9th Oct 2009
Diwrnod Agored Action Camp 2009!
Dyddiad: 27ain Awst
Amser: 2pm – 7pm
Gyda chefnogaeth Cymunedau yn Gyntaf Oldford, Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, Cyngor Sir Powys a Gwasanaeth Ieuenctid Y Trallwng, aeth grŵp o bobl ifanc o’r Trallwng ar wersyll Action Camp am dridiau yn Kiln Park, Dinbych y Pysgod. Trwy weithgareddau amrywiol, cafwyd cyfle i ddysgu am filltiroedd bwyd, Masnach deg a sut i ofalu am yr amgylchedd yn well.
Rydym hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan bartneriaid trwy wirfoddoli eu hamser ar gyfer y prosiect – yn eu mysg: Eglwys Bedyddwyr Y Trallwng a Phrosiect Ieuenctid Signpost.


Roedd y Diwrnod Agored yn llwyddiant ysgubol gyda dros gant o ymwelwyr yn bresennol. Y bobl ifanc oedd yn arwain y gweithgareddau amrywiol, gan gynnwys y lluniaeth am ddim. Cafodd ymwelwyr gyfle i fwynhau teithiau dan arweiniad, chwilota yn y pwll, paentio wynebau, gwaith coed, helfa drysor a gweithgareddau eraill.


Roedd hwn yn ddiweddglo arbennig i brosiect positif dros ben. Ar 9fed Medi, cynhaliwyd Noson Wobrywo yng Ngwarchodfa Natur Pwll Fferm Hafren, i ddathlu llwyddiant y prosiect. Daeth dros 60 o ffrindiau ac aelodau’r teuluoedd ynghyd i weld yr holl bobl ifanc oedd wedi cymryd rhan yn y prosiect yn derbyn eu tystysgrifau.


Ar ran pawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â chyllun Action Camp 2009 Pwll fferm Hafren, byddem yn hoffi diolch i deuluoedd a ffrindiau’r bobl ifanc am eu cefnogaeth, a hefyd i’r cyhoedd oedd yn bresennol ar y Diwrnod Agored.
5th Jan 2012
9th Aug 2011
3rd Aug 2011
17th Jun 2011
9th May 2011
15th Apr 2011
15th Apr 2011
15th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys