Cyngor Gyrfaoedd - cyngor ac arweiniad gyrfaoedd annibynnol, arbenigol a gwasanaethau cefnogi a chynghori myfyrwyr.
Cyngor Gyrfaoedd
Gall chwilio am swydd fod yn waith rhwystredig, yn enwedig os ydych wedi bod yn ddi-waith ers amser. Os yw dod o hyd i waith yn anodd, yna peidiwch â phoeni - mae llawer o bobl sy'n gallu rhoi'r cyngor a chefnogaeth yr ydych eu hangen i chi.
Gall eich swyddfa Gyrfaoedd Cymru leol ddweud popeth yr ydych angen ei wybod wrthych am gael eich swydd ddelfrydol. Maent yn rhoi help gyda phopeth o ysgrifennu eich CV a ffurflenni cais i berffeithio eich techneg mewn cyfweliadau. Gallwch roi galwad iddynt ar rif rhadffôn ar : 0800 1830283 neu gallwch alw i mewn yn un o'u siopau yn: Aberdâr, Aberhonddu, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Llandrindod, Merthyr, Y Drenewydd, Pontypridd, Tonypandy.
Gall eich swyddfa Canolfan Waith a Mwy leol roi gwybodaeth a chyngor i chi am swyddi a chyfleoedd hyfforddi hefyd. Os ydych yn edrych am waith rhan amser neu dros y pen wythnos yna mynd i un o'r rhain sydd orau i weld beth sydd ar gael i chi. Mae ganddynt siopau dros Bowys gyfan. I gael rhif eich Canolfan Waith a Mwy leol rhowch alwad i 0845 6060 234
Mae gwirfoddoli yn ffordd ardderchog o gael profiad gwaith ac ennill sgiliau newydd sy'n edrych yn dda ar eich CV a bydd yn eich helpu i gael y swydd yr ydych ei heisiau. Gallwch gysylltu â'ch Biwro Gwirfoddoli lleol a fydd yn rhoi cyngor a gwybodaeth i chi am y cyfleoedd sydd ar gael i chi.
Os ydych rhwng 14 a 30 oed ac yr ydych yn brwydro i roi eich bywyd mewn trefn yna gall Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru gynnig cefnogaeth ymarferol yn cynnwys hyfforddiant, mentora a chymorth ariannol.
Maent yn helpu pobl i drawsnewid eu bywydau ac yn canolbwyntio ar bobl oedd yn cael trafferth yn yr ysgol, wedi bod mewn gofal, wedi bod ar ochr anghywir y gyfraith neu wedi bod heb waith yn y tymor hir. Rhowch alwad i 0800 842 842 a chewch eich trosglwyddo i swyddfa leol yr Ymddiriedolaeth.
Cefnogaeth Bersonol - cefnogaeth a chyngor cyfrinachol am faterion sy'n bwysig i chi.
Cefnogaeth Bersonol
Mae gennych hawl i gefnogaeth a chyngor cyfrinachol am faterion sy'n bwysig i chi.
Gallwch anfon e-bost atom ni os ydych yn teimlo eich bod eisiau gofyn cwestiwn neu gynnig sylwadau am Bowys a byddwn yn gwneud ein gorau i hysbysu'r bobl gywir am eich barn.
Os ydych angen gwybodaeth am unrhyw beth yna gallwch ymweld â: gwefan Gwasanaethau Ieuenctid Powys gwefan neu cysylltwch â Chris Jones ar 01597 826483 a gofynnwch. Yn y rhain byddwch yn dod o hyd i wybodaeth a thaflenni am nifer o destunau, neu gallwch siarad yn gyfrinachol ag aelod staff am unrhyw fater neu broblem sydd gennych. Os bydd yr aelodau staff yn methu eich helpu am unrhyw reswm, byddant yn gallu rhoi manylion rhywun sydd yn gallu helpu i chi. BYDD RHYWUN AR GAEL SY'N GALLU EICH HELPU BOB AMSER
Cyngor am Iechyd, Tai, Budd-daliadau a materion eraill mewn lleoliadau croesawgar a hygyrch.
Iechyd
Os ydych yn cael problem gyda'ch iechyd, yna dylech siarad â'ch meddyg teulu bob amser, gan mai ef/hi sy'n eich adnabod orau. Os ydych yn ansicr pa un yw'r feddygfa agosaf, yna gallwch weld rhestr lawn o feddygfeydd Powys drwy glicio yma -
Os oes genych unrhyw gwestiynau am eich iechyd, neu rydych o dan bwysau neu'n unig, yna un dewis sydd ar gael i chi yw mynd i weld eich nyrs ysgol. Byddant yn gwrando ar unrhyw broblem sydd gennych yn gyfrinachol, yn rhoi cyngor a cheisio'r ateb gorau bosibl. I wneud apwyntiad, dylech ddod o hyd i aelod o staff yr ydych yn ymddiried ynddo/ynddi a gofyn sut i wneud apwyntiad gyda'r nyrs - neu holi os gwnânt y trefniadau yn eich lle.
Os nad ydych eisiau gwneud yr un o'r rhain, yna gallwch gael cyngor meddygol cyfrinachol a gwybodaeth iechyd drwy roi galwad i NHS Direct Wales ar 0845 46 47.
Meddygon, Deintyddion ac Optegwyr
Defnyddiwch wefan GIG Cymru i ddod o hyd i'ch gwasanaethau GIG agosaf, optegwyr, deintyddion, fferyllfeydd a mwy.
Iechyd Rhywiol
Os ydych angen gwybod mwy am ddulliau gwrthgenhedlu, clefydau cysylltiadau rhywiol, beichiogrwydd neu erthyliad yna
Mae gan wefan y BBC wybodaeth am faterion iechyd rhywiol yn cynnwys perthnasoedd, clefydau cysylltiadau rhywiol, dulliau gwrth genhedlu a mwy www.bbc.co.uk
Mae Cymdeithas Cynllunio Teulu (The Family Planning Association) wybodaeth am bopeth yr ydych angen ei wybod am bwnc iechyd rhywiol. www.fpa.org.uk
Mae gan Patient UK wybodeth am bob dull gwrthgenhedlu sydd ar gael. www.patient.co.uk
Mae gan GIG Cymru dudalen 'menywod' sydd yn ymdrin â materion erthyliad, dulliau gwrthgenhedlu, cynllunio beichiogrwydd ac iechyd rhywiol. http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/small/en/home/healthinformation/women
Gwasanaeth Cam-drin Sylweddau
Os ydych angen cyngor cyfrinachol am gamdriniaeth sylweddau, neu os ydych eisiau gwybodaeth yna defnyddiwch y dolenni isod
Canolfannau Cyffuriau ac Alcohol Powys (PDAC) - maent wedi'u lleoli yn Llandrindod: 01597 825102, ond maent yn cyrraedd llawer o leoliadau ym Mhowys. I wybod mwy am y lleoliadau hyn a mwy am eu gwaith ewch i: http://www.pdac.org.uk/
Mae Adfam yn elusen genedlaethol sy'n gweithio gyda theuluoedd sydd yn cael eu heffeithio gan gamdriniaeth sylweddau. http://www.adfam.org.uk/
Sefydlwyd menter WIRED wedi cael ei sefydlu i helpu unigolion, teuluoedd a chymunedau i daclo camdriniaeth sylweddau. http://www.wiredinitiative.com/
Tai
P'run ydych yn meddwl am adael cartref, neu wedi gadael yn barod, mae llawer o ddulliau a lleoedd i gael cyngor. Bydd y cyngor hwn yn gwneud yn siwr eich bod yn dod o hyd i le diogel a chyfforddus i fyw, neu bydd yn eich helpu i ddatrys unrhyw broblemau yr ydych yn eu cael yn eich cartref presennol.
Tai Fforddiadwy
Mae nifer o ddewisiadau ar gael i chi os ydych yn chwilio am gartref fforddiadwy neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn.
Efallai bydd gennych hawl i fudd-dal tai; cymorth ariannol yw hwn i bobl nad ydynt yn gallu fforddio'r rhent gofynnol am eu cartref. Bydd swyddfa Cyngor ar Bopeth ym Mhowys yn rhoi cyngor i chi am fudd-daliadau tai, a gallwch gal gafael arnynt ar 08456018241. Gallwch gael cyngor hefyd ar www.adviceguide.org <http://www.adviceguide.org>
Sefydlwyd cynlluniau cymunedol i helpu darparu tai fforddiadwy gydag atebion ariannol gwahanol. Am fwy o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn y rhain cysylltwch â Terry Flynn, Swyddog Datblygu Strategaeth Tai Gwledig Cyngor Sir Powys, ar terry.flynn@powys.gov.uk, neu rhowch alwad iddo ar 01874 612297.
Gallwch edrych hefyd ar y dolenni defnyddiol canlynol am dai fforddiadwy:
Cymdeithas Dai Canolbarth Cymru, neu rhowch alwad iddynt ar 01686 627 476.
Affordable Homes UK – darparwr tai fforddiadwy.
Lees Associates – darparwr tai fforddiadwy arall.
Cit arfau tai fforddiadwy gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
DEFRA, UK - Taflen ffeithiau tai fforddiadwy.
Asiantaeth Hunan-Adeiladu Cymunedol yn creu cyfleoedd i bobl sydd angen tai.
Canolfan Gydweithredol Cymru - asiantaeth gynhwysfawr ar gyfer datblygu'r economi gymdeithasol.
Cyngor Sir Powys
Tai Cyngor
Os ydych yn byw mewn t_ cyngor ac mae gennych gwestiynau am eich cartref, neu os ydych eisiau gwybod mwy am sut i gael t_ cyngor, yna dylech alw'r adran tai yn eich cyngor lleol ar 01654 702374.
Os ydych yn chwilio am gartref fforddiadwy i fyw ynddo, gallwch gael cyngor a gwybodaeth gan Gymdeithas Dai Cymru a'r Gorllewin. Rhowch alwad iddynt ar 0870 013 1930 a byddant yn eich helpu i ddod o hyd i rywle fydd yn bodloni'ch anghenion ym Mhowys.
Cymdeithas Tai Clwyd Alyn
Ffôn: 01938 556284 http://www.clwydalyn.co.uk
TPAS Cymru yw'r prif fudiad cyfranogaeth tenantiaid yng Nghymru, yn helpu i hybu perthnasoedd cynaliadwy rhwng tenantiaid a landlordiaid. http://www.tpascymru.org.uk/index.htm
Budd-daliadau
Os ydych yn meddwl eich bod yn gymwys i hawlio arian ychwanegol ar ffurf budd-daliadau yna gallwch gael cyngor a gwybodaeth a yw hynny yn bosibl mewn gwirionedd. Os byddwch yn cysylltu ag Adran Budd-daliadau Cyngor Sir Powys ar 0845 055 1355 byddant yn gallu eich helpu i ganfod beth yw eich hawl a rhoi cyngor i chi am sut i fynd o'i chwmpas i'w hawlio.
Hefyd, gallwch siarad â rhywun yn eich Cyngor ar Bopeth lleol, gan fod ganddynt Unedau Dyledion a Lles sy'n arbenigo mewn rhoi cyngor am fudd-daliadau, felly byddant yn gallu eich helpu i hawlio eich arian. Gallwch alw i mewn i siarad â rhywun neu rhowch alwad a gwneud apwyntiad ar:
Cyngor ar Bopeth
Mae gan y llywodraeth ystod lawn o wybodaeth a chyngor am bob mater cyhoeddus ar ffurf hawdd ei ddeall. http://www.direct.gov.uk/en/MoneyTaxAndBenefits/
Canolfan Cyngor am Ddyled http://www.debtadvisorycentre.co.uk/
neu rhowch alwad i 0800 970 7724
Cyngor Sir Powys, adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol http://www.powys.gov.uk/index.php?id=285
Cefnogaeth Cefn Gwlad Cymru http://www.ruralsupportwales.org.uk/stress-help-powys.php
Neu gallwch glicio yma <http://www.dss.gov.uk/lifeevent/benefits/atoz.asp> am A-Z o Fudd-daliadau ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Cyfleoedd Hamdden, Adloniant a Chwaraeon ar eich cyfer mewn amgylchedd diogel.
Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Mae llawer o bethau i chi eu gwneud y gallwch gymryd rhan ynddynt yn eich ardal leol: felly beth bynnag yw'ch diddordeb - o chwaraeon i arddio a phopeth rhyngddyn - yna pam na wnewch chi edrych ar y dolenni canlynol i gael gwybod am weithgareddau, cymdeithasau a chlybiau yn eich ymyl chi, a chymryd rhan.
Mae gan Gyngor Sir Powys wybodaeth am bob canolfan hamdden ym Mhowys, felly cliciwch yma i weld pa un yw'r agosaf atoch. http://www.powys.gov.uk/index.php?id=423
Mae Explore Mid-Wales yn wefan ragorol i'r rhai ohonoch sy'n hoffi'r awyr agored. Mae'n rhoi gwybodaeth am ba weithgareddau sydd ar gael yng Nghanolbarth Cymru
http://tourism.powys.gov.uk/index.php?id=27
Mae gan Gyngor Sir Powys wybodaeth a ffeithiau difyr am hanes Powys, felly os oes gennych ddiddordeb mewn hanes lleol cliciwch yma http://www.powys.gov.uk/index.php?id=99
Fforymau
Un ffordd wych o ddarganfod beth sydd yn mynd ymlaen yn eich cymuned yw drwy fforymau. Fforymau yw cyfarfodydd lle mae gr_p o bobl yn cyfarfod i drafod pethau sy'n bwysig iddynt ac mae'r rhain yn ffordd ragorol o gymryd rhan a chael clywed eich llais.
Mae pymtheg o fforymau cymunedol ym Mhowys ar hyn o bryd, felly defnyddiwch y ddolen isod i ddod o hyd i'r agosaf. Gallwch gysylltu hefyd â'ch Gweithiwr Datblygu Cymunedol o'r wefan hon a gall ef/hi roi mwy o wybodaeth i chi am Fforymau Cymunedol.
http://community-strategy.powys.org.uk/index.php
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ffordd ardderchog o gyfarfod pobl newydd, cael profiad gwaith ac ennill sgiliau newydd.
Gallwch ddysgu mwy am y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael i bobl ifanc ym Mhowys drwy ymweld â'ch Biwro Gwirfoddoli lleol
Mae gan y wefan hon bob math o wybodaeth arni a thudalen gwirfoddolwyr. http://www.youthinformation.com/Templates/Internal.asp?NodeID=92084
Youth 2 Youth yw'r llinell gymorth ieuenctid gyntaf sy'n cael ei rhedeg gan bobl ifanc i bobl ifanc. Cymrwch ran drwy lenwi'r ffurflen gais ar gyfer penwythnos hyfforddi neu i wybod mwy cliciwch yma http://www.youth2youth.co.uk/
Mae Project Trust yn ffordd wych dros ben o weld y byd a helpu cymuned dramor! http://www.projecttrust.org.uk/
Dolenni defnyddiol eraill
Cyngor Chwaraeon Cymru yw'r corff cenedlaethol sy'n gyfrifol am hybu a datblygu gweithgareddau chwaraeon yng Nghymru.
http://listings.easycinema.com/results mae easycinema yn wefan genedlaethol i ddilynwyr ffilmiau. Gallwch chwilio yn ôl eich cod post i weld beth sydd ymlaen yn eich sinema leol.
http://www.bbc.co.uk/wales/mid Mae gwefan y BBC yn un hawdd i'w defnyddio ar gyfer beth sy'n digwydd yn eich ardal chi.
http://www.sports-council-wales.org.uk/ Ewch i wefan Cyngor Chwaraeon Cymru am unrhyw wybodaeth, newyddion a digwyddiadau sy'n digwydd yn y byd chwaraeon.
Datblygu Profiadau Chwaraeon, Cerddorol a Phrofiad Awyr Agored i ddatblygu eich talentau ac ehangu eich syniadau.
Profiadau i ehangu eich gorwelion
Mae gennych hawl i brofiadau chwaraeon, celfyddydol, cerddorol ac awyr agored i ddatblygu ac ehangu eich syniadau.
Mae llawer o weithgareddau a dewisiadau ar gael i chi, beth bynnag sy'n eich diddori. I ddod o hyd i fwy am grwpiau, cymdeithasau, clybiau neu sefydliadau y gallwch gyfrannu atynt yna ewch i
http://education.powys.gov.uk/english/cyp/index.php
neu rhowch alwad i Chris Jones, Uwch Reolwr y Gwasanaethau Ieuenctid ar 01597 826483
Mae gwirfoddoli yn ffordd dda o gael profiadau a sgiliau newydd hefyd, felly ewch i wefan Gwirfoddoli Cymru a gweld pa gyfleoedd sydd yn eich ardal chi. Gall Biwro Gwirfoddolwyr Gogledd Sir Drefaldwyn roi cyngor i chi am y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael felly rhowch alwad iddynt ar 01938 554484.
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys