9th May 2011
9fed Mai 2011
Diwrnod Tacluso Oldford
Cynhaliwyd y digwyddiad hwn ddydd Sadwrn 7fed Mai, 11am - 2pm.
Roedd yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn o ystyried mai hwn oedd diwrnod gwlypaf ers misoedd! Ond doedd hyd yn oed y tywydd ddim yn gallu atal pobl rhag dod â’u heitemau nhw a rhai eu cymdogion i’r sgip. Roedd rhyw 30 o wirfoddolwyr yno ar y diwrnod, a chliriwyd cyfanswm o ryw 2 dunnell o eitemau nad oedd eu heisiau bellach.
Diolch o galon i’n ddau wirfoddolwr fu’n gofalu am y lluniaeth, ac am helpu pobl i nôl eitemau.
Bu’r plant yn brysur iawn hefyd yn hel sbwriel, a llenwyd nifer o sachau gyda sbwriel! Roedd rhai wynebau newydd yn bresennol, ac arhosant allan yn y glaw i helpu ffrindiau a chymdogion ddod ag eitemau i’r sgip.

Hoffwn ddiolch i staff Cynllun Dodrefn Phoenix am eu cymorth i ailgylchu nwyddau gwynion a gasglwyd, ac i Gyngor Sir Powys am gael defnyddio’r sgip am y diwrnod, ac i’r gyrrwr aeth â dau lond sgip i Potters ar ein rhan.
Cofiwch os angen arnoch gael gwared â rhywbeth, beth am ofyn i’ch ffrindiau a’ch cymdogion os oes angen arnyn nhw gael gwared ag unrhyw beth a rhannu’r gost o ofyn i’r Cyngor eu casglu. Fel arall, os oes gennych rywbeth sydd mewn cyflwr gweddol, gallwch ffonio Cynllun Dodrefn Phoenix, fydd yn dod i gasglu’r eitemau am ddim a’u hailgylchu.
Cynhelir Diwrnod Tacluso Oldford eto ym mis Medi. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01938 556648.
14th May 2012
5th Jan 2012
9th Aug 2011
3rd Aug 2011
17th Jun 2011
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys