Rydych yma : Hafan > Oldford Hafan > Pobl Ifanc > Eich Hawliau

Eich hawliau…

Eich hawliau...

'Hawliad' yw hawl sy'n cael ei roi drwy ddeddf. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gosod allan restr o Hawliau i blant Cymru a Hawliau mwy penodol i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.

Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru hawl cyfreithiol i rai pethau neilltuol - fel person ifanc rhwng 11 a 25 oed mae gennych hawliau estynedig. Cliciwch un o'r dolenni i weld mwy amdanynt a sut gallwch chi gael gafael arnynt ...

Addysg, Hyfforddiant a phrofiad gwaith - addysg, hyfforddiant a phrofiad gwaith sydd wedi'u teilwra i'ch anghenion chi.

Addysg

Mae gennych hawl i addysg, hyfforddiant a phrofiad gwaith wedi'u teilwra i'ch uchelgais a hyfforddiant mewn sgiliau sylfaenol i agor drysau i ddyfodol gwell i chi.

Mae cymaint o ddewisiadau a phenderfyniadau am beth i'w wneud nesaf gyda'ch bywyd a gall y rhain fod yn anodd a dyrys, ond peidiwch â phoeni, mae llwyth o bobl sy'n gallu eich helpu i wneud y dewisiadau iawn ar eich cyfer chi. Os ydych angen help i wneud penderfyniadau am eich addysg neu gyngor am ba gymwysterau y byddwch eu hangen i gael eich swydd ddelfrydol yna gallwch siarad â rhywun yn eich swyddfa Gyrfaoedd Cymru leol. Gallwch roi galwad i'w Swyddfa Gogledd Powys ar 01686 626959 am gyngor neu gallwch alw i mewn i'r swyddfa yrfaoedd yn Y Drenewydd.

Gwirfoddoli

Yn ogystal â mynd i'r ysgol, coleg, prifysgol neu waith, mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ddysgu, datblygu sgiliau newydd a chyfarfod pobl newydd. Mae cymaint o bethau y gallwch gymryd rhan ynddynt - mae'n dibynnu beth yw eich diddordeb. Gall Biwro Gwirfoddolwyr Gogledd Sir Drefaldwyn roi cyngor i chi am y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael felly pam na wnewch chi ymweld â hwy yn eu swyddfa ar Stad Oldford neu rhowch alwad iddynt ar 01938 554484.

Mwy o gysylltiadau addysg defnyddiol:

Rhowch alwad i Adran Addysg Cyngor Sir Powys ar 01686 626395 os oes gennych unrhyw gwestiynau cyffredinol am addysg.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth a chyngor os ydych yn cael eich bwlio yn yr ysgol.

Ydych chi'n cael eich bwlio?

Os byddai'n well gennych guddio adre a pheidio mynd i'r ysgol am eich bod yn cael eich bwlio, yna mae'n amser gwneud rhywbeth a chael help!

Beth yw bwlio?

Gallwch gael eich bwlio mewn llawer o wahanol ffyrdd:

  • Galw enwau
  • Cymryd pethau oddi wrthych
  • Dyrnu, cripio, tynnu gwallt
  • Gwneud pethau i fyny er mwyn eich cael i drafferth
  • Anfon negeseuon testun cas atoch
  • Dweud straeon cas amdanoch

BBC

Kidscape