7th Apr 2010
Digwyddiad Cadw’n Iach a Diogel
Llwyddiant mawr gyda dros 100 o bobl yn ymuno â ni!
Y Gymuned Weithgar oedd yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad hwyl hwn er mwyn hyrwyddo byw mewn ffordd iachus i’r gymuned. Cynhaliwyd y digwyddiad dros ddau ddiwrnod i hyrwyddo dulliau i wella iechyd a lles i deuluoedd ac oedolion.

Roedd gan fudiadau stondinau gwybodaeth ac arddangosfeydd, bagiau o nwyddau am ddim a digonedd o weithgareddau a gweithdai am ddim i bobl o bob oed.

Ddydd Sadwrn, 27ain bu’r plant a’u rhieni yn mwynhau sesiynau gwaith coed, dweud straeon, crefftau’r Pasg, crefftau plastr, gwneud smwddis ac amrediad o therapïau megis tylino’r pen mewn dull Indiaidd, ac Adweithedd.

Ddydd Llun 29ain, bu’r oedolion yn mwynhau printio bagiau, crefftau’r Pasg. Sesiynau trin traed, Cymorth Cyntaf, a therapïau megis paentio ewinedd a Thechneg Bowen.
Jayne Howe oedd wedi paratoi cinio, gan arddangos dulliau coginio iachus ar gyllideb, a choginio i un. Roedd ei chyri llysiau a’r chilli’n flasus iawn yn y tatws pob ar y dydd Sadwrn, a’r cawl llysiau’n boblogaidd iawn ar y dydd Llun. (gweler tudalen 4 Llais Oldford am ryseitiau)
Diolchiadau mawr i aelodau’r Grŵp Cymuned Weithgar am drefnu digwyddiad mor wych, a diolch eto i’r holl wirfoddolwyr am helpu sicrhau ei fod yn digwydd. Cysylltwch â ni ar 01938 556648.
5th Jan 2012
9th Aug 2011
3rd Aug 2011
17th Jun 2011
9th May 2011
15th Apr 2011
15th Apr 2011
15th Apr 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys