Rydych yma : Hafan > Oldford Hafan > Newyddion > Wythnos Addysg Oedolion 2010

Wythnos Addysg Oedolion 2010

12th Jul 2010

Wythnos Addysg Oedolion 2010

12fed Gorff 2010

Cynhaliwyd Wythnos Addysg Oedolion 2010 rhwng 17eg hyd 22ain Mai eleni. Bu mudiadau a darparwyr hyfforddiant yn gweithio mewn Partneriaeth i drefnu digwyddiadau a sesiynau blasu drwy gydol yr wythnos ledled y sir.

Daeth cyfanswm o 908 o bobl i’r digwyddiadau hyn, gyda’r mwyafrif ohonynt rhwng 25 a 64 oed, gyda dim ond 29 o’r rhain yn ddi-waith.

Yn y Trallwng, cynhaliwyd nifer o sesiynau blasu – yn eu mysg: Cymraeg, Straeon Digidol, Gallu Ariannol a Chyllidebu, Dylunio Posteri, Byw’n Iach, Aromatherapi ac eraill.

Ddydd Sadwrn 22ain Mai, buom yn cydweithio gyda phartneriaid i gynnal Gŵyl a Hwyl Dysgu’r Trallwng, yn Ysgol Babanod Oldford. Roedd sesiynau Blasu AM DDIM yn y canlynol: Sylfeini Plymio, Dylunio Posteri, Coginio ar gyllideb, Gwneud Ffelt, Ysgrifennu drwy’r canrifoedd, Trefnu Blodau, Crefft Siwgr, Harddwch Ewinedd a Phaentio Dyfrlliwiau. Roedd creche ar gael yn rhad ac am ddim.

Roedd tua 36 o bobl yn cymryd rhan yn y digwyddiad hwn; gyda chwech yn mynegi diddordeb mewn cyrsiau eto yn y dyfodol, ac mae tri wedi cwblhau cwrs Trefnu Blodau yn ddiweddar, ac wedi llwyddo i gyrraedd achrediad OCN.

Y cyrsiau mwyaf poblogaidd ar draws Powys oedd therapïau amgen, harddwch ewinedd, cymorth cyntaf a gwneud ffelt! Yn ôl yr adborth gan bartneriaid a’r cyhoedd, roedd y digwyddiadau’n gyfle gwych i ddangos pa gyrsiau oedd ar gael yn lleol, a’u bod yn rhoi cyfle i bobl roi cynnig ar rywbeth na fyddent fel arall yn ei wneud. Yr unig adborth negyddol, oedd bod pobl yn teimlo iddo gael ei gynnal ar adeg anghywir y flwyddyn, o ystyried na fyddai cyrsiau efallai’n dechrau tan fis Medi, ac efallai y byddai pobl wedi colli diddordeb wrth aros iddynt gychwyn.

Ar y cyfan, roedd pobl o’r farn ei fod yn ddigwyddiad defnyddiol a phleserus iawn.

Ymysg y partneriaid lleol roedd: Cymunedau yn Gyntaf Oldford, Coleg Powys, CAG Coleg Harlech, Niace Dysgu Cymru, Cyngor ar Bopeth a llawer mwy.

Back to Main News Page