25th Jan 2010
Cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol blynyddol y Bartneriaeth ddydd Iau 17eg o Ragfyr 2009 yn Neuadd y Dref Y Trallwng.
Daeth ychydig dros 50 o bobl i glywed y cyflwyniadau ar rai o lwyddiannau ac uchafbwyntiau’r Bartneriaeth yn ystod 2009 - yn eu mysg:
· Diwrnod o Hwyl Y Trallwng 2009
· Prosiect ‘Action Camp’ - Pwll Fferm Hafren
· Dyddiau Tacluso Oldford
· Grwpiau cymorth newydd yn y gymuned
· A llawer mwy
Hefyd cafwyd cyflwyniad ar yr hyn sydd ar y gweill yn ystod 2010, megis lansio prosiect bancio amser Activ8, rhaglen ffitrwydd a ffordd iachus o fyw Pulse a Pulse 50+, y Grŵp Cymuned Weithgar, a mwy.
Estynnwyd croeso i aelodau newydd y Bartneriaeth, a phenodwyd swyddogion newydd. Etholwyd Richard Zimbler, aelod cymunedol yn Gadeirydd, Jack Peatroy yn Is-gadeirydd, Hazel Gifford yn Ysgrifenyddes, a Phil Roe yn Drysorydd.
Croesawyd pedwar aelod cymunedol newydd i’r Bartneriaeth yn ogystal â chynrychiolydd newydd ar ran Grŵp Sgowtiaid ‘First Clives Own’.
Yna daeth pawb at ei gilydd i fwynhau te prynhawn ac i gael sgwrs bleserus!
Dymuna’r Bartneriaeth ddiolch i bawb am gynorthwyo i wneud y diwrnod yn llwyddiant, ac i bawb am ddod ar y diwrnod.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth, croeso i chi gysylltu â ni ar 01938 556648
5th Jan 2012
9th Aug 2011
3rd Aug 2011
17th Jun 2011
9th May 2011
15th Apr 2011
15th Apr 2011
15th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys