus, Cynllun Dodrefn Phoenix a Chyngor Sir Powys.

 

Os oes gennych unrhyw eitemau nad oes ei heisiau bellach, sydd mewn cyflwr rhesymol, ffoniwch Gynllun Dodrefn Phoenix ar 01686 623336. Byddant yn trefnu dod i gasglu'r eitemau, a'u hailgylchu er budd rhywun arall.

 

Os oes gennych chi a'ch cymdogion unrhyw eitemau mawr o'ch cartrefi sydd angen eu casglu, beth am rannu'r ffi casglu o £20.00 am hyd at chwe eitem rhyngddoch chi - cysylltwch â Chyngor Sir Powys ar 0845 6027035 i drefnu eu casglu!

 

Back to Main News Page