Rydych yma : Hafan > Oldford Hafan > Volunteering

Gwirfoddoli

Gwirfoddoli

‘Amser i chi ac amser i’r gymuned’

Gwirfoddolwr Ifanc? 

Pam Gwirfoddoli

Gellir disgrifio gwirfoddoli fel cannoedd o weithgareddau gwahanol y mae pobl yn dewis eu gwneud er mwyn bod o fudd i, neu i gefnogi, eraill yn y gymuned. Gellir disgrifio gwirfoddoli fel rhoi o’ch gwirfodd eich amser ac egni a hynny heb boeni am fantais ariannol.

Mae digon o fuddion i’w cael o wirfoddoli. Y cyntaf yw mai chi sy’n ei reoli; gallwch ddewis gweithgaredd sy’n addas i chi, a chi sy’n penderfynu faint hoffech ei wneud a phryd, gan ystyried ymrwymiadau eraill yn eich bywyd. 

Mae pobl yn gwirfoddoli ar adegau gwahanol yn ystod eu bywydau am resymau gwahanol:

·         Hwyrach eich bod chi am roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned leol neu i grŵp penodol sydd wedi helpu chi drwy gyfnod anodd yn eich bywyd chi

·         Hwyrach eich bod yn teimlo’n ynysig ac am gwrdd â ffrindiau newydd

·         Hwyrach eich bod yn ddi-waith/yn chwilio am yrfa newydd/wedi colli eich swydd, ac felly am ddysgu sgiliau newydd a chadw’ch hunan yn weithgar

·         Hwyrach eich bod yn meddu ar brofiadau a sgiliau yr hoffech eu trosglwyddo i eraill.

Mae llwyth o fanteisio yn deillio o wirfoddoli: 

·         Cynyddu hyder a hunan-barch

·         Cwrdd â phobl newydd mewn amgylchiadau tebyg

·         Dysgu sgiliau trosglwyddadwy

·         Rhoi cynnig ar brofiadau newydd

·         Helpu eraill yn ogystal â chi’ch hunan

·         Ac yn aml iawn, cael llawer o hwyl!

 

Mae nifer o gyfleoedd hyfforddi ar gael i chi fel gwirfoddolwr, ni ddylai effeithio ar eich budd-daliadau, ac mae llawer o fudiadau sy’n gofyn am wirfoddolwyr yn cynnig talu treuliau.  Ac mae’n edrych yn dda ar eich CV – mae llawer o gyflogwyr yn ystyried profiad o wirfoddoli yn ffafriol iawn.

Dod o hyd i gyfle i wirfoddoli

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, gellir dod o hyd i’r cyfle gorau i chi mewn un o ddwy ffordd.

Un ffordd yw cysylltu â’ch Biwro Gwirfoddolwyr lleol. Biwro Gwirfoddolwyr Gogledd Maldwyn yw’r un mwyaf tebygol i chi.

Cysylltwch â BGGM ar 01938 554484

Neu galwch heibio eu swyddfa yn: Swyddfa’r Ystâd, Oldford Rise, Y Trallwng, Powys.

 

Dull arall i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yw trwy ddefnyddio

Gwefan Gwirfoddoli yng Nghymru.

Mae hon yn wefan hawdd a gwych, fydd yn eich helpu i chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli lleol, ac yn esbonio mwy amdanyn nhw.

Bydd gwirfoddoli yn eich ysbrydoli i roi cynnig ar rywbeth newydd, yn eich helpu i gwrdd â phobl newydd, ac i roi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned chi. Felly, pam aros, beth am roi cynnig arni!

 

Gwirfoddolwyr Ifanc

Wyt ti rhwng 16 – 25 oed? Oes gen ti ddiddordeb mewn cael hwyl, a sbort gyda ffrindiau a dysgu sgiliau newydd?

Os felly, gall gwirfoddoli fod yn addas i ti. Dim bwys pa sgiliau sydd gen ti, mae cyfle i wirfoddoli yn rhywle fydd yn siwtio. O weithio gydag anifeiliaid neu blant, i gyhoeddusrwydd a cherdded ci, mae rhywbeth i’w wneud o hyd.

 

Mae GwirVol yn ymwneud â gwirfoddolwyr ifanc. Mae’n rhoi gwybodaeth ar wirfoddoli i berson ifanc, pa fath o bethau i’w disgwyl, ac mae’n cynnwys linc i Gwirfoddoli yng Nghymru lle gellir chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli yn dy ardal di.

 

Beth am ymuno â GwirForce?

Panel o wirfoddolwyr ifanc, digymell, llawn hwyl rhwng 16 – 25 oed yw GwirForce, sydd yn ymroddedig i hyrwyddo a datblygu gwirfoddoli ymysg pobl ifanc yng Nghymru.

Edrych ar GwirVol am fwy o wybodaeth.